Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Civic Offices, Merthyr Tydfil County Borough Council, Merthyr Tydfil

Cyswllt: Marc Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424102

Eitemau
Rhif eitem

9.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol H. Boggis, A. Fox (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Chaplin (Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful).

 

10.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD - Yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau'r Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yn y cyfarfod yngl?n â'r agenda:

 

1. Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Jones

- "Rydw i'n aelod o'r Côr Meibion Lleol".

 

11.

COFNODION pdf icon PDF 101 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod blaenorol Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed a gafodd ei gynnal ar 28 Mai 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau cofnodion o gyfarfod Cydbwyllgor Amlosgfa Llwydcoed a gynhaliwyd ar 28 Mai 2019 yn rhai cywir.

 

12.

ADRODDIAD RHEOLWR Y GWASANAETHAU PROFEDIGAETHAU pdf icon PDF 197 KB

·         Trafod y Rhaglen Gwaith Cyfalaf

·         Trafod Gwasanaeth Carolau Nadolig yr Amlosgfa.

·         Trafod y cynnig ynghylch cynlluniau parcio ceir a phlannu yn y dyfodol.

·         Derbyn diweddariad ynghylch Sgriniau Cyfryngau Wesley.

·         Derbyn gwybodaeth am hysbysfyrddau'r Amlosgfa.

·         Derbyn gwybodaeth yngl?n â darparu ystafell gyfarfod yn Amlosgfa Llwydcoed.

·         Trafod yr Ystadegau a Chyflawniad

 

Cofnodion:

12.1    Rhaglen Waith Gyfalaf

 

Rhoddodd Reolwr y Gwasanaethau Profedigaethau ddiweddariad i'r Aelodau yngl?n â'r Rhaglen Waith Gyfalaf, sydd wedi'i chymeradwyo gan yr Aelodau.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r rhaglen waith gyfalaf sydd wedi'i chymeradwyo.

 

12.2    Gwasanaeth Carolau Nadolig Llwydcoed

 

Cafodd yr Aelodau wybod fod Gwasanaeth Carolau Nadolig Amlosgfa Llwydcoed wedi'i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2019, am 12pm, a bod gwahoddiad i'r Aelodau a'u teuluoedd.

 

Gofynnodd un Aelod a fyddai modd gwahodd y Côr Meibion Lleol i ganu yng Ngwasanaeth Carolau Nadolig Llwydcoed yn 2020. Nodwyd y byddai gwahoddiad ffurfiol yn cael ei anfon at y Cor Meibion lleol yn gofyn iddyn nhw berfformio yn y Gwasanaeth y flwyddyn nesaf. 

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r wybodaeth.

 

12.3    Cynlluniau Parcio Ceir a Phlannu ar gyfer y Dyfodol

 

Gofynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaethau i'r Aelodau ystyried y cynnig mewn perthynas â chynlluniau parcio ceir a phlannu ac, os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, yna bydd modd ymchwilio i'w costau.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD y byddai angen chwilio am eglurhâd ar gostau'r cynllun.

 

12.4    Sgriniau Wesley Media

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod cyfarfod wedi'i gynnal rhwng y Swyddogion a Westley Media er mwyn trafod pryderon yr Aelodau yngl?n â sgriniau Wesley Media. Bydd Wesley Media yn darparu cynllun gwella ar gyfer pob rhan o'r system ac yn nodi costau'r gwaith maes o law.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r adroddiad.

 

12.5    Hysbysfyrddau'r Amlosgfa

 

Mewn perthynas â'r pryderon a godwyd ynghylch diffyg hysbysfyrddau, cafodd yr Aelodau wybod fod dau hysbysfwrdd arall wedi'u prynu a'u lleoli mewn ardaloedd priodol ar dir yr Amlosgfa.  

 

 

12.6    Darparu Ystafell Gyfarfod yn Amlosgfa Llwydcoed

 

Clywodd yr Aelodau bod adran Eiddo'r Cyngor wedi ymrwymo i greu ystafell gyfarfod yn Amlosgfa Llwydcoed, gyda'r gwaith yn cychwyn ganol mis Medi 2019. Yn dilyn y gwaith, bydd modd cynnal cyfarfodydd y Cydbwyllgor yn Amlosgfa Llwydcoed yn y dyfodol.

 

12.7    Ystadegau a Chyflawniad

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Profedigaeth yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â'r ystadegau a'r ffigurau cyflawniad sy'n ymwneud â gweithrediad yr Amlosgfa ers y cyfarfod diwethaf.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth yn y taflenni.

 

13.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD pdf icon PDF 87 KB

Trafod adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r canlynol:-

  • Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn sy'n dod i ben 31 Mawrth 2019 (Atodiad 1)
  • Monitro'r Gyllideb 2019/20 - Y Newyddion Diweddaraf (Atodiad 2)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfrifydd Cyfadran y Cydbwyllgor y Datganiad Blynyddol ar gyfer y Flwyddyn sy'n Gorffen ar 31 Mawrth 2019, yn ogystal â'r diweddariad am adroddiad Monitro'r Gyllideb 2019/20.

 

Adroddwyd na nodwyd unrhyw welliannau perthnasol yn rhan o'r broses adolygu ar gyfer y Datganiad Blynyddol ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben 31st Mawrth 2019.

 

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau mewn perthynas â'r Adroddiad Monitro Cyllideb, sy'n darparu cymhariaeth o'r gwariant a'r incwm gwirioneddol a rhagamcanol yn erbyn y gyllideb gymeradwy ar gyfer tri mis cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20. Cafodd eglurhad ei ddarparu mewn perthynas â'r prif amrywiant yn y gwariant.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r Datganiad Blynyddol ar gyfer y Flwyddyn sy'n Gorffen ar 31 Mawrth 2019;

2.    Cymeradwyo a nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad Monitro'r Gyllideb 2019/20.