Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad. Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 i'w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 eu cadarnhau'n gofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
Dolenni Ymgynghori Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffodd y Blaen Swyddog yr Aelodau o'r ymgynghoriadau a oedd yn agored i Aelodau ymateb iddyn nhw pe hoffen nhw wneud hynny. |
|
Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd PDF 154 KB Rhoi cyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyflwyno sylwadau am Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a hynny'n dilyn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth, fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn rhoi cyfle iddyn nhw ymateb yn ffurfiol i'r Ymgynghoriad ar y drafft o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd (Atodiad A). Mae hyn yn gam gofynnol gan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 cyn i'r strategaeth gael ei chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Gorffennaf 2023
Dywedodd wrth yr Aelodau fod y Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni nifer o ddyletswyddau o ran cyfranogiad, gan gynnwys yr isod:
• Hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r swyddogaethau y mae'r Cyngor yn eu cyflawni ymhlith trigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr. • Rhannu gwybodaeth am sut i fynd ati i ddod yn aelod etholedig – neu gynghorydd – a beth mae bod yn gynghorydd yn ei olygu • Gwella'r modd i gyrchu gwybodaeth am benderfyniadau sydd wedi’u gwneud, neu a fydd yn cael eu gwneud gan y Cyngor • Darparu a hyrwyddo cyfleoedd i drigolion roi adborth i'r Cyngor, gan gynnwys sylwadau, cwynion a mathau eraill o sylwadau • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â thrigolion.
Cyfeiriodd Aelod at Adran 3 yr adroddiad a gofynnodd sut mae mesur llwyddiant, a beth yw'r meincnodau o ran sicrhau bod targedau'n cael eu bwrw. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, bod tystiolaeth ar gael o gyfranogiad y cyhoedd drwy ein hymgynghoriadau, lle ceisir barn ar benderfyniadau allweddol neu newidiadau i wasanaethau. Serch hynny , mae modd i feincnodi fod yn dasg anodd oherwydd ei bod hi'n haws sicrhau cyfranogiad y cyhoedd pan fydd pwnc anodd yn cael ei drafod. Un o'r gwelliannau mae'r Cyngor yn ei ystyried yw rhoi cyfle i'r cyhoedd ddylanwadu ar raglenni gwaith y Pwyllgor. Ychwanegodd fod data ar gael mewn perthynas â'r nifer sy'n gwylio darllediadau byw o gyfarfodydd, ond roedd yn cydnabod bod llawer mwy y gallai'r Cyngor ei wneud wrth edrych i'r dyfodol.
Gwnaeth Aelod sylwadau ar hygyrchedd y Strategaeth, gan awgrymu bod fersiwn hawdd ei darllen, a fyddai'n fwy deniadol ac yn haws ei deall, ar gael i'r cyhoedd.
Gofynnodd Aelod a oedd modd i'r Cyngor wneud rhagor i gynnwys y cyhoedd yn y broses Graffu er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn effro i'r cyfarfodydd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, fod llawer o feysydd mae modd gwella arnyn nhw, megis hyrwyddo Blogiau Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu a gyhoeddwyd yn ddiweddar, a byddwn ni'n parhau i adeiladu ar y rhain. Er bod y mecanwaith bob amser wedi bod yn ei le i'r cyhoedd gymryd rhan mewn cyfarfod Craffu/Cyngor, efallai nad yw'r ddogfen wedi bod mor weladwy ag y gallai fod. Unwaith y bydd y Strategaeth wedi’i chymeradwyo, bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i gyfeirio trigolion ati a'i rhannu’n well ar dudalennau gwe ein Cyngor, megis baner ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Cynllunio Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu PDF 114 KB Trafod Rhaglen Waith y Cabinet a nodi eitemau allweddol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu trafod.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yr adroddiad i'r Aelodauer mwyn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu adolygu Rhaglen Waith y Cabinet i benderfynu a oes eitemau yr hoffai eu cynnwys yn y Rhaglen Waith ar faterion Craffu. Roedd hefyd yn gyfle i ystyried eitemau i’w cyfeirio at y Pwyllgorau Craffu thematig, at ddibenion Rhag-graffu a'u cefnogi wrth benderfynu ar Raglen Waith.
Atgoffwyd yr Aelodau y bydd y Rhaglenni Gwaith Craffu yn parhau i fod yn ddogfennau “gwaith” hyblyg, a fydd yn caniatáu ar gyfer mabwysiadu agwedd fwy hyblyg a chydnabod anghenion a blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg, gan roi cyfle i Weithgorau Craffu gael eu datblygu a darparu hyfforddiant yn ôl yr angen.
Hysbysir y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, lle mae eitemau wedi’u nodi'n rhan o’r adran diweddariadau parhaus yn rhaglen waith y Cabinet, y bydd amserlenni penodol yn cael eu nodi a bydd cyfle’n cael ei roi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu benderfynu a ddylid ychwanegu materion o’r fath i'w Raglen Waith i'w hystyried.
Gofynnodd Aelod a fyddai Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) yn mynd i’r Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant fel y mae wedi’i wneud yn flynyddol o’r blaen. Gofynnodd yr Aelod hefyd a allai adroddiad ehangach ddod gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyda thargedau a dangosyddion cyflawniad penodol, teimlai’r Aelod fod hyn yn angenrheidiol i amlygu pwysigrwydd y gwaith ar Gynllun y Gymraeg.
Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd y Pwyllgor Addysg yn ystyried y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg mewn cyd-destun Addysg, ond gallem hefyd ddod ag adroddiad gerbron y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar adeg briodol fel y gall Aelodau gael eu diweddaru a chraffu ar y gwaith partneriaeth o ran Cymraeg mewn Addysg.
Gofynnodd yr Aelodau i'r eitemau canlynol gael eu dwyn ymlaen hefyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu hystyried ar adeg briodol.
PENDERFYNWYD:
Cytuno ar y materion sy'n codi o Raglen Waith y Cabinet i'w cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24 a'r materion a godwyd gan Aelodau, fel uchod.
Cytuno i gynnwys y pynciau a restrir yn 6.1 o'r adroddiad yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu neu, lle bo angen, cyfeirio materion o'r fath i'r Pwyllgorau Craffu thematig. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Doedd dim materion brys. |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Dogfennau ychwanegol: |