Agenda a Chofnodion

Lleoliad: ZOOM

Cyswllt: Yula Kampouropoulou  07747485569

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

18.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis.

 

19.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

20.

Cofnodion pdf icon PDF 465 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 yn rhai cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021 yn rhai cywir.

 

21.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ACHLYSUR SERO NET RHCT I STAFF - 17 IONAWR 2022

Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyflawniad ar yr achlysur sero net i staff, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022.

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad ddiweddariad ar lafar i Aelodau Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r achlysur sero net i staff Rhondda Cynon Taf, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022. Roedd y Rheolwr Cyflawniad wedi cydnabod y gwaith sydd wedi'i gyflawni yn ystod y blynyddoedd blaenorol o ran ymgysylltu â thrigolion a'r gymuned; cydnabuwyd bod angen nodi, trafod a chasglu barn y staff mewn perthynas â sut i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a lleihau Ôl Troed Carbon y Cyngor. Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i'r Aelodau y bydd cwestiynau'n cael eu cynnwys yn yr arolygon i staff a rheolwyr yn rhan o drafodaethau 'Dewch i siarad am Newid yn yr Hinsawdd'.

 

Cafodd Aelodau wybod bod modd canolbwyntio ar ymgysylltu â staff erbyn hyn, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan a chyfrannu at waith sy'n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a lleihau allyriadau Carbon, a hynny'n dilyn dwy flynedd o ganolbwyntio ar faterion Covid-19. Roedd y Rheolwr Cyflawniad wedi cydnabod pwysigrwydd staff o ran y gwaith sy'n cael ei gyflawni nawr ac yn y dyfodol, yn enwedig gan fod tua 80% o staff hefyd yn drigolion RhCT.

 

Cafodd Aelodau wybod bod achlysur Sero Net i Staff wedi'i drefnu gyda'r bwriad o ddarparu cyfleoedd newydd a gwahanol er mwyn rhannu gwybodaeth am gynlluniau'r Cyngor a chychwyn trafodaethau â staff.  Cafodd yr achlysur ei gynnal ar-lein ac roedd croeso i holl staff o bob gradd a gwasanaeth; cynhaliwyd arolygon byr er mwyn sicrhau bod gan staff nad oedd modd iddyn nhw fynychu'r achlysur gyfle i gyfrannu hefyd.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyflawniad wybod i Aelodau nad oedd y garfan yn gwybod am y galw/nifer y bobl a fyddai'n dod i'r sesiwn wrth ei sefydlu. Serch hynny, mae'r ymateb wedi bod yn gadarnhaol gan y daeth dros 70 o staff i'r achlysur rhithwir. Yn ystod yr achlysur, cafwyd cyflwyniadau gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Rhys Lewis, Chris Bradshaw a David Powell. Yn dilyn y cyflwyniadau, cafodd y cyfranogwyr eu rhannu'n grwpiau trafod lle gofynnwyd iddyn nhw rannu'u syniadau ynghylch sut gallai'r Cyngor leihau allyriadau carbon ac allyriadau eraill yn ei wasanaethau a'i weithrediadau ac hefyd eu syniadau ynghylch sut i gynnwys ac ymgysylltu â'r holl staff i helpu'r Cyngor i gyflawni'i dargedau lleihau allyriadau carbon.

Cadarnhaodd y Rheolwr Cyflawniad fod y gr?p wedi cyfrannu mewn modd brwdfrydig yn ystod y trafodaethau; cafodd gwybodaeth ddefnyddiol ei chasglu a bydd yr wybodaeth yma'n cael ei hystyried a'i defnyddio ar y cyd ag adborth sydd wedi'i gasglu o ffrydiau ymgysylltu eraill.

 

Roedd y cyfraniadau yma gan staff wedi cadarnhau'r gwerth sy'n gysylltiedig â darparu rhagor o gyfleoedd er mwyn i staff gyfrannu a chymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch Newid yn yr Hinsawdd. Cafodd y materion canlynol eu nodi yn dilyn trafodaethau:

 

-       Mae staff eisiau rhagor o wybodaeth ynghylch beth y mae'r Cyngor yn ei wneud ynghylch Newid yn yr Hinsawdd a beth mae modd i staff ei wneud.

-       Mae ffocws cynyddol ar leihau  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

ADRODDIAD DIWEDDARU AR EIN HYMATEB CAFFAEL O RAN NEWID YN YR HINSAWDD pdf icon PDF 536 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Caffael sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar yr ymatebion a gafwyd o ran Newid yn yr Hinsawdd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Caffael adroddiad i Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae'r Gwasanaeth Caffael yn ei gynnal ar hyn o bryd a hynny i gefnogi nod y Cyngor o gyflawni'i darged Sero Net erbyn 2030.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am Strategaeth Gaffael ar gyfer 2021/24 (drafft) a oedd yn dod â gofynion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Drafft ynghyd gan nodi tair thema strategol sy'n cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer 2020/24. Cadarnhaodd y Pennaeth Caffael mai thema allweddol holl waith y Gwasanaeth Caffael yw cefnogi uchelgeisiau sero net y Cyngor.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yr adroddiad a oedd yn amlygu newidiadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â phrosesau a'r ddogfen safonol a hynny i gyflawni uchelgeisiau'r Cyngor o ran Newid yn yr Hinsawdd.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Pennaeth Caffael am yr adroddiad, gan gydnabod yr ystod eang o waith y mae Swyddogion wedi'i wneud ac roedd hi'n dymuno diolch iddyn nhw am eu gwaith caled. Roedd y Cadeirydd yn falch o weld graddedigion yn cael eu cyflwyno i brosiectau arloesol i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd.

 

Ategodd Aelod ganmoliaeth y Cadeirydd ac roedd yn falch o weld bod staff yn cyfrannu at brosiectau arloesol ac yn rhannu syniadau.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Cydnabod y newidiadau a roddwyd ar waith gan y Gwasanaeth Caffael a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol, i gefnogi uchelgeisiau sero net y Cyngor.

 

23.

ADRODDIAD DIWEDDARU AR Y PROSIECT FFERM SOLAR ARFAETHEDIG pdf icon PDF 168 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Prosiect Fferm Solar arfaethedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariadau pellach i'r Aelodau mewn perthynas â datblygu’r prosiect 'Fferm Solar ar Dir' a fydd yn cael ei lleoli ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Roedd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wedi cydnabod potensial mawr y prosiect yng nghyd-destun cyfleoedd gwrthbwyso carbon yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth gefndir a diweddariadau allweddol mewn perthynas â'r cynigion a fydd yn cyfrannu'n fawr at wrthbwyso ôl troed carbon ac yn cyfrannu at gyflawni targedau Carbon Sero Net y Cyngor. 

Esboniodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon fod modd disgrifio'r prosiect fel Fferm Solar 6MW oherwydd cynnyrch cyfunol y ddwy 'elfen allforio' sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig. Mae'r 'elfen allforio' yn cynnwys Western Power Distribution a threfniadau gwifrau preifat. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod trafodaethau ar gyfer y wifren breifat wedi cyrraedd y cam dirprwyo. Mae'r trefniadau yma'n destun trefniant diffyg datguddio y mae'r Cyngor wedi cytuno iddo gyda'r partner posibl. 

 

Aeth y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon ati i hysbysu'r Aelodau bod yna dri opsiwn sy'n gysylltiedig â'r Fferm Solar ac mae'r ffyrdd y mae modd rhoi'r cynigion yma ar waith wedi'u crynhoi isod:

 

Opsiwn 1: adeiladu'r fferm solar annibynnol er mwyn manteisio ar ein cysylltiad diogel â'r grid 5MW. Bydd hyn yn bwydo'n uniongyrchol i'r grid ac yn rhannu'r p?er sydd wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio'r llwybr yma'n unig.

 

Opsiwn 2: cyfuno'r syniadau a ddisgrifir uchod â system wifrau preifat i bartner lleol, ac allforio i fyd masnach ar ddwy lefel, sef 33kV a 11kV.

 

Opsiwn 3: cyfuno'r ddwy senario uchod gan archwilio cyfleoedd eraill i ddarparu ynni gwyrdd i fentrau masnachol y dyfodol ar ystad ddiwydiannol leol, a hynny am gost isel. Y gobaith yw y bydd y dull yma'n annog defnyddwyr sy'n defnyddio llawer o ynni i adleoli i'r safle, nid yn unig ar gyfer yr ynni gwyrdd ond hefyd o ran potensial y safle. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch creu Safle Gwefru Cerbydau Trydan sylweddol sydd â chyfleusterau storio batris ac wedi'i bweru'n rhannol gan y fferm solar. I ddechrau, bydd y safle yma ar gael i'r Cyngor a fflyd y sector cyhoeddus, ond bydd y safle hefyd ar gael i gerbydau preifat a cherbydau nwyddau trwm.

 

Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon y bydd y gwaith yn canolbwyntio ar opsiwn 2; fodd bynnag, gellir ystyried opsiwn 3 gan ddibynnu ar yr ymchwiliadau sy'n cael eu cynnal nes ymlaen yn y cynllun ac os oes parodrwydd i fynd ar ei drywydd o safbwynt corfforaethol.

 

Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Chaffael y byddai rhoi statws prosiect i'r cynigion a amlinellwyd yn golygu bod modd rhoi'r systemau llywodraethu cymeradwy angenrheidiol ar waith er budd datblygiad parhaus y prosiect. Bydd hefyd yn galluogi'r garfan y mae'r Cyngor wedi'i phenodi i reoli materion wrth symud ymlaen â'r prosiect.

 

Mynegodd un Aelod bryder ynghylch maint y prosiect Fferm Solar a’i effaith ar gynefinoedd  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

ADRODDIAD DIWEDDARU AR LEIHAU EITEMAU DEFNYDD UNTRO pdf icon PDF 339 KB

Derbyn adroddiad y Pennaeth Caffael, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar leihau eitemau defnydd sengl/untro.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Caffael yr adroddiad i Aelodau'r Gr?p Llywio a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o eitemau defnydd untro ar draws y Cyngor.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 3 yr adroddiad. Mae'r adran yma'n nodi'r cynnydd effeithiol sydd wedi'i wneud yn yr amgylchedd corfforaethol o ran cael gwared ar eitemau defnydd untro. Mae'r holl eitemau sydd wedi'u nodi yn adran 3.2 bellach wedi'u tynnu o gatalogau'r Cyngor.

 

 

Dywedodd y Pennaeth Caffael wrth yr Aelodau fod rhagor o waith wedi cael ei wneud mewn perthynas ag eitemau defnydd untro eraill, nad ydyn nhw'n blastigion, fel sydd wedi'u nodi yn adran 3.3 o'r adroddiad.

 

Er bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth leihau nifer yr eitemau defnydd untro, rhoddodd y Pennaeth Caffael wybod i'r Aelodau am yr heriau sy'n cael eu hwynebu wrth roi'r newid yma ar waith yn yr ysgolion, am y rhesymau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dywedodd y Pennaeth Caffael wrth yr Aelodau y bydd camau'n cael eu rhoi ar waith i adolygu'r defnydd o gynnyrch untro mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf fel yr amlygwyd yn adran 3.5 yr adroddiad. Dywedodd y Pennaeth Caffael y byddai gwaith adolygu'n cael ei wneud mewn perthynas â'r sectorau glanhau a phorthol, yn ogystal ag adolygu'r sector arlwyo.

 

I gloi, cyfeiriodd y Pennaeth Caffael yr Aelodau at adran 4 yr adroddiad, gan bwysleisio pwysigrwydd mabwysiadu agwedd gyfrifol a chynaliadwy tuag at reoli cynhyrchion nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach. Roedd dwy enghraifft wedi'u cynnwys yn yr adroddiad - Offer TG a Dodrefn Swyddfa, Gosodiadau a Ffitiadau.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Swyddog am yr adroddiad ac roedd yn falch o'r camau a gymerwyd tuag at leihau nifer yr eitemau defnydd untro, yn enwedig o fewn sector yr ysgolion.

 

Ategodd un Aelod ganmoliaeth y Cadeirydd o ran y gwaith sydd wedi'i wneud i leihau eitemau defnydd untro ac ailddodrefnu ac ailddefnyddio offer TG a dodrefn swyddfa. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd economi gylchol y mae modd ei hailddefnyddio.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran sicrhau nad oes modd archebu eitemau defnydd untro o systemau archebu ar-lein y Cyngor.

 

-       Cydnabod effaith Covid-19 o ran mynd i’r afael â phlastigion/eitemau untro o fewn y sector ysgolion.

 

-       Nodi'r gwaith sy'n cael ei gynnal mewn perthynas â chategorïau cyflenwi ehangach lle mae cynnyrch/plastigion untro'n cael eu prynu, gan ganolbwyntio ar gontractau glanhau a gofalwyr y Cyngor.

 

 

25.

DERBYN DIWEDDARIAD AR LAFAR GAN GYFARWYDDWR EIDDO'R CYNGOR

Derbyn diweddariad llafar gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ar y materion a ganlyn:

 

1.    Y Prosiect Plannu Coed

 

2.    Y Strategaeth Wefru Cerbydau Trydan a Sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

 

Cofnodion:

Y Prosiect Plannu Coed

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed. I ddechrau, rhoddodd wybod i'r Aelodau am raglen dreigl flynyddol y Cyngor ar gyfer ailblannu coed sydd wedi'u difrodi neu wedi marw yn lleoliadau Parciau a Chefn Gwlad ledled RhCT. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fod y garfan wedi gallu plannu teirgwaith y nifer o goed nag yn ystod y blynyddoedd blaenorol. Cadarnhaodd fod y garfan wrthi'n plannu 1,200 o goed ledled y tair ardal yn RhCT ar hyn o bryd.

 

 

Roedd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â phlannu coed yn yr ardal; Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor y bydd y Cyngor yn cydweithio â Chroeso i'n Coedwig er mwyn trafod a rhannu syniadau a dyblu'r ymdrechion gan sicrhau bod y goeden gywir yn cael ei phlannu yn y lleoliad cywir.

 

Aeth Cynrychiolydd Croeso i'n Coedwig ati i egluro bod y prosiect yn bwysig o ran mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd ac yn nhermau cyfle i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf. Rhoddodd drosolwg byr i'r Aelodau o'r tair eitem a drafodwyd mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed; roedd y rhain yn cynnwys:

 

  1. Plannu Coed mewn Gerddi Preifat
  2. Gweithio gyda busnesau lleol i blannu coed mewn mannau i staff, a
  3. Plannu coed ar dir gwastraff nas defnyddir.

 

Adleisiodd cynrychiolydd Croeso i'n Coedwig bwysigrwydd plannu’r goeden gywir yn y lle cywir ac am y rheswm cywir. Aeth ati i esbonio gwerth y prosiect, sy'n ceisio cael effaith hirdymor gadarnhaol er budd pobl a busnesau lleol yn RhCT.

 

Roedd y Cadeirydd yn falch o weld y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan y garfan; nododd ei bod hi'n bwysig bod yr Awdurdod Lleol yn gweithio gyda'r gymuned.

 

Dywedodd un Aelod ei bod hi'n bwysig bod yr Awdurdod Lleol yn rhannu'r neges briodol â'r Gymuned a thrigolion, gan ganolbwyntio ar arwyddocâd y plannu'r goeden gywir yn y lle cywir. Hefyd, codwyd ymholiad ynghylch gwywo'r onnen a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar goed ynghyd â Chynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer plannu coed newydd yn lle'r coed sydd wedi'u symud. 

 

Soniodd un Aelod wrth y Gr?p Llywio am bwysigrwydd cynnwys y Prosiect Plannu Coed o fewn y Fforwm Mannau Gwyrdd er mwyn annog staff i gyfrannu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y dylid darparu diweddariadau pellach i'r Pwyllgor mewn perthynas â'r Prosiect Plannu Coed er mwyn tynnu sylw at y cynnydd sy'n cael ei wneud. Cadarnhaodd fanylion y cyllid sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, mae modd defnyddio hyn fel buddsoddiad hirdymor er mwyn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. 

 

 

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan a Sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Rhoddodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon drosolwg byr i'r Aelodau o'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan. Cafodd yr Aelodau'u hatgoffa o'r gwaith cynharach a gafodd ei gyflawni gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â thrafod datblygu seilwaith i  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

ADRODDIAD DIWEDDARU O RAN DATGANIAD CAEREDIN pdf icon PDF 160 KB

Derbyn diweddariad ar Ddatganiad Caeredin a rôl Awdurdodau Lleol o fewn y fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Materion Amgylcheddol yr adroddiad i'r Aelodau; nod yr adroddiad oedd rhoi gwybod i'r Aelodau am Ddatganiad Caeredin a rôl Awdurdodau Lleol o fewn y fframwaith bioamrywiaeth ôl-2020 byd-eang; Nod hyn yw sicrhau newid trawsnewidiol i fyd natur dros y degawd nesaf.

 

Hysbyswyd yr Aelodau am Gynhadledd y Partïon (COP15); Cafodd yr Aelodau wybod bod y pandemig wedi gohirio'r fframwaith, fodd bynnag, dylid cynnal cyfarfod yn y Gwanwyn er mwyn cymeradwyo fframwaith bioamrywiaeth ôl-2020.  Y weledigaeth ar gyfer y fframwaith yw byw'n gytûn â byd natur erbyn 2050. Rhannodd y Swyddog Cynllunio Materion Amgylcheddol fanylion yr amcanion sydd ar waith er mwyn diogelu bioamrywiaeth â'r Aelodau; mae cynlluniau gweithredu ar waith ac mae'r rhain yn cynnwys Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Genedlaethol. 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio Materion Amgylcheddol wrth yr Aelodau y bydd gwaith datblygu'r fframwaith yn cael ei gynnal drwy ddull cyfranogol; cafodd yr Aelodau wybod bod Datganiad Caeredin yn ganlyniad i hynny. I gloi, rhoddodd y Swyddog Cynllunio Materion Amgylcheddol wybod fod yr ALl wedi cael ei annog gan Lywodraeth Cymru i arwyddo a chefnogi gweithrediad y cytundeb rhyngwladol.

 

Siaradodd Aelod am bwysigrwydd y ddogfen ac arwyddocâd arwyddo'r ddogfen.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

-       Cefnogi arwyddo Datganiad Caeredin

 

27.

ADRODDIAD CRYNO O'R CANLYNIADAU A GYFLAWNWYD YN Y BLYNYDDOEDD DIWETHAF pdf icon PDF 427 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n crynhoi'r hyn a gyflawnwyd yn y blynyddoedd diwethaf wrth fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau mewn perthynas â'r deilliannau amgylcheddol ac ynni allweddol a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'r gwaith sy'n cael ei gynnal ar brosiectau ynni adnewyddadwy a materion eraill sy'n ymwneud â lleihau allyriadau carbon. Dywedodd wrth yr Aelodau mai nod yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o'r gwaith da sydd wedi'i wneud hyd yma yn ogystal â phrosiectau'r dyfodol.

Siaradodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon am Gynllun Corfforaethol 2020/24 RhCT 'Gwneud Gwahaniaeth'; gan nodi bod y Cyngor wedi cydnabod mai cyflawni ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd fydd un o'r heriau mwyaf.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5 yr adroddiad sy'n rhestru llwyddiannau prosiectau'r Cyngor sy'n ymwneud â mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd hyd yma. Roedd rhai enghreifftiau o'r llwyddiannau hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon 40% drwy fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy; mae'r holl oleuadau stryd yn RhCT wedi'u newid i oleuadau LED ac ers 2016 mae hyn wedi arwain at ostyngiad blynyddol o 84% yn y carbon a gofnodwyd yn 2018/19. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau mai Cyngor RhCT yw'r ALl cyntaf i osod Celloedd Tanwydd Hydrogen ac erbyn hyn mae 21 o unedau wedi'u gosod mewn Canolfannau Hamdden, Ysgolion a Swyddfeydd ledled RhCT.

Cyfeiriodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr Aelodau at adran 6 yr adroddiad a oedd yn tynnu sylw'r Aelodau at brosiectau Cyngor RhCT sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Mae’r prosiectau’n cynnwys ‘Ffynnon Dwym Ffynnon Taf’, sy’n defnyddio gwres geothermol, buddsoddiad y Cyngor mewn peiriannau ailgylchu wedi'u hawtomeiddio o’r radd flaenaf ar safle Bryn Pica, sydd wedi gwella targedau ailgylchu’r Cyngor, gwaith bioamrywiaeth ar y gweill sy’n archwilio defnyddio coed a mawnogydd fel modd o ddal carbon, yn ogystal â nifer o lwybrau 'Teithio Llesol' sydd wedi'u sefydlu ledled RhCT megis Llwybr Taith Taf, Llwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys a Llwybr Cwm Cynon. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod y gwaith wedi bod yn canolbwyntio ar wella rhwydweithiau teithio llesol drwy ddatblygu llwybrau newydd a fydd yn gwella cysylltedd ac yn gwasanaethu cyfleusterau lleol allweddol megis ysgolion, colegau, mannau gwaith a siopau.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 7 yr adroddiad; mae'r adran hon yn amlygu cynlluniau'r Cyngor i ddatgarboneiddio'r Fwrdeistref Sirol drwy gydweithio i ddatblygu systemau gwefru cerbydau trydan a datgarboneiddio fflyd y Cyngor, hyfforddiant i staff a menter mannau gwyrdd. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon wrth yr Aelodau fod adran 7 yr adroddiad yn cyfeirio at system Llywodraethu Corfforaethol newydd y Cyngor sydd wedi'i sefydlu dan y Gr?p Llywio, fel y dangosir yn atodiad yr adroddiad.

 

Fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, soniodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud sy'n adlewyrchu egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), wrth i brosiectau ddiwallu anghenion presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.