Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Uned Busnes y Cyngor  07385401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

7.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

8.

COFNODION pdf icon PDF 125 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023 yn rhai cywir.

 

9.

Materion yn codi

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau mewn perthynas â'r ddau gam gweithredu a godwyd yng nghyfarfod mis Medi, sef:

 

1.     Ymweliad safle; Bydd ymweliad safle yn cael ei gynnal ar 5 Mawrth 2024. Bydd manylion y lleoliad yn cael eu rhannu maes o law.

2.     Cyfarfod gyda'r Grid Cenedlaethol; Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor y newyddion diweddaraf i Aelodau.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod cyfarfod cadarnhaol wedi cael ei gynnal gyda'r Grid Cenedlaethol a oedd wedi cynnwys trafodaethau am Gymdeithas Rhwydwaith Ynni a chynllun tri phwynt sydd ar gael ar wefan y Grid Cenedlaethol. Cadarnhaodd y Grid Cenedlaethol ei fod yn hapus i weithio ar y cyd â Chyngor RhCT ac i barhau â'r trafodaethau. Fel Gweithredwr Gwasanaeth Dosbarthu (DSO), mae rhaid iddo lunio cynllun busnes preifat sy'n benodol iawn. Mae'r gwaith y mae'n ei wneud ar y cynllun yn cael ei reoleiddio'n fanwl iawn. Dywedodd y Cyfarwyddwr, o ran ein cynllun ynni lleol, fod y Grid Cenedlaethol wedi nodi po fwyaf y gallwn ni roi gwybod iddo am ein hanghenion, y mwyaf y gall gynnwys hynny yn ei gynlluniau busnes a gofyn i OFGEM am gyllid. Cadarnhaodd y Grid Cenedlaethol ei fod eisiau gweithio gyda ni trwy gydol cyfnod y Cynllun Ynni Lleol. Yn ogystal â hynny, nododd y Cyfarwyddwr fod y Grid Cenedlaethol wedi cyflwyno addewid cysylltedd, sy'n dweud bod gan ddefnyddwyr hawl i osod mannau gwefru cerbydau trydan yn eu cartrefi, yn ogystal â phympiau gwres safonol. Caiff defnyddwyr roi gwybod i'r Grid Cenedlaethol am y rhain ar ôl eu gosod. Cafodd Aelodau wybod bod y Grid Cenedlaethol yn ailgynllunio ei wefan, gan ei gwneud hi'n seiliedig ar ardal a chyflwyno statws Coch Melyn Gwyrdd (RAG). Mae hefyd yn cyhoeddi Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan newydd. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr fod y cyfarfod yn gadarnhaol iawn. 

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y cyfarfod yn gadarnhaol ac y bydd y Grid Cenedlaethol yn cael gwahoddiad i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol. Cadarnhaodd Aelod ei fod yn falch o glywed hyn a'i fod yn edrych ymlaen at glywed rhagor gan y Grid Cenedlaethol yn y dyfodol. Roedd Aelodau'n falch o glywed ein bod ni wedi datblygu perthynas dda gyda'r dosbarthwr ond hoffen nhw sicrwydd y bydd cymunedau llai cyfoethog yn cael mynediad at y rhwydwaith hefyd. Cytunodd y Cadeirydd â phwysigrwydd monitro hyn yn y dyfodol.

 

10.

'HINSAWDD YSTYRIOL RHCT' – STRATEGAETH MYND I'R AFAEL Â NEWID YN YR HINSAWDD Y CYNGOR 2022-2025: ADRODDIAD CYFLAWNIAD CHWARTER 2 pdf icon PDF 173 KB

Rhoi datganiad cyflawniad chwarter 2 i Aelodau yn rhan o drosolwg o'n cynnydd mewn perthynas â chyflawni Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, 'Hinsawdd Ystyriol RhCT', y cytunwyd arni ym mis Mehefin 2022.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawniad ‘Hinsawdd Ystyriol RhCT: Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor 2022-2025’ – Chwarter 2 i Aelodau.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr adroddiad a nododd ei bod hi'n gadarnhaol iawn gweld rhagor am gaffael. Cyfeiriodd y Cadeirydd at Wobrau Eco Ysgolion a gofynnodd faint o ysgolion sydd wedi cofrestru i dderbyn gwobr Efydd. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyflawniad fod 19 o ysgolion eisoes wedi cofrestru hyd yn hyn. Roedd y Cadeirydd yn falch o glywed hyn a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnwys plant ein hysgolion. Aeth yr Is-gadeirydd ati i ganmol y gwaith yma hefyd a rhoddodd ddiolch i'r Swyddogion am adroddiad mor fanwl.

 

Cafwyd trafodaeth a rhoddwyd canmoliaeth am y gwaith a gafodd ei gynnal y tu ôl i'r llenni. Cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 14 a gofynnodd a oedd unrhyw ddiweddariad o ran cyllid cam dau prosiect arloesi Cwm Taf Morgannwg. Croesawodd yr Aelod nifer y bobl sy'n cyflwyno cais am grantiau i wella eu heiddo a dywedodd fod hyn yn galonogol. Nododd y Rheolwr Cyflawniad y bydd manylion pellach o ran cyllid grant yn cael eu cynnwys yn niweddariad chwarter 3 ar ôl y Nadolig.  

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau: 

 

1. Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.     Pennu safbwynt ar y meysydd posibl i'w trafod ymhellach yn rhan o Raglen Waith ys Is-bwyllgor; a

3.     Nodi'r gwaith i'w ddatblygu ac ymgorffori ymateb y Cyngor i'r Newid yn yr Hinsawdd ymhellach ym musnes y Cyngor, a hynny'n rhan o ddatblygiad Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor.

 

 

11.

Ôl Troed Carbon pdf icon PDF 162 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd am Gynllun Carbon Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru a'r hyn a gyflwynwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf o dan y drefn honno ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022/23.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Blaen Swyddog Lleihau Carbon yr adroddiad i Aelodau a rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am Gynllun Carbon Sero-Net Sector Cyhoeddus Cymru a'r hyn a gyflwynwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf o dan y drefn honno ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2022/23.

 

Aeth y Cadeirydd ati i ganmol yr adroddiad a nododd pa mor hapus oedd hi i weld ein bod ni'n cadw 23% o'n cadwyn gyflenwi. Croesawodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth a chyfeiriodd Aelod at 5.8 a nododd nad oes modd i ni ddefnyddio peth o'r data i wrthbwyso ein hallyriadau carbon. Gofynnodd Aelod pam nad oes modd gwneud hynny. Nododd y Blaen Swyddog Lleihau Carbon y cafodd y mecanwaith adrodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a'i bod hi o'r farn ein bod ni eisoes yn elwa ar unrhyw drydan newydd rydyn ni'n ei gynhyrchu felly byddai ei ddefnyddio i wrthbwyso ein hallyriadau carbon yn fudd ychwanegol. Mae Llywodraeth Cymru a chyfranogwyr y cynllun yn trafod ar hyn o bryd er mwyn nodi ffordd newydd o gydnabod yr ynni adnewyddadwy rydyn ni'n ei gynhyrchu. Gofynnodd y Cadeirydd fod yr wybodaeth ddiweddaraf o ran hyn yn cael ei rhoi i'r Pwyllgor.

 

Cafwyd trafodaeth ac aeth Aelod ati i ganmol y ffaith bod gostyngiad cyffredinol i'w weld ar draws y Bwrdd. Nododd yr Aelod faint o waith caled sydd wedi cael ei gynnal y tu ôl i'r llenni mewn perthynas â'n cadwyn gyflenwi a rhoi gwybod i gyflenwyr am sut mae modd lleihau eu hôl troed carbon, ac yn ei dro lleihau ein hôl troed carbon ni. Aeth yr Aelod ati i ganmol y Swyddogion am eu gwaith caled. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i Aelodau ei bod wedi cwrdd â staff a phrentisiaid/swyddogion graddedig y garfan ac wedi diolch iddyn nhw. Byddan nhw'n cael gwahoddiad i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Aeth Aelod arall ati i ganmol yr adroddiad a nododd fod y newidiadau i wasanaethau sydd wedi'u gwneud gan y Cabinet dros y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod cysylltiad â datgarboneiddio.

 

Yn dilyn trafodaeth, CYTUNWYD:

 

1. Nodi cynnwys yr adroddiad yma'n rhan o'r gwaith parhaus o dan gylch gwaith Is-Bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd;

2.     Cyhoeddi'r data ar Ddangosfwrdd Ôl Troed Carbon y Cyngor; a

3.     Derbyn adroddiadau pellach sy'n rhoi diweddariadau ychwanegol am gynnydd pan fydd hi'n addas.

 

12.

ADRODDIAD DIWEDDARU AR Y FFERM SOLAR ARFAETHEDIG pdf icon PDF 137 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu Fferm Solar ar dir yng Nghoedelái sy'n eiddo i'r Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Ynni a Lleihau Carbon ei adroddiad i'r Aelodau a rhoddodd ddiweddariad pellach mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu 'Fferm Solar ar y Tir', i'w lleoli ar dir y Cyngor yng Nghoed-elái (hen safle glofa 'teras' 84-erw, ger Tonyrefail). Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fydd perchennog y cyfleuster yma.

 

Cafwyd trafodaeth ac aeth Aelod ati i ganmol yr adroddiad gan nodi ei fod yn hawdd ei ddeall. Aeth yr Aelod hefyd ati i longyfarch y Swyddog am sicrhau cyllid grant.

 

Ar ôl trafodaeth, CYTUNODD Aelodau:

 

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad yma yn rhan o'r gwaith parhaus mewn ymateb i'n huchelgeisiau newid yn yr hinsawdd a chytuno i ddatblygu cynigion y prosiect ymhellach yn unol â chynnwys yr adroddiad yma.

 

2.     Derbyn adroddiad(au) pellach sy'n rhoi diweddariadau ar gynnydd pan fydd hi'n addas.

 

13.

SEILWAITH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN YN ASEDAU'R CYNGOR pdf icon PDF 167 KB

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd am y cynnydd o ran Gwefru Cerbydau Trydan yn asedau'r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a Phennaeth Ynni a Lleihau Carbon yr adroddiad i Aelodau a rhoddwyd diweddariad mewn perthynas â'r cynnydd ym maes gwefru cerbydau trydan yn asedau'r Cyngor, a hynny o ran gweithio tuag at nodau gwefru cerbydau trydan y Cyngor sydd wedi cael eu datgan yn gyhoeddus. Rhoddodd y Cyfarwyddwr gyflwyniad PowerPoint i Aelodau mewn perthynas â mannau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Aeth y Cadeirydd ati i ganmol faint o ddata oedd yn yr adroddiad a nododd nad yw rhai mannau gwefru yn cael eu defnyddio llawer a gall y data ein helpu ni i gyflwyno mannau gwefru a gwybod ble i'w rhoi.

 

Cafwyd trafodaeth a nododd Aelod pa mor dda oedd hi i weld faint o fannau gwefru sydd ar gael ledled RhCT. Gofynnodd Aelod a fydd mannau gwefru'n cael eu gosod yn Fferm Solar Coed-elái pan fydd yn barod ac a oes gyda ni fapiau o ddarparwyr trydydd parti. Aeth Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ati i gydnabod bod bylchau yn ardal Coed-elái ond rhoddodd wybod i Aelodau fod y garfan yn gweithio ar hyn yn barod. Nododd y Cyfarwyddwr fod Zap Map ar gael a'i fod yn cynnwys yr holl ddarparwyr trydydd parti. Mae modd defnyddio Zap Map i wirio a yw'r mannau gwefru yn gweithio. Mae data RhCT o ran mannau gwefru hefyd i'w weld ar Zap Map. Gofynnodd Aelod arall a oes modd derbyn crynodeb o fannau gwefru a'u defnydd mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cadarnhaodd Pennaeth Ynni a Lleihau Carbon fod gyda ni'r data yma'n barod a bydd gyda ni ddata cyhoeddus hefyd pan fydd yn mynd yn fyw. O ran Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Pennaeth Ynni a Lleihau Carbon wedi cadarnhau ei fod wedi gofyn am ddata ond heb ei gael hyd yn hyn. Nododd y Cadeirydd y byddai modd i'r Pwyllgor ysgrifennu atyn nhw yn gofyn am y data.

 

Yn dilyn trafodaeth, CYTUNODD Aelodau:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad yma, a chyflwyniad cysylltiedig, yn rhan o'r gwaith parhaus mewn ymateb i uchelgeisiau'r Cyngor o ran gwefru cerbydau trydan a gafodd eu pennu gan y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a'r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan a Chynllun Gweithredu; a

2.     Derbyn adroddiad(au) pellach sy'n rhoi diweddariadau ar gynnydd pan fydd hi'n addas.

 

14.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

 

Cofnodion:

Doedd dim mater brys i'w drafod.