Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Sarah Handy - Swyddog Craffu a Ymchwil I Aelodau 07385401942
Rhif | eitem |
---|---|
5 swyddogaeth statudol graidd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Atgoffir aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl, bod eu swyddogaethau statudol craidd yn cynnwys: -
• Adolygu neu graffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Bwrdd neu'r camau mae'r Bwrdd yn eu cymryd; • Adolygu neu graffu ar drefniadau llywodraethu'r Bwrdd; • Paratoi adroddiadau neu wneud argymhellion i'r Bwrdd ynghylch ei swyddogaethau neu'i drefniadau llywodraethu; • Ystyried materion sy'n ymwneud â'r Bwrdd fel y gall Gweinidogion Cymru gyfeirio atyn nhw, ac adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny; • Cyflawni swyddogaethau eraill mewn perthynas â'r Bwrdd sydd wedi'u gosod arno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e, a mynegi natur y buddiant personol hwnnw: a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Cadarnhau cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021 yn rhai cywir.
|
|
Diweddariad ar Raglen Waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Chwarter 1 PDF 482 KB Derbyn diweddariad ar Raglen Waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Chwarter 1 a'r amcanion a gyflawnwyd hyd yma.
|
|
Diweddariad ar waith y Grŵp Gweithredu Asesu Cymunedol PDF 472 KB Derbyn diweddariad ar waith y Gr?p Gweithredu Asesu Cymunedol ynghylch yr Asesiad Lles.
|
|
Adborth gan Gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Adborth gan Gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar y camau sydd i'w cymryd yn dilyn y sesiwn hyfforddi gyda Dr Dave McKenna ar 5 Tachwedd 2021.
|
|
Adroddiadau er gwybodaeth PDF 366 KB · Cynllun Cyflenwi Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (Pobl Iach); · Cynllun Cyflenwi Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (Unigrwydd ac Arwahanrwydd); · Cynllun Cyflenwi Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (Economi Gref); · Cynllun Cyflenwi Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (Cymunedau sy'n Ffynnu); · Cynllun Gwaith Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf 2021–21; · Cofnodion Drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf 12.10.21; · Crynodeb o amcanion a thrywydd Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol; · Llythyr at Gadeiryddion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus - asesiad lles lleol; ac, · Cyfarfod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol â Chadeiryddion y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, 22 Mawrth 2021
Dogfennau ychwanegol: |
|
Unrhyw Faterion Eraill Trafod unrhyw faterion eraill y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.
|
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
|