Agenda a Chofnodion

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol

hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd S Evans wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 4, gan ei bod hi'n gweithio i Brifysgol De Cymru ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at y Brifysgol.

Roedd y Cynghorydd J Edwards wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 4, cyfeirir at ei chyflogwr, Interlink, yn yr adroddiad.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 194 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2023 i'w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 10 Hydref yn gofnod cywir o’r cyfarfod

53.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Blaen Swyddog Craffu wybod am yr ymgynghoriadau sydd ar gael i Aelodau ar hyn o bryd.  Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod modd iddyn nhw gysylltu â'r Garfan Graffu drwy e-bostio'r mewnflwch Craffu

54.

ADRODDIAD CYDRADDOLDEB BLYNYDDOL 2021-22 pdf icon PDF 303 KB

Ymgymryd â gwaith cyn y cam craffu ar Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021-22

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2021/22 i'r Aelodau er mwyn cynnal gwaith cyn y cam craffu a rhoi adborth a sylwadau cyn i'r Cabinet drafod yr adroddiad.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol wedi

cael ei lunio er mwyn cyflawni gwahanol ddyletswyddau a rhwymedigaethau

cyfreithiol y Cyngor er mwyn cofnodi ei gynnydd o ran cyflawni

Dyletswyddau Cydraddoldeb Cyffredinol a Phenodol. Gofynnwyd i Aelodau

drafod a yw'r adroddiad yn cynnwys yr wybodaeth berthnasol sydd ei

hangen i gyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor i

adrodd ar sut mae'r Cyngor wedi bodloni'r Ddyletswydd Cydraddoldeb

Gyffredinol sydd wedi'i nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Croesawodd Aelodau'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a chafodd y sylwadau canlynol eu gwneud.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut caiff yr effeithiau sydd wedi'u nodi eu gwerthuso a sut y bydd hyn yn llywio arferion yn y dyfodol. Roedd Aelodau wedi nodi'r gwahaniaeth o ran nifer y menywod a dynion sydd mewn swyddi uwch, a'r nifer uchel o fenywod sy'n derbyn cyflog isel o'u cymharu â nifer y gweithwyr.

Nododd y Rheolwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb fod yr amcanion a'r effaith wedi'u cynnwys yn rhan o Gynlluniau Darparu Gwasanaeth.  Ychwanegodd fod gan y garfan gyfarfod gyda'r Uwch Garfan Rheoli i drafod sut rydyn ni'n adolygu data er mwyn mesur yr effaith yn well.  Aeth y Rheolwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb ymlaen i ddweud ein bod ni'n gobeithio gweld rhagor o dargedau amrywiaeth o ran hil a chydraddoldeb rhywiol yn y Cyngor.  O ran yr aelodau o staff benywaidd sydd mewn swyddi uwch, ychwanegodd fod cynnydd wedi'i wneud yn y maes yma ond mae angen gwneud rhagor, mae'r cynnydd yma wedi'i effeithio gan y penderfyniad i rewi'r broses recriwtio o ganlyniad i'r pwysau ar y gyllideb.

 

Holodd Aelod a yw'r Swyddogion yn hyderus bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cynnal wrth i'r Cyngor ddatblygu strategaethau newydd.

Rhoddodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chydraddoldeb wybod bod y garfan wedi bod yn canolbwyntio ar gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb dros y 18 mis diwethaf, a chafodd Asesiad ei gynnal ar gyfer pob penderfyniad mawr.  Ychwanegodd ei bod hi'n hyderus yn y broses yn sgil sefydlu Panel Adolygu. Mae hi'n aelod o'r panel sydd hefyd yn cynnwys swyddogion o amrywiaeth o adrannau'r Cyngor sy'n rhoi cyngor ar yr asesiadau effaith.

 

Nododd Aelod eu bod nhw'n falch o weld adroddiad manwl a hefyd bod cynnydd yn cael ei wneud mewn perthynas â'r agenda ar gyfer materion Cydraddoldeb a Chynhwysiant, yn enwedig o ran cynyddu'r amrywiaeth ymhlith aelodau etholedig. Mae CBSRhCT ymhlith y Cynghorau gorau o ran cynrychiolaeth dynion a menywod, ac mae gan y Cyngor rhai o'r Aelodau Etholedig ieuengaf yng Nghymru ac am y tro cyntaf mae cynrychiolydd BAME yn Siambr y Cyngor. 

 

Nododd Aelod arall eu bod nhw'n falch o weld gwelliant o ran gwaith ymgysylltu y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr adborth a dderbyniwyd yn rhan o sesiwn ar faterion Awtistiaeth lle cafodd swyddogion gyfle i ymgysylltu â theuluoedd a chynhalwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

CYNLLUN GWEITHREDU STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG 2022-2027 pdf icon PDF 110 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau'r Gymuned sy'n trafod Cynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022-2027 (Atodiad 1)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cymuned a'r Gymraeg y Cynllun Gweithredu ar gyfer Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022-2027 i Aelodau, gan geisio barn, sylwadau ac argymhellion y Pwyllgor mewn perthynas â'r cynllun gweithredu cyn iddo gael ei drafod gan Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg

 

Noddodd Aelod eu bod nhw'n falch o weld bod Swyddog yr Eisteddfod eisoes wedi bod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i gynyddu lefelau ymgysylltu a chyfranogiad.  Roedd yr Aelod wedi holi a fydd targedau'n cael eu pennu mewn perthynas â hyn, gan gynnwys cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Holodd yr Aelod a oedd Comisiynydd y Gymraeg wedi ymgysylltu â'r Cynllun Gweithredu a'r Strategaeth.  Nododd Aelod y byddan nhw'n hoffi gweld rhagor o gyfleoedd a chyfeiriadau at y Gymraeg fel iaith fyw, nododd fod siaradwyr Cymraeg sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg yn aml yn colli hyder yn eu sgiliau ac felly dydyn nhw ddim yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg. 

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymraeg fod cynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn RhCT ond mae'n anodd gweld yr effaith ar bob ardal, ond pwysleisiodd fod yr Awdurdod Lleol yn gwneud ei orau i brif-ffrydio'r Gymraeg.  Nododd nad oes unrhyw dargedau penodol ar hyn o bryd ar gyfer yr Eisteddfod a bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn rhan o gynlluniau busnes a chynlluniau gweithredu.  Ychwanegodd fod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor yn cael ei hyrwyddo ac yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi'i gynnal ac yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun gweithredu. 

Daeth y Rheolwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymraeg i ben drwy nodi na fyddai'r Comisiynydd fel arfer yn rhoi adborth ar gynllun pum mlynedd, ond mae'r Comisiynydd yn falch o weld ein bod ni wedi llunio'r strategaeth yma.  Rydyn ni hefyd wedi derbyn adroddiad annibynnol gan NICO yn rhan o ofyniad statudol

 

Holodd Aelod pa ddull fydd yn cael ei gynnig i sicrhau bod pawb yn y gymuned yn teimlo bod modd iddyn nhw gael eu cynnwys mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, yn enwedig mewn llyfrgelloedd lleol. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Gwasanaeth y Llyfrgelloedd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu a byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â'n partneriaid i annog y cysylltiadau hynny â'r gymuned.  Ychwanegodd ein bod ni'n annog y sawl sy'n trefnu gweithgareddau i'w cynnig yn Saesneg ac yn Gymraeg.

 

 

Cyfeiriodd Aelod at nifer y dysgwyr sy'n dewis gadael addysg cyfrwng Cymraeg gan argymell bod yr Awdurdod yn monitro'r data yma yn ogystal â'r rhesymau dros adael.  Roedd yr Aelod yn ymwybodol o rai enghreifftiau, megis diffyg darpariaeth ADY yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg a diffyg hyder y rhieni sy'n teimlo nad oes modd iddyn nhw gefnogi'u plant wrth wneud gwaith cartref a gweithgareddau allgyrsiol

 

Holodd y Cadeirydd pa rwystrau posibl sydd yna wrth ymgysylltu â'r Gymraeg y mae modd i ni eu harchwilio, megis cysylltiadau ag amddifadedd.  Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth drwy ddweud bod data'r cyfrifiad yn dangos pa mor anodd yw hi i hyrwyddo'r Gymraeg a bod angen mynd i'r afael â  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

Y Strategaeth Ddatgarboneiddio Gorfforaethol a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 139 KB

Cynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r Strategaeth Ddatgarboneiddio Gorfforaethol ddrafft a'r cynllun gweithredu sefydledig cyn i'r Cabinet eu mabwysiadu'Cynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r 'Strategaeth Ddatgarboneiddio' Gorfforaethol ddrafft a'r 'Cynllun Gweithredu' sefydledign ffurfiol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Derbyniodd Aelodau gyflwyniad am y Strategaeth Ddatgarboneiddio Gorfforaethol a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig er mwyn cynnal gwaith cyn y cam craffu cyn i'r Cabinet drafod y strategaeth.

 

Nododd Aelod eu bod nhw'n mynd i'r afael â'r her enfawr y mae angen ei blaenoriaethu a'i chymryd o ddifri.  Er mwyn cefnogi dealltwriaeth yr Aelodau o'r heriau sy'n cael eu hwynebu, roedd Aelodau wedi gofyn bod pob Aelod yn derbyn hyfforddiant fel bod modd iddyn nhw anfon neges glir mewn perthynas â'r problemau cyffredin a chymryd camau er mwyn mynd i'r afael â nhw.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu â hyn gan ychwanegu y bydd yn cael ei ychwanegu at y Rhaglen Hyfforddi i Aelodau ar gyfer 2023-24.  Cytunodd Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon gan nodi y bydd pob Aelod yn cael ei (h)annog i ymgysylltu â'r broses yma yn y dyfodol ac yn derbyn cymorth gan Swyddogion wrth wneud hyn.  Ychwanegodd y bydd hyn yn cael ei ystyried yn rhan o adroddiadau sy'n cael eu cyflwyno i Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd yn y dyfodol.

 

Holodd Aelod a fyddai modd i'r Awdurdod adolygu'i weithdrefnau caffael i sicrhau bod cyflenwyr lleol yn cael eu defnyddio lle bo modd, yn enwedig mewn lleoliadau sy'n eiddo i'r Cyngor, megis theatrau, parciau a sinemâu.   Bydd hyn yn cefnogi'r Strategaeth Ddatgarboneiddio Gorfforaethol yn ogystal â buddsoddi arian yn ein heconomi leol.

 

Ychwanegodd Aelod arall ei bod hi'n hyfryd gweld strategaeth gynhwysfawr mewn perthynas ag agenda sy'n hollbwysig ar gyfer y dyfodol.  Holodd sut mae modd i Aelodau gefnogi trigolion i gyfrannu at nodau ac amcanion y Strategaeth.  Mae angen i ni weld llai o geir ar y ffyrdd a rhagor o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Sut mae modd i ni gefnogi hyn?

 

Rhoddodd Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wybod y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd nes ymlaen yn yr wythnos, bydd hyn yn mynd i'r afael â'r cwestiwn yma gan nodi newidiadau bach y mae modd i drigolion eu gwneud.  Byddwn ni hefyd yn datblygu cynlluniau Cyfathrebu mewn perthynas â'r meysydd yma - bydd y rhain yn cynnwys cymorth ar gyfer pob cymuned fel bod modd i ni wneud newidiadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd.  Bydd y camau nesaf yn cynnwys rhannu'r cynlluniau yn ffrydiau gwaith gwahanol ar gyfer pob maes gwasanaeth ac ychwanegu amserlenni. 

 

Roedd Aelod wedi argymell bod y Cyngor yn cymryd camau rhagweithiol mewn perthynas â hyrwyddo prydau sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd megis prydau heb gig, prydau sy'n defnyddio planhigion, yn enwedig yn rhan o wasanaethau prydau yn y gymuned, yn ystod y broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim ac yn ystod achlysuron yn y gymuned, a hynny er mwyn cefnogi'r Strategaeth a sicrhau bod yr Awdurdod yn darparu gwasanaeth sy'n bodloni ystod eang o anghenion dietegol.  Roedd yr Aelod hefyd wedi nodi ei bod hi'n bosibl y bydd trigolion yn dewis prydau cynaliadwy os oedden nhw'n effro i ôl-troed carbon pob pryd  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

DARLUN O RAN RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD - ADRODDIAD ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU pdf icon PDF 144 KB

Llywio'r gwaith o graffu ar reoli perygl llifogydd ledled Cymru a cheisio adborth y Pwyllgor mewn perthynas â chyflwyno'r wybodaeth sydd yn Atodiad 1 yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y cyflwyniad i Aelodau sy'n rhannu manylion y mesurau rheoli perygl llifogydd ledled Cymru, gan geisio sylwadau'r Pwyllgor mewn perthynas â'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1.

 

Roedd Aelodau wedi diolch i Andrew Stone a'i garfan am y gwaith caled sydd wedi'i wneud dan amgylchiadau heriol iawn. Roedd yr Aelod wedi argymell bod strategaethau byr dymor, tymor canolig a hir dymor sy'n mynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu, a hynny ar sail y lefelau risg y mae'r perygl yma'n eu cyflwyno a'r cyllid sydd eu hangen i'w cyflawni. Hoffai'r Aelod ddeall capasiti'r gweithlu yng Nghymru ac effaith y buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ogystal ag estyn gwahoddiad i gyfarfod pwyllgor i gynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru er mwyn rhoi cyfle i ddeall pa fuddsoddiadau sydd wedi'u gwneud er mwyn lliniaru perygl llifogydd yn yr Awdurdod Lleol.

 

Rhoddodd Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd wybod y bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Craffu ar faterion yr Hinsawdd nes ymlaen yn yr wythnos er mwyn trafod gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd.  Nododd fod y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu bellach wedi'u cyfuno'n rhan o ddogfen unigol, bydd pob cam gweithredu naill ai yn gam tymor byr, tymor canolig neu hir dymor ac yn nodi'r holl gostau.  O ran capasiti y gweithlu, nododd fod RhCT wedi bod yn rhagweithiol ac wedi buddsoddi yn y maes.  Mae gan y Cyngor brentis, swyddog graddedig a dau beiriannydd dan hyfforddiant, sydd â chymwysterau da ac sy'n cyflawni gwaith gwych.  Cadarnhaodd fod gweithio gyda phartneriaid yn ofyniad statudol ac mae'r Awdurdod wedi sefydlu bwrdd llifogydd statudol sy'n rhoi cyfle i drafod gwaith strategol sy'n cael ei gynnal ledled RhCT.  

 

Holodd Aelod sut rydyn ni'n cefnogi trigolion i ddeall eu cyfrifoldebau atgyweirio nhw yn ystod llifogydd lleol.  Er enghraifft, dydy nifer o drigolion ddim yn effro i gyrsiau d?r sydd ar eu heiddo nhw ac felly dydyn nhw ddim yn meddu ar yr yswiriant perthnasol. Holodd Aelod a oes gofyniad cyfreithiol sy'n dweud bod rhaid nodi cyrsiau d?r wrth i unigolion brynu eiddo.   Rhoddodd Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor wybod bod gwaith yn cael ei gynnal gyda'r Garfan Gyfathrebu i sicrhau bod trigolion yn deall y cyrsiau d?r sy'n mynd trwy'u heiddo nhw a sut mae modd iddyn nhw gynnal amddiffynfeydd neu osod amddiffynfeydd newydd. Daeth i ben drwy nodi nad yw hyn yn rhan o'r chwiliad safonol cyfreithiol, ond mae systemau draenio cynaliadwy yn orfodol. Mae'r rhan fwyaf o geisiadau am yswiriant yn gofyn am fanylion cyrsiau d?r a cheuffosydd yn yr eiddo, ond os nad oes gan yr unigolyn yr wybodaeth berthnasol yna dyw'r wybodaeth ddim yn cael ei datgan.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr Atodiad 1
  2. Cynnwys strategaethau rheoli llifogydd byr dymor, tymor canolig a hir dymor yn rhan o'r Rhaglen Waith yn y dyfodol.

 

58.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

59.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben