Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R. Lewis.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Cyhoeddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen y datganiad o fuddiant canlynol mewn perthynas ag Eitem 7 – Diweddariad ar faterion Ynni - Eiddo'r Cyngor: 'Mae'r adroddiad yn cynnwys diweddariad mewn perthynas ag Amgen Cymru. Rydw i'n Gyfarwyddwr ar Amgen Cymru. Mae'r adroddiad yn cael ei gyflwyno er gwybodaeth, felly ni fydd angen i mi adael y cyfarfod'.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022 yn rhai cywir.
|
|
Trefniadau Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd PDF 147 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am swyddogaeth newydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, yn dilyn newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn seithfed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar hugain y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Aelodau am swyddogaeth newydd Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, yn dilyn newidiadau i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd yn seithfed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar hugain y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022.
Roedd y diwygiadau allweddol yn cynnwys swyddogaeth newydd y Pwyllgor fel Is-bwyllgor, ei Gylch Gorchwyl, Aelodaeth, a phenodi Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd y Cyngor. Yn ogystal â'r newidiadau uchod i Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd, nododd y Cyfarwyddwr fod Aelodau wedi penderfynu yn ystod y cyfarfod cyffredinol blynyddol y bydd swyddogaeth Graffu ar gyfer Materion yr Hinsawdd yn cael ei rhoi ar waith, sef y Pwyllgor Craffu ar faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn falch o nodi’r newidiadau i’r Is-bwyllgor, gan nodi bod blaenoriaethau'r hinsawdd wedi’u gwreiddio yn y gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob rhan o'r Awdurdod Lleol.
Siaradodd Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd yn gadarnhaol am yr adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol lleol. Byddai hyn yn cryfhau gwaith y Cyngor.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a PHENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd nodi cynnwys yr adroddiad.
|
|
Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol PDF 81 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy’n gofyn am gymeradwyaeth i’r rhestr arfaethedig o faterion sydd angen eu hystyried gan Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2022-23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhannodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen eu trafod yn ystod Blwyddyn 2022-23 y Cyngor ag Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r rhaglen waith yn llywio gwaith y Pwyllgor Craffu ar faterion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant sydd newydd ei sefydlu; byddai'n rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd a grwpiau cymunedol fynegi eu diddordeb i siarad ar faterion penodol yn ystod cyfarfodydd yr Is-bwyllgor yn y dyfodol.
Pwysleisiodd Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd fod angen i'r Cyngor fod yn rhagweithiol mewn perthynas â grwpiau cymunedol lleol, yn hytrach na disgwyl i unigolion gysylltu a mynychu cyfarfodydd yr Is-bwyllgor.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a PHENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo Rhaglen Waith Is-bwyllgor y Cabinet ar y faterion yr Hinsawdd ar gyfer Blwyddyn 2022-23 y Cyngor
|
|
Dangosfwrdd Ôl Troed Carbon - Newid Hinsawdd Derbyn cyflwyniad i'r system.
Cofnodion: Aeth Rheolwr Cyflawniad y Cyngor a charfan o Swyddogion Graddedig ati i ddangos prosiect Dangosfwrdd Ôl Troed Carbon i'r Is-bwyllgor. Siaradodd y swyddogion am ba mor bwysig yw hi bod y Cyngor yn deall ei ôl troed, ac yn ei leihau, er mwyn cyfrannu at darged Sero Net Llywodraeth Cymru.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Cyngor wedi bod yn cyfrifo'i ôl troed carbon dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond bwriad y Dangosfwrdd yw cynhyrchu data manwl gywir sy'n fwy hygyrch a thryloyw, a hynny i godi ymwybyddiaeth o'r ôl troed a llywio trafodaeth am y camau gweithredu sydd eu hangen i leihau allyriadau penodol yn yr Awdurdod Lleol.
Er bod lle i ddatblygu ymhellach, nodwyd bod y Dangosfwrdd Data yn barod i gael ei brofi, a bod sefydliadau allanol wedi mynegi diddordeb yn ei gynnydd hyd yma.
Roedd y Cadeirydd wedi cydnabod bod datblygu'r dangosfwrdd wedi bod yn dasg heriol ac amserol a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r Swyddogion Graddedig am eu gwaith caled yn datblygu'r dangosfwrdd.
Roedd yr Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd yn cydnabod y byddai'r Dangosfwrdd yn ddefnyddiol i'r Cyngor ond gofynnodd a fyddai'n addas ar gyfer y cyhoedd. Eglurodd y Rheolwr Cyflawniad fod y Dangosfwrdd yn cael ei ddefnyddio'n fewnol ar hyn o bryd. Pe byddai adnoddau ar gael, byddai modd datblygu'r Dangosfwrdd ymhellach er mwyn cynnwys ôl troed y Fwrdeistref Sirol ehangach.
Dywedodd yr Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd y byddai'n croesawu cyfarfod anffurfiol gyda'r swyddogion i drafod ymholiadau o ran diffiniadau penodol.
Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant ar y cyfle i longyfarch y Swyddogion Graddedig ar y gwaith a gafodd ei wneud a dywedodd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd mawr gan ystyried ei sefyllfa dwy flynedd yn ôl.
Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ddiolch hefyd i'r Swyddogion Graddedig am y cyflwyniad. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod y dangosfwrdd yn rhoi sicrwydd i'r Cyngor bod cynnydd yn cael ei wneud, gan dynnu sylw at y meysydd lle mae angen cynnal gwaith ychwanegol.
Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiolch i'r Swyddogion Graddedig ac i'r Rheolwr Cyflawniad am gydlynu darn o waith rhagorol, sy'n arwain y sector Llywodraeth Leol yng Nghymru. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefydlu'r Dangosfwrdd yn galluogi Rheolwyr i adolygu, herio a gweithredu ar ddata i wella Ôl Troed Carbon y Cyngor, pan nad oedd modd iddyn nhw wneud hynny o'r blaen. Un enghraifft a ddefnyddiwyd oedd y gallu i gymharu adeiladau ysgol a chanfod a oes modd cymryd camau i leihau costau ynni ac allyriadau.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Aelodau a'r Swyddogion am eu sylwadau.
|
|
Fferm Solar Arfaethedig PDF 409 KB Derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu Fferm Solar, i'w lleoli yng Nghoed-elái, ar hen lofa ‘derasog’ 84 erw, ger Tonyrefail, sef ased sy'n eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu 'Fferm Solar ar Dir', i'w lleoli ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor yng Nghoed-elái, ar hen lofa 'derasog' 84 erw, ger Tonyrefail. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fydd perchennog y cyfleuster yma.
Disgrifiodd y Cyfarwyddwr y prosiect fel Fferm Solar 6MW, gyda gwifren breifat 1MW i safle lleol. Nid oedd modd i'r Cyfarwyddwr enwi'r partner ar gyfer y safle lleol o ganlyniad i lofnodi cytundeb peidio â datgelu. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod gan y prosiect y potensial i 'niwtraleiddio' dros 1,500 tunnell o garbon y flwyddyn a bron i 54,000 tunnell dros oes disgwyliedig y prosiect, sef 'lleiafswm' o 35 mlynedd.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5.2 yr adroddiad, a oedd yn cynnwys manylion am gynnydd cadarnhaol y prosiect hyd yma, er gwaethaf ansicrwydd yn y farchnad ynni.
Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant ddiolch i'r swyddogion am y gwaith. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y farchnad gyfnewidiol ond dywedodd fod y prosiect arfaethedig yn hyfyw ac y byddai'n cyfrannu at dargedau carbon yr Awdurdod Lleol.
Ailadroddodd y Cadeirydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a PHENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad fel rhan o'r gwaith parhaus mewn ymateb i uchelgeisiau newid yn yr hinsawdd a chytuno i symud cynigion y prosiect yn eu blaenau, yn unol â chynnwys yr adroddiad; a 2. Derbyn adroddiad(au) pellach i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd pan fydd/fel y bo'n briodol.
|
|
Diweddariad ar faterion Ynni - Eiddo'r Cyngor PDF 196 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Is-bwyllgor am y canlynol: · Cyflwyno pwyntiau gwefru Cerbydau Trydanol · Trafod ôl troed carbon â Llywodraeth Cymru; a · Rhaglen Lleihau Carbon
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a’r Pennaeth Ynni a Lleihau Carbon yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Is-bwyllgor ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud ar ddatblygu’r prosiectau ynni adnewyddadwy canlynol a gwaith Llywodraethu Corfforaethol mewn perthynas â'r Newid yn yr Hinsawdd:
· Gosod fferm solar; · Technoleg Geo-Thermol; · Datblygiadau Amgen; · Dyheadau Ynni Gwynt; · Rhagolygon Trydan D?r; · Rhaglen Lleihau Carbon; · Gweithgor Materion yr Hinsawdd (CCWG); · Gweithgor Ôl Troed Carbon; · Gweithgor Gwefru Cerbydau Trydan a Trafnidiaeth; · Gweithgor Asedau Natur; · Gweithgarwch Cymunedol, Cyfathrebu ac Ymgysylltu; a · Gweithgor Asedau Adeiledig ac Adeiladu.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr Aelodau wedi trafod Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022, a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y sylwadau allweddol a gafodd eu gwneud.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn gadarnhaol am yr adroddiad a'r nifer o brosiectau a datblygiadau sydd ar y gweill, sy'n cyfrannu at leihau Ôl Troed Carbon y Cyngor. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod bod yna gyfyngiadau ar y grid a oedd wedi atal cynnydd y Cyngor, ond y gobaith yw dod o hyd i ateb i hyn maes o law. Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet wybod i'r Is-bwyllgor am ei drafodaethau ag Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn perthynas â phrosiect ynni d?r y pyllau glo. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y bu sôn am Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn llunio pecyn cymorth a gwersi a ddysgwyd ar gyfer Awdurdodau Lleol.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddogion am y diweddariad manwl a PHENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad diweddaraf yn rhan o waith parhaus Is-Bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd; a 2. Derbyn adroddiadau pellach yn ystod 2022 a 2023, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o fewn meysydd allweddol.
|
|
Gweithredu dros Natur: Cynllun Natur Lleol Rhondda Cynon Taf PDF 150 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n hysbysu'r Is-bwyllgor bod Partneriaeth Natur Leol RhCT wedi cwblhau'r rhaglen 'Gweithredu dros Natur'.
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am gynnydd cynllun 'Gweithredu dros Natur' Partneriaeth Natur Leol RhCT.
Eglurodd y Cyfarwyddwr y cafodd cynllun ‘Gweithredu dros Natur’ cyntaf RhCT ei gyhoeddi yn 2000. Roedd y cynllun wedi nodi camau gweithredu ar gyfer yr holl gynefinoedd a rhywogaethau cenedlaethol â 'blaenoriaeth' yn RhCT, ynghyd â chamau gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau a ystyrir yn bwysig yn lleol. Yn dilyn adolygiad yn 2018 a chais am gyllid tair blynedd gan Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i Lywodraeth Cymru am gymorth ariannol ar gyfer partneriaethau CGBLl, cafodd y Cynllun Natur Lleol ei ddiweddaru a’i newid o ddogfen i wefan.
Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun 'Gweithredu dros Natur' yn rhoi adnodd cyfoes a defnyddiol iawn i'r Cyngor mewn perthynas â chamau gweithredu a gwybodaeth bioamrywiaeth, yn seiliedig ar yr arbenigedd a'r dystiolaeth a gasglwyd gan Bartneriaeth Natur Leol RhCT.
Dywedodd Hyrwyddwr Materion yr Hinsawdd fod y Bartneriaeth Natur Leol yn hanfodol i'r Awdurdod Lleol ac i les y cymunedau. Siaradodd yr Aelod am bwysigrwydd pob ran o waith partneriaeth y Cyngor, gan gyfeirio’n benodol at yr adran gynllunio, gan fod ei phenderfyniadau’n cael effaith enfawr ar faterion yr hinsawdd.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant fod y wefan yn wych ac yn hollgynhwysol. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Elizabeth Dean am ei gwaith.
PENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Nodi bod Partneriaeth Natur Leol RhCT wedi cwblhau gwefan 'Gweithredu dros Natur'.
|
|
Mawndiroedd yn RhCT PDF 134 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor ar waith yn ymwneud â mawndiroedd yn RhCT.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am waith yn ymwneud â mawndiroedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, a oedd yn cynnwys manylion am waith swyddogion i ddeall mawnogydd yn RhCT, o ymchwil lleol a chenedlaethol. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod mawndiroedd yn y cyflwr gwaethaf ledled y DU ac yn Rhondda Cynon Taf yn allyrru'r symiau mwyaf o garbon, a gall gwaith adfer rhannol leihau'r allyriadau. Eglurwyd bod cyflwr mawndiroedd fel arfer yn cael ei wella trwy godi'r lefel trwythiad a'u gwneud yn wlypach.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Aelodau am y Cynllun Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol sy'n cael ei ddarparu gan CNC. Dyma gynllun 5 mlynedd o adfer mawndiroedd yng Nghymru a chynllun grant a lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer 22/23 i alluogi deiliaid grantiau i ddatblygu prosiectau adfer wedi’u costio o fis Medi 2022 hyd at fis Ebrill 2023. Cafodd yr Aelodau wybod bod cais wedi’i gyflwyno i CNC ar 30 Mehefin 2022 ar gyfer prosiect cynllunio adfer mawndir yng Nghwm-parc. Cyfanswm y prosiect yw £23,866.25.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant yn dymuno cofnodi ei ddiolch i Elizabeth Dean a Richard Wistow am eu gwaith. Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet â'r Cyfarwyddwr bod y mawnogydd yn ased enfawr nad oedd y Cyngor yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd a siaradodd yn gadarnhaol am y cynigion.
Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden am ymweliad safle â'r mawndiroedd yn RhCT i gael deall yn well. Cytunodd y Cadeirydd y byddai ymweliad safle'n cael ei drefnu maes o law, gan wahodd holl Aelodau'r Is-bwyllgor.
PENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Ystyried y cynnydd a nodwyd, a chymeradwyo'r amcan canolog arfaethedig ar gyfer rheoli mawndiroedd a'r cyfeiriad ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
|