Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023 yn rhai cywir.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n pennu'r rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2023-24.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Rhaglen Waith 2023-24 Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd i'r Aelodau.
Pwysleisiodd y Cadeirydd fod Aelodau'n awyddus iawn i fynychu ymweliadau safle. Cadarnhaodd Aelod eu bod nhw'n croesawu'r awgrym o gynnal ymweliadau safle ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau:
1. Cymeradwyo Rhaglen Waith Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024, fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1;
2. Cytuno i gynnal ymweliadau safle â'r lleoliadau sydd wedi'u nodi isod yn ystod Blwyddyn y Cyngor: · Achlysur lansio Gwobrau Eco Ysgolion; · Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, Rhydfelen; · Soaring Supersaurus,Pen-rhys; · Canolfan Calon Taf; a · Croeso i'n Coedwig
3. Derbyn adroddiad pellach yn y dyfodol gan y Cadeirydd mewn perthynas â chanfyddiadau'r ymweliadau safle yma.
|
|
'Hinsawdd Ystyriol RhCT' - Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd 2022-2025. PDF 164 KB Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhannu manylion datganiad sefyllfa chwarter un â'r Aelodau yn rhan o drosolwg o'r cynnydd sydd wedi'i wneud wrth gyflawni Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor 'Hinsawdd Ystyriol RhCT', cafodd y strategaeth yma ei chymeradwyo ym mis Mehefin 2022.
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawniad y Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd (2022-2025) 'Hinsawdd Ystyriol RhCT' i'r Aelodau.
Croesawodd y Cadeirydd diwyg yr adroddiad gan nodi ei bod hi'n hoff iawn o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Nododd y Cadeirydd y byddai hi'n hoffi gweld mwy o wybodaeth am y broses gaffael yn yr adroddiadau chwarterol, a hynny gan fod caffael yn rhan fawr o waith Lleihau Carbon y Cyngor.
Cafwyd trafodaethau pellach a nododd Aelod fod yr adroddiad yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor a bod yr adroddiad yn tynnu sylw at faint o waith sy'n cael ei wneud gan y Cyngor er mwyn cyflawni'i dargedau. Cyfeiriodd yr Aelod at yr Adroddiad am Gerbydau Trydan a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Is-bwyllgor ym mis Rhagfyr. Gofynnodd Aelod a fyddai modd gwahodd y Grid Cenedlaethol i'r cyfarfod i weld pa gynlluniau sydd gyda nhw ar gyfer y dyfodol. Cytunodd y Cadeirydd fod yr awgrym yma'n un da a chytunodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor i gyfathrebu â'r Grid Cenedlaethol i drefnu amser cyfleus.
Roedd Aelod arall wedi croesawu'r adroddiad gan nodi ei bod hi'n ddefnyddiol iawn cael yr holl wybodaeth mewn un lle a byddai'r ddogfen yma'n gymorth mawr i'r cyhoedd. Cytunodd Aelod arall a chroesawodd y diwyg a gafodd ei defnyddio. O ran y Grid Cenedlaethol, awgrymodd Aelod fod y Cadeirydd yn cynnal cyfarfod gyda Swyddogion cyn y cyfarfod ym mis Rhagfyr er mwyn canfod beth yw'r materion allweddol fel bod modd i ni herio'r Grid Cenedlaethol.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau:
1. Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad; 2. Gwahodd y Grid Cenedlaethol i gyfarfod dilynol y Pwyllgor yn rhan o Raglen Waith yr Is-bwyllgor; a 3. Nodi'r potensial i ymgorffori ymateb y Cyngor i'r Newid yn yr Hinsawdd ymhellach ym musnes y Cyngor, a hynny'n rhan o waith datblygu Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor;
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n ceisio rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau am waith a gafodd ei gynnal gan ddefnyddio grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2022/23, a'r gwaith sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2023/24 a 2024/25.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu 'Byd Natur ar Stepen eich Drws' sy’n rhoi gwybod i Aelodau am y gwaith sydd wedi'i gyllido gan grantiau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a gafodd ei gyflawni yn 22/23 ac sydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2024/25.
Cafwyd trafodaethau pellach a chroesawodd y Cadeirydd yr adroddiad, gan nodi bod Aelodau'r Cabinet eisoes wedi cwrdd â'r Prentisiaid, ond, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n gyfle da i Aelodau'r Cabinet gwrdd â'r Prentisiaid unwaith eto yn rhan o ymweliad safle. Cytunodd Aelod arall, a nododd fod y Pwyllgor wedi cwrdd â'r swyddogion graddedig a byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gwrdd â'r Prentisiaid.
Cafwyd trafodaethau pellach a nododd Aelod fod gan y Fwrdeistref Sirol nifer o safleoedd natur gwych. Cyfeiriodd yr Aelod at byllau Carnetown a nododd pa mor falch oedd ef i weld y rhain ar y rhestr. Gofynnodd yr Aelod a fyddai modd i Swyddogion roi diweddariad pellach, ar ôl i'r ardal gael eu hasesu, er mwyn rhannu gwybodaeth gyda'r gymuned. Cytunodd y Swyddogion i adrodd yn ôl i'r Aelodau wrth i'r ardal gael ei datblygu.
Roedd Aelod wedi canmol y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud gyda swyddogion graddedig a phrentisiaid, gan nodi y bydd hyn yn rhan fawr o waith cynllunio a datblygu, a dymunodd yr Aelod ganmol yr adroddiad manwl.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau:
1. Trafod y cynnydd sydd i'w weld yn yr adroddiad, y gwariant sydd wedi'i gynllunio a sut mae hyn yn cyfrannu at yr amcan ehangach o ran datblygu prosiect Tirweddau Byw ledled RhCT; 2. Trefnu ymweliad safle i roi cyfle i'r Pwyllgor gwrdd â'r Prentisiaid newydd sy'n gweithio ym maes Bioamrywiaeth.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Doedd dim mater brys i'w drafod.
|