Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda: · Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Morgans wedi datgan diddordeb mewn perthynas ag Eitem 7 ar yr agenda: 'Mae cyflogwr yr ymgeisydd yn ffrind i'r teulu a fydda i ddim yn pleidleisio ar yr eitem yma'; a · Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Howe wedi datgan buddiant mewn perthynas ag Eitem 7 ar yr agenda: 'Rydw i'n 'nabod cyflogwr yr ymgeisydd a fydda i ddim yn pleidleisio ar yr eitem yma'.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd 23 Mawrth 2021. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2021 yn rhai cywir.
|
|
Undeb Llafur UNITE a Diwydiant Tacsis RhCT PDF 105 KB Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoleiddio wybod i'r Pwyllgor Trwyddedu bod Undeb Unite wedi sefydlu Cangen yn RhCT i gynrychioli gyrwyr tacsi sydd wedi cael trwydded gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 3 yr adroddiad, a oedd yn rhannu manylion yngl?n â'r cyfleoedd cadarnhaol sy'n gysylltiedig â sefydlu Undeb Llafur.
Cafodd yr Aelodau wybod bod y materion allweddol canlynol wedi cael eu nodi gan y Gangen, a'u bod nhw'n dymuno archwilio'r rhain gyda'r Cyngor: • Ffioedd a Chostau - cais am adolygiad o'r costau cyfredol a chais penodol sy'n gofyn bod y cynnydd mewn ffioedd ar gyfer 21/22 ddim yn cael ei weithredu; a • Safle Tacsis Pontypridd - problemau sy'n codi gyda'i leoliad newydd (dros dro) yn Stryd y Taf.
Roedd yr Aelodau wedi cydnabod bod sefydlu Undeb Llafur yn rhywbeth cadarnhaol, a byddai'r cam yma'n hwyluso trafodaethau gwell a chyfleoedd ymgysylltu gyda'r maes. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynllun i sefydlu Cangen RhCT o Undeb UNITE a fydd yn cynrychioli gyrwyr tacsis sydd wedi derbyn trwydded gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
|
(i) Trwyddedu Anifeiliaid
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ei adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion i'r Aelodau am drwyddedau a chofrestriadau a gafodd eu rhoi yn ystod y cyfnod rhwng 8 Mawrth 2021 a 18 Ebrill 2021.
PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Ystyried y ceisiadau canlynol ar gyfer Trwyddedu a/neu gofrestru: Mr R Caswell Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion y cais canlynol am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.
Yn unol â'r gweithdrefnau wedi eu mabwysiadu, cafodd Mr RC ei groesawu gan yr Aelodau – roedd ei gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat ger bron y Pwyllgor.
Ar ôl trafod yr adroddiad a'r dystiolaeth ger eu bron, PENDERFYNODD y Pwyllgor wrthod y cais.
|
|
Crynodeb Gorfodi (gan gynnwys data apeliadau/erlyniadau) ar gyfer y cyfnod: 24.03.21 - 23.04.21 Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad sy'n amlinellu'r gwaith gorfodi diweddaraf, gan gynnwys y diweddaraf am apeliadau ac erlyniadau ar gyfer y cyfnod rhwng 24 Mawrth 2021 a 23 Ebrill 2021.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|
|
Crynodeb o'r Trwyddedau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth awdurdod dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 08.03.21 - 18.04.21 (i) Trwyddedau gyrru ar y cyd – Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat (ii) Trwyddedau Cerbyd Hacni (iii) Trwyddedau Cerbyd Hurio Preifat (iv) Trwyddedau Gweithredwyr Hurio Preifat Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu manylion y Trwyddedau a/neu Gofrestriadau a gafodd eu rhoi o dan ddarpariaeth Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 8 Mawrth 2021 ac 18 Ebrill 2021.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|