Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Daniel - 07385 086 169 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

37.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad

i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Doedd dim datganiadau o fuddiant.

 

38.

Cofnodion pdf icon PDF 181 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar XX i'w cymeradwyo.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2022.

 

39.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2022.

 

40.

Archwilio Cymru: Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon Sero Net erbyn 2030 pdf icon PDF 200 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu er mwyn rhoi adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru i Aelodau a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor.  Hefyd, nodi'r adroddiad yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith 2021/22 Archwilio Cymru, fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y Crynodeb Archwilio sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhannu manylion adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor. Hefyd, nodi'r adroddiad yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith 2021/22 Archwilio Cymru, fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y Crynodeb Archwilio sydd i'w gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.

 

Cafodd adborth ei ddarparu o ran y risg o beidio â chyrraedd y targed uchelgeisiol iawn ar gyfer 2030 a phwysleisiodd Aelodau fod angen i ni gydweithio ar draws pob sefydliad, yn enwedig mewn sefydliadau mawr lle mae'n bosibl bod adrannau'n gweithio yn unigol ac sydd efallai dim yn croesgyfeirio cynlluniau / polisïau / strategaethau. Nodwyd y byddai modd gwella hyn. Er enghraifft, y penderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cabinet i symud i gasgliadau sbwriel bob 3 wythnos a'r cyfraniad y bydd hyn yn ei wneud tuag at gyflawni targedau carbon sero-net. Gofynnodd Aelod a fydd yr Awdurdod yn monitro y nifer uwch o deithiau i'r canolfannau ailgylchu o ganlyniad i roi'r penderfyniad uchod ar waith. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd wybod bod modd i'r pwyllgor craffu gynnal gwaith monitro mewn perthynas ag effaith y penderfyniadau, gan ychwanegu bod llawer o hyn eisoes wedi'i nodi yn yr adroddiadau cyflawniad a gafodd eu cyflwyno i'r pwyllgor craffu.  Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd Strategaeth Lleihau Carbon y Cyngor hefyd yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae'r Awdurdod hefyd wedi bod yn edrych ar becyn cymorth sydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Manceinion, sy'n sgorio pob penderfyniad yn nhermau'r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn cael ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni'n edrych ar sicrhau mai RhCT fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ystyried sut mae modd i ni roi'r cynllun ar waith a sut mae modd i hyn gefnogi'r broses graffu.

 

Argymhellodd Aelod fod y pum Galwad i Weithredu a'r "Cwestiynau y gallai uwch-arweinwyr a’r rhai sy’n craffu arnynt eu gofyn" yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o adroddiad y Strategaeth Lleihau Carbon.

 

Yn rhan o'i ymateb i gwestiwn o ran sut mae'r Awdurdod yn gweithio gyda sefydliadau eraill sy'n ceisio cyflawni'r un nod, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod manylion cydweithio i'w gweld yn yr adroddiad a bod cydweithio yn ystyriaeth bwysig i bawb yn y sector cyhoeddus.  Ychwanegodd fod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf wedi cwrdd yn ddiweddar ac wedi herio penderfyniadau tymor canolig a thymor hirach o ran meysydd megis newid yn yr hinsawdd.  Bydd y Strategaeth Lleihau Carbon yn cynnwys sut y byddwn ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill ac a ydyn nhw'n gwneud cynnydd. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu a data manylach i gynnwys cerrig milltir.

 

Gofynnodd Aelod a yw cadwyni cyflenwi'r Cyngor yn cael eu hystyried hefyd yn rhan o'r strategaeth.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Pwyllgor fod y Strategaeth Lleihau  ...  view the full Cofnodion text for item 40.

41.

Y Diweddaraf am Gynnydd y Cyngor – Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb Archwilio Cymru: mwy nag ymarfer blwch ticio? pdf icon PDF 178 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu er mwyn rhoi adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru i Aelodau a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhoi adroddiad cenedlaethol diweddaraf Archwilio Cymru a rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r argymhellion yng nghyd-destun ein gwaith ac ymateb y Cyngor.  Hefyd, nodi'r adroddiad yng nghyd-destun ehangach rhaglen waith 2021/22 Archwilio Cymru, fydd yn cael ei hadlewyrchu yn y Crynodeb Archwilio sydd i'w gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.

 

 

Trafododd Aelodau eu bod nhw'n gweld nifer fawr o gynlluniau gweithredu, strategaethau a thargedau felly mae perygl mawr y bydd yr Asesiadau Effaith yn 'ymarfer blwch ticio' yn y Cyngor ac mewn llawer o sefydliadau.  Gofynnon nhw ble mae modd iddyn nhw ddod o hyd i waith monitro ar gyfer y penderfyniadau os bydd gyda nhw bryderon am effeithiau negyddol penderfyniad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod proses adolygu gynhwysfawr ar waith i gefnogi proses gwneud penderfyniadau cadarn ac ychwanegodd y byddwn ni'n herio ein hunain trwy drefniadau adolygu er mwyn sicrhau nad yw'n ymarfer blwch ticio.  Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd dull y Cyngor yn cael ei adolygu'n barhaus a bydd yn destun gwaith craffu.

 

Yn rhan o'i ymateb i gwestiwn o ran casglu data, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod yr Awdurdod wedi penodi swyddog penodol i ddarparu data sy'n berthnasol i RCT er mwyn cefnogi penderfyniadau a'r effaith y gallen nhw ei chael ar RCT. Er enghraifft, bydd data cyfrifiad yn cael ei drafod gan y pwyllgor craffu er mwyn ystyried sut mae modd i hyn gefnogi Aelodau i graffu ar benderfyniadau yn y dyfodol.  

 

 

Trafododd Aelodau fod llawer o drigolion yn teimlo nad yw eu hymatebion i ymgynghoriadau a'r sylwadau maen nhw'n eu nodi ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried a'r hyn y mae modd i'r Cyngor ei wneud i ddangos bod adborth yn cael ei ystyried. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd y Strategaeth Cyfranogiad yn cynnwys adran "fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni". Ychwanegodd ei bod hi bob amser yn heriol pan fo penderfyniadau anodd yn cael eu hystyried, a bod angen i'r Cyngor barhau â'i ddull agored ac onest wrth ymgynghori â'r cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

 

  1. Nodi adroddiad Archwilio Cymru mewn perthynas ag 'Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb: mwy nag ymarfer blwch ticio?' sydd i'w gweld yn Atodiad 1.

 

 

  1. Adolygu a chytuno ar yr ymateb i'r 'Argymhellion' a Meysydd i'w Gwella fel sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Gweithredu yn Atodiad 2, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd am gynnydd a phenderfynu a oes angen gwybodaeth bellach a/neu ddiweddariadau pellach.

 

42.

YMGYNGHORIAD AR GYLLIDEB 2023/24 (CAM 2) pdf icon PDF 76 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau a rhoddodd wybod bod y Pwyllgor yn ymgynghorai ffurfiol yn rhan o broses ymgynghori flynyddol y Cyngor mewn perthynas â'r gyllideb, a hynny yn unol â'r Cylch Gorchwyl.

 

Gan ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Cyllid a Gwasanaethau Gwella drosolwg i Aelodau o'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2023/24 (Cam 2) gan roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y canlynol: Cyflwyniad – Strategaeth Cyllideb Refeniw Ddrafft 2023/24; Sefyllfa Ariannol Bresennol y Cyngor (2022/23); Ymgynghoriad ar y Gyllideb Cam 1 – Penawdau; Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2023/24 – Penawdau/Goblygiadau ar gyfer Rhondda Cynon Taf; Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24; a'r Camau Nesaf a Dyddiadau Allweddol.

 

Yn dilyn trosolwg y Cyfarwyddwr Gwasanaeth o Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24, gofynnodd Aelod am adborth o ran y cyfleoedd sydd ar gael i adolygu methodoleg dyrannu cyllid Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru ac wedyn i awdurdodau lleol. Mae hyn wedi'i gysylltu â setliad dros dro Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef +6.6% o'i gymharu â chyfartaledd Cymru gyfan, sef +7.9%.  Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, o ran y broses ar gyfer dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ledled Cymru, fod gr?p penodol wedi'i sefydlu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a'r llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod y sail ar gyfer dyrannu cyllid yn cynrychioli angen a bod y setiau data sy'n sail i'r dyraniadau'n addas ac yn gywir. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sicrwydd bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r trefniadau yma er mwyn llywio a herio setiau data a'r sail ar gyfer dyrannu cyllid.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth adborth Aelodau o ran meysydd canlynol Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2023/24.

 

Treth y Cyngor – cynnydd arfaethedig o 3.5%

·           O ystyried dull y Cyngor mewn perthynas â gosod lefelau Treth y Cyngor yn ddiweddar a'r ffaith mai Rhondda Cynon Taf oedd gyda'r cynnydd isaf ar gyfartaledd i Fand D yng Nghymru am 3 allan o'r 4 blynedd ddiwethaf, cytunodd y rhan fwyaf o Aelodau fod y cynnydd arfaethedig yn ddull pragmatig a synhwyrol.

·           Dywedodd Aelod fod y cynnydd arfaethedig o 3.5% yn debygol o fod ymhlith y cynnydd isaf o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Serch hynny, roedd y Cyngor yn gwybod bod heriau cyllideb wedi bod yn bresennol ond penderfynodd ar gynnydd o 1% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2022/23 o'i gymharu â chynnydd arfaethedig o 3.5% ar gyfer 2023/24.

 

Cyllideb Ysgolion

·           Nododd Aelod ei bod hi'n anochel y bydd gofyn i ysgolion adolygu eu cyllidebau a'r swm sydd yn y cronfeydd wrth gefn i gefnogi cynllunio ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa ariannu heriol. Nododd y bydd lefel y cronfeydd wrth gefn yn wahanol i bob ysgol o ganlyniad i'r cynlluniau sydd gan ysgolion ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

·           Dywedodd Aelod arall ei bod yn bwysig bod y neges yn cael ei rhoi i ysgolion na fyddan nhw'n cael eu hariannu'n llawn ar gyfer 2023/24. Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth trwy ddweud  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Eitemau Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Dim

44.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r holl Aelodau a swyddogion am ddod i'r cyfarfod ac am eu hadborth, yn enwedig o ran yr ymgynghoriad ar y gyllideb