Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Democratic Services  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

9.

Croeso'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a chroesawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Barton i’r Gr?p. Yn ogystal â hynny, rhoddodd y Cadeirydd wybod nad oedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber bellach yn aelod o'r Gr?p, a diolchodd iddi am ei chyfraniadau i'r Gr?p. Cadarnhaodd y bydd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings yn cymryd rôl yr Is-gadeirydd.

 

10.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 392 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

12.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydanol, a'r Cynllun ar gyfer Rhoi Hynny ar Waith pdf icon PDF 276 KB

Derbyn diweddariad gan Gyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor a'r Pennaeth Ynni a Lleihau Carbon ar y gwaith a wnaed wrth ddatblygu Strategaeth y Cyngor ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan (EVC) yn dilyn yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd, a chyflwyno diweddariad ar sut mae'r strategaeth arfaethedig yn gysylltiedig ag ymrwymiadau Sero Net a Lleihau Carbon ehangach Cyngor RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon roi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran llunio Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan (EVC) a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Sero Net a Lleihau Carbon.

Atgoffwyd yr aelodau bod y Gweithgor Gwefru Cerbydau Trydan a Thrafnidiaeth wedi'i sefydlu ym mis Ebrill 2021. Mae'n cynnwys swyddogion o bob gr?p Gwasanaeth, ac yn cael ei arwain gan Garfan Materion Ynni a Lleihau Carbon Eiddo'r Cyngor.

 

Rhan gyntaf y prosiect oedd datblygu Strategaeth i gwmpasu dyfodol Gwefru Cerbydau Trydan. Cafodd yr Aelodau wybod bod hyn yn nodi dyheadau'r Cyngor ac yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygu isadeiledd gwefru Cerbydau Trydan yn y dyfodol, sy'n rhan o gylch gorchwyl y Cyngor.

 

Mae'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan (EVC) wedi'i diweddaru ac yn barod i'w chyhoeddi yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet. Mae hyn yn dilyn gwaith ymgynghori mewnol â rhanddeiliaid ac ail ymgyrch ymgynghori gyhoeddus. Cafodd yr Aelodau ragor o fanylion am yr ymgyrch ymgynghori helaeth a gynhaliwyd trwy blatfform ymgysylltu 'Dewch i Siarad' y Cyngor, gyda phrosiect pwrpasol o'r enw 'Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan'. Cafodd y sylwadau, y ceisiadau a'r wybodaeth arall a gyflwynwyd yn rhan o'r ymgynghoriad eu rhoi mewn adroddiad a'u bwydo i mewn i'r ddogfen strategaeth derfynol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod mai'r camau nesaf fydd llunio Cynllun Gweithredu gyda'r nod o amlinellu'r ffordd ymlaen yn glir, yn ogystal â nodi gyda phwy y mae angen cysylltu â nhw, a sut y bydd angen cynllunio a gweithredu'r camau arfaethedig. Bydd y Cynllun yma hefyd yn cynnwys 'Cynllun Camau Gweithredu' sy'n nodi nodau clir i'r Cyngor, gan gynnwys targedau tymor byr, canolig a hir i'r Cyngor anelu atynt, wrth symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan.

 

Yn ogystal â hynny, cafodd yr Aelodau wybod am broses asesu effaith gynhwysfawr a gynhaliwyd gyda chydweithwyr yn Uned Gwasanaethau'r Gymraeg a'r Gwasanaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth ddatblygu'r strategaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a chydnabu'r gwaith a wnaed i sefydlu'r Strategaeth gadarn gan nodi bod y strategaeth yn amlwg wedi'i hystyried yn ofalus, gan gynnig lleoliadau diogel a hygyrch i breswylwyr.

 

Canmolodd un Aelod y broses ymgynghori fanwl a gynhaliwyd a sut mae'r sylwadau o'r broses yma wedi cael eu hystyried a'u bwydo i'r strategaeth derfynol. Dywedodd fod hyn yn dangos gwerth ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd a grwpiau ehangach o ran sicrhau bod y rheini ag anableddau wedi'u cynnwys yn y gwaith a goresgyn unrhyw rwystrau posibl o ran manteisio ar y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan.

 

Holodd Aelod arall am wybodaeth a welwyd y tu allan i'r cyfarfod ynghylch gosod cyfyngiad Llywodraeth y DU ar wefru Cerbydau Trydan yn ystod yr oriau prysuraf. Dywedodd y swyddogion nad oedden nhw'n effro i fanylion y cyfyngiadau penodol a grybwyllwyd gan yr Aelod, ond oherwydd cymhlethdod y rhwydwaith ynni, mae'n bosibl y bydd angen cynnal trafodaethau gyda chyflenwyr ynni ynghylch cyflwyno dull gwefru deallus  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Prosiect Ôl troed Carbon y Cyngor pdf icon PDF 666 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi diweddariad ynghylch y Prosiect Ôl troed Carbon i fesur a deall Ôl troed Carbon gweithgareddau Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blynyddoedd Ariannol 2019/20 a 2020/21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ddiweddariad ynghylch Prosiect Ôl Troed Carbon y Cyngor, sydd â'r nod o fesur a deall Ôl Troed Carbon gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21. Bu Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor hefyd yn ymdrin â gofynion Adrodd Carbon newydd Llywodraeth Cymru am y un ddwy flynedd ariannol, yn ogystal ag agweddau ehangach yn ymwneud â'r dyfodol ar gyfer cyflawni ymrwymiadau tymor hwy Rhondda Cynon Taf o ran Net Sero a Lleihau Carbon.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod adroddiad blaenorol wedi'i gyflwyno ym mis Mehefin, a oedd yn nodi Ôl Troed Carbon y Cyngor ar gyfer 2019/20. Tynnodd y Swyddog sylw'r Aelodau i adran 4.3 o'r adroddiad, a oedd yn dangos atgynhyrchiad o'r data hwn.

 

Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud wrth yr Aelodau mai hwn oedd cam cyntaf y prosiect gyda'r ail gam yn ymwneud â gwaith i gyfrifo'r Ôl Troed Carbon ar gyfer 2020/21, gyda'r bwriad o nodi effaith Covid-19. Clywodd yr Aelodau fod y Cyngor wedi comisiynu'r Ymddiriedolaeth Garbon i gyflawni'r adroddiad llawn a ddarperir yn Atodiad A.

 

Tynnodd y Swyddog sylw'r Aelodau at y ffaith fod y cyfrifiadau wedi'u cwblhau ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Garbon gan ddefnyddio cyfrifiannell a ddefnyddir yn helaeth mewn sectorau cyhoeddus eraill. Dywedwyd wrth yr Aelodau nad oedd Llywodraeth Cymru wedi creu cyfrifiannell ar y pryd, felly defnyddiodd y Cyngor y gyfrifiannell gan yr Ymddiriedolaeth Carbon. Hysbyswyd yr Aelodau bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio canllawiau yn ystod y flwyddyn, yr oedd modd i Awdurdodau Lleol eu defnyddio i gyfrifo ôl troed carbon. Roedd yn ofynnol i'r Cyngor gyflwyno data ar gyfer ôl troed 2020/21 ynghyd â data 2019/20 ar gyfer y llinell sylfaen. Dywedodd y Swyddog fod y Cyngor yn gallu bodloni'r dyddiad cau a chyflwyno'r ddwy gyfres yn unol ag amserlenni Llywodraeth Cymru.

 

Aeth y Swyddog hefyd ati i amlygu adran 4.11 o'r adroddiad, sy'n nodi'r tebygrwydd yn y broses adrodd rhwng canllawiau Llywodraeth Cymru a chyfrifiannell yr Ymddiriedolaeth Garbon ond cydnabuwyd bod rhai gwahaniaethau, a gafodd eu hamlinellu a'u hegluro i'r Aelodau. 

 

Bydd y Cyngor yn parhau i gyfrifo ei Ôl Troed Carbon yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ond bydd hefyd yn parhau i ddefnyddio cyfrifiannell yr Ymddiriedolaeth Garbon at ddibenion cymharu.

 

Tynnodd y Swyddog sylw'r Aelodau at adran 5 o'r adroddiad sy'n amlinellu sefydlu cynllun datgarboneiddio ar gyfer gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n brosiect allweddol i'n tywys yn llwyddiannus tuag at fod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am eu gwaith o ran casglu'r data a llunio adroddiad cynhwysfawr sy'n cydnabod pwysigrwydd nodi sefyllfa bresennol y Cyngor. Nododd y Cadeirydd y duedd ostyngol o ran yr Ôl Troed Carbon ond aeth ati i gydnabod yr heriau parhaus er mwyn parhau â hyn.

 

Holodd un Aelod pa waith yr oedd y Cyngor yn ei wneud o ran Dal Carbon a ph'un a yw'r Cyngor yn mesur faint o gynefinoedd mawn sydd yn y fwrdeistref, gan bwysleisio'r angen i werthfawrogi adnoddau naturiol a all helpu i liniaru  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Prosiectau Cynhyrchu Ynni Allweddol a Materion Cysylltiedig pdf icon PDF 326 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n darparu diweddariad pellach mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a rhai materion eraill sy'n gysylltiedig â Lleihau Carbon.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ynni a Lleihau Carbon ddiweddariad pellach i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a materion eraill sy'n gysylltiedig â Lleihau Carbon.

 

Cyfeiriwyd yr Aelodau at adran 5 yr adroddiad a oedd yn manylu ar ddiweddariad ar brosiectau ynni adnewyddadwy cyfredol.

 

Amlygwyd y prosiectau canlynol i'r Aelodau, gan amlinellu'r llwyddiannau a'r gwaith yn y dyfodol sy'n ofynnol gyda diweddariadau allweddol yn cael eu darparu o gynnwys yr adroddiad:

-          Gosod Fferm Solar 5MW;

-          Ffynnon Dwym Ffynnon Taf;

-          Datblygiadau Amgen (tyrbin gwynt Nant y Gwyddon a safle Bryn Pica)

-          Ffermydd Gwynt 9MW;

-          Fferm Wynt 3MW;

-          Cyfleoedd Trydan D?r

-          Prosiect Cerbydau Allyriadau isel iawn (ULEV)

-          Rhaglen Lleihau Carbon;

-          Prosiect Ôl Troed Carbon

Cyfeiriodd y Swyddog at adran 6 yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad i'r Aelodau ar fentrau a sefydlwyd i gefnogi gwaith y Gr?p Llywio, gan nodi bod Swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gweithio ar y cyd tuag at nod y Cyngor o ddod yn sero net erbyn 2030.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon am y diweddariad ac roedd yn falch o glywed am brosiect yn datblygu o amgylch Ynni Solar a Gwynt. Cydnabu’r Cadeirydd bwysigrwydd safle Ffynnon Dwym Ffynnon Taf ac anogodd ymweliad â’r safle gan fod y prosiect yn arloesol iawn. Ar gais y gr?p, nododd y Cadeirydd yr angen i archwilio ymhellach ddichonoldeb prosiectau hydro ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Cododd un Aelod ymholiad ynghylch Pympiau Gwres a'r angen pellach i ymchwilio i nodi eu heffeithlonrwydd yn y tymor hir yng nghartrefi'r Fwrdeistref Sirol. Cydnabu'r Swyddog bwysigrwydd y prosiect o ran y Ffynnon Dwym a chadarnhaodd i'r Aelodau y byddai'n edrych ar drefnu  ymweliad â'r safle. Roedd yr Aelodau yn cefnogi hyn gan ei fod yn cael ei ystyried yn gynllun arloesol sydd o fudd i’r Cyngor a’i breswylwyr.

 

Cydnabu’r Cadeirydd yr her o ddarparu pympiau gwres at ddefnydd preswyl am gostau fforddiadwy ar hyn o bryd ond tynnodd sylw at waith carfan Gwres ac Arbed Ynni y Cyngor sy’n gweithio gyda phreswylwyr ar hyn o bryd i ddarparu cymorth addas wrth osod pympiau gwres.

 

Cododd Aelod arall y potensial i'r Cyngor ailedrych ar Hydro-Gynlluniau o fewn y Gymuned i annog perchnogaeth, datblygiad a chyfranogiad cymunedol. Hysbysodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yr Aelodau fod trafodaethau ar y gweill ar hyn o bryd gydag un Gr?p Cymunedol yng Nghwm Clydach ond ar hyn o bryd mae tua 14 o Gynlluniau Hydro yn cael eu hadolygu, ac mae rhai o'r rhain yn y Gymuned. Dywedodd wrth yr Aelodau y byddai'r Cyngor yn barod i ymgysylltu â'r Gymuned i bennu hyfywedd cynlluniau cydberchnogaeth. Trafododd un Aelod y potensial i Gyngor Rhondda Cynon Taf geisio dilyn cynlluniau sy'n defnyddio D?r o Fwyngloddiau fel ffynhonnell ynni o'i gymharu â Ffynhonnau Twym

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

1.       Nodi cynnwys yr adroddiad yma  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Strategaeth Prosiect Cerbydau Allyriadau isel iawn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r cynnydd pdf icon PDF 252 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cynnig

diweddariad am y gwaith sydd ar y gweill gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd

o ran eu strategaeth Cerbydau Allyriadau Ultra Isel (ULEV) a chynnydd y strategaeth.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor amlinelliad o bwrpas yr adroddiad gan ddefnyddio gwybodaeth a gyflwynwyd i Fwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddarparu diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) gyda'i strategaeth Cerbydau Allyriadau isel iawn (ULEV).

 

Amlygodd y Swyddog i'r Aelodau fod Cenex wedi'i gomisiynu i baratoi Strategaeth ULEV ddrafft ar gyfer y CCR ac roedd copi llawn o'r strategaeth ynghlwm yn Atodiad 1. Mae comisiynau pellach yn cynnwys Strategaeth ULEV Metro Plus a Strategaeth Tacsi ULEV.

 

Atgoffwyd yr aelodau mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw'r Awdurdod arweiniol sy'n rheoli cyllido'r trawsnewidiad ULEV ar gyfer y rhanbarth gyda'r Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTA) yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol y prosiect.

 

Tynnodd y Swyddog sylw'r Aelodau at adran 5 yr adroddiad a oedd yn manylu ar gynlluniau sy'n cael eu cynnal gyda'r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gan gynnwys darpariaeth gwefrydd tacsi ULEV, ULEV - Darparu Seilwaith Gwefru at Ddefnydd Cyhoeddus ac ULEV - Darparu Seilwaith Gwefru at Ddefnydd Bws. Hefyd cafodd yr aelodau drosolwg o gyfleoedd yn y dyfodol fel yr amlinellwyd yn Adran 6 yr adroddiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad diweddaru gan nodi'r cyllid a addawyd yn adran 4 yr adroddiad a chynnwys strategaethau ar gyfer darparu tacsi a bysiau. Tynnodd sylw hefyd at y pethau cadarnhaol yn y strategaeth sy'n cyfrannu at ymdrechion ehangach ar draws Rhondda Cynon Taf i gyflwyno seilwaith cerbydau trydanol.

 

Nododd un Aelod y gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar breswylwyr a'r gallu i ddarparu strategaeth ULEV. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen bwysigrwydd gwasanaethau bysiau ar draws y fwrdeistref ond cynghorodd yr Aelodau am effaith Covid-19 ar nifer y teithwyr, gwasanaethau ac effeithiau prinder gyrwyr. Sicrhawyd yr Aelodau bod gwaith yn cael ei wneud i sicrhau darpariaeth gyfredol o wasanaethau.

 

Cydnabu Aelod arall fod y nod ar gyfer fflydoedd bysiau a thacsi ULEV yn uchelgeisiol ond cododd bryderon ynghylch fflydoedd tacsi a'r gwaith paratoi y byddai'n ofynnol ei wneud yn unol â gweithredwyr tacsi cyn rhoi unrhyw newidiadau ar waith. Cynghorodd y Cyfarwyddwr - Iechyd Cyhoeddus, Amddiffyn a Gwasanaethau Cymunedol yr Aelodau fod y strategaeth wedi'i llywio gan ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda gweithredwyr fflyd tacsi ledled Cymru a dangosodd canlyniad hyn eu bod yn cael eu calonogi gan gynnig ond eu bod yn nodi bod yr angen am weithrediad peilot yn allweddol.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad ar y dull rhanbarth ehangach o ddatblygu strategaeth ULEV.

 

16.

Bioamrywiaeth a'r Bartneriaeth Natur Leol yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 271 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yn diweddaru Aelodau ar waith y Cyngor a'r Bartneriaeth Natur Leol mewn perthynas â bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf a chyfeiriad y gwaith hwn yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd adroddiad i'r aelodau a gyflwynwyd gan Ecolegydd y Cyngor. Amlinellodd yr Ecolegydd bwrpas yr adroddiad, sef darparu diweddariad i aelodau ar waith y Cyngor a'r Bartneriaeth Natur Leol mewn perthynas â bioamrywiaeth yn RhCT a nodi cyfeiriad y gwaith hwn yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd rhywfaint o gefndir i'r adroddiad i'r aelodau gyda'r Ecolegydd yn atgoffa'r Aelodau o bwysigrwydd y Ddyletswydd Bioamrywiaeth gan osod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i ystyried bioamrywiaeth yn y gwaith y mae'n ei wneud a'r heriau a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cyflwyno o ran gweithio trawsadrannol. Mae'r broses hon wedi ymsefydlu yn niwylliant perfformiad corfforaethol y Cyngor ac er bod llawer o hyn yn arferol, mae hefyd yn annog rhai prosiectau arloesol.

 

Cyfeiriodd yr Ecolegydd at brosiect fferm wynt Pen Y Cymoedd a thrafod cynnwys y manylion a nodwyd yn yr adroddiad. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd y broses Cynllunio ar fioamrywiaeth yn amlinellu newidiadau i Ganllawiau Polisi Cynllunio gan Lywodraeth Cymru fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Atgoffwyd yr Aelodau o adroddiad Asedau Natur a gyflwynwyd yn flaenorol i'r pwyllgor sydd hefyd wedi arwain at nifer o brosiectau parhaus sy'n gysylltiedig â chyfleoedd adfer corsydd mawn, potensial storio carbon, rheoli d?r a photensial bioamrywiaeth tir, ysgolion, coetiroedd hynafol a choed sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

Hefyd, darparodd yr Ecolegydd drosolwg o brosiect ymgysylltu a gynhaliwyd trwy blatfform 'Dewch i Siarad RhCT' y Cyngor o'r enw 'Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt' lle gwahoddwyd preswylwyr i nodi meysydd yr hoffent weld mentrau Blodau Gwyllt yn cael eu hystyried mewn rhaglenni gwaith yn y dyfodol. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr ymgysylltiad wedi cael ymateb da a derbyniwyd nifer o ymatebion hyd yn hyn a fydd yn cael eu hadolygu yn ystod y misoedd nesaf.

 

Amlygwyd enghreifftiau pellach o ymgysylltu â'r gymuned i'r Aelodau trwy drafodaeth ynghylch y Cynllun Partneriaeth Natur Lleol a hysbysodd yr Ecolegydd yr Aelodau fod y cynllun newydd wrthi'n cael ei ysgrifennu. Tynnwyd manylion yr arian a dderbyniwyd fel rhan o'r cynllun a sut y cafodd ei wario at sylw'r Aelodau yn adrannau 4.7 a 4.8 o'r adroddiad.

 

Hefyd, diweddarodd yr Ecolegydd Aelodau o'r adroddiad ynghylch y prosiect Tirweddau Byw a manylion 29 o safleoedd peilot a nodwyd. Hysbyswyd yr Aelodau hefyd am benodi dau brentis bioamrywiaeth yn rhoi cyfle i wneud gwaith ymarferol ar y safleoedd hyn gan ddefnyddio mewnbwn goruchwylio a hyfforddi gan staff sefydledig, gan gynnwys y cydlynydd LNP a'r ecolegydd graddedig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am adroddiad cynhwysfawr yn nodi'r diweddariad dymunol ynghylch yr amrywiol brosiectau sy'n mynd rhagddynt ledled y fwrdeistref a'r cyfleoedd cydweithredu y mae'r rhain yn eu darparu.

 

Gwnaeth un Aelod sylw hefyd ar arfer da o ran gwaith trawsadrannol a buddion hyn ar draws yr awdurdod. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i'r ymgysylltiad sy'n cael ei gynnal gyda thrigolion lleol ynghylch bioamrywiaeth trwy'r platfform 'Dewch i Siarad RhCT'.

 

Cododd un Aelod gwestiwn ynghylch presenoldeb corsydd mawn a gwlypdiroedd yn RhCT a pham y gallai fod cynnydd yn y rhain yn sychu.  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Strategaeth, Mesurau a Materion Teithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 239 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen yn amlinellu strategaeth y Cyngor i annog teithio llesol (cerdded a beicio) ar draws Rhondda Cynon Taf, y buddsoddiad sydd naill ai yn ei le eisoes neu sydd ar y gweill a'r materion y mae angen eu hystyried wrth weithredu cynlluniau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen wybod i'r Aelodau mai diben yr adroddiad oedd amlinellu strategaeth y Cyngor i annog teithio llesol (cerdded a beicio) ar draws Rhondda Cynon Taf, y buddsoddiad sydd naill ai yn ei le eisoes neu sydd ar y gweill a'r materion y mae angen eu hystyried wrth weithredu cynlluniau. Amlygodd y Swyddog arwyddocâd yr adroddiad; gan ganolbwyntio ar Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, fel offeryn hanfodol y gellir ei ddefnyddio i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd gyda'r ffocws ar alluogi siwrneiau ystyrlon, trwy Feicio a cherdded. Dywedodd y Swyddog, o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ei bod yn ofynnol i'r garfan lunio a chyflwyno Mapiau Rhwydweithiau Teithio Llesol i Lywodraeth Cymru erbyn mis Rhagfyr 2021 gydag awdurdodiad gan aelodau'r Cabinet.

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod y Mapiau Rhwydwaith ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad ffurfiol tan 22 Tachwedd 2021; hyd yn hyn, derbyniwyd 700 o ymatebion i'r ymgynghoriad, sy'n adlewyrchu'r diddordeb mewn Teithio Llesol. 

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen i'r Aelodau y bydd cyflawni'r dyheadau a nodir yn y strategaeth yn dibynnu ar gyllid a chyfeiriodd aelodau at adrannau 5.5 a 5.6 o'r adroddiad, sy'n manylu ar lwyddiant y Cyngor wrth dderbyn cyllid tuag at y Cynllun Teithio Llesol. Dywedodd y swyddog y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych i fuddsoddi £70 miliwn mewn seilwaith Teithio Llesol ledled Cymru eleni, a fydd yn cynorthwyo i greu portffolio helaeth o asedau newydd y bydd angen eu cynnal trwy ystod o ffyrdd gan gynnwys codi sbwriel, graeanu a thrwsio tyllau yn y ffordd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr atodiadau sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn nodi adroddiadau cynnydd blynyddol y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn tynnu sylw at waith a phrosiectau a wnaed o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Dywedodd ei bod yn ofynnol i'r Cyngor ddangos gwelliant parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn a thynnodd sylw at ystod o fentrau seilwaith a chyfleoedd addysg / hyfforddiant a amlinellir yn yr atodiadau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Rheng Flaen am yr adroddiad cadarnhaol, a'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd. Cyfeiriodd y Cadeirydd yr aelodau yn ôl at adran 5.6 o'r adroddiad gan dynnu sylw at y pethau cadarnhaol mewn lefelau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22; fodd bynnag, roedd yn cydnabod yr angen am gyllid pellach ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Anogodd y Cadeirydd aelodau’r Cabinet a’r gymuned i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a fydd yn cael ei lunio a’i fwydo’n ôl i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021.

 

Roedd un aelod yn falch o'r ymdrechion a gymerwyd yn yr adroddiad; fodd bynnag, cododd ymholiad ynghylch llygredd sbwriel yn y llwybrau ac anogodd y Cyngor i ddatblygu strategaethau atal sbwriel i fynd i'r afael â'r broblem hon. Awgrymodd yr Aelod y dylai'r Cyngor ddefnyddio grwpiau yn y gymuned i atal llygredd sbwriel a chodi ymwybyddiaeth ledled y Fwrdeistref. Anogwyd hyn gan Aelodau gan eu bod  ...  view the full Cofnodion text for item 17.