Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIAD Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Morgans.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd 2 Chwefror 2021. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 yn rhai cywir.
|
|
(i) Trwyddedu Anifeiliaid (ii) Trwyddedu Metal Sgrap Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymunedfanylion i'r Aelodau am y trwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 18 Ionawr 2021 i 7 Mawrth 2021.
PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Ystyried y ceisiadau canlynol ar gyfer Trwyddedu a/neu gofrestru: · Mr A.K Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion y cais canlynol am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.
Yn unol â'r gweithdrefnau wedi eu mabwysiadu, cafodd Mr AK ei groesawu gan yr Aelodau – roedd ei gais ger bron y Pwyllgor am gael Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r dystiolaeth ger ei fron, PENDERFYNODD y Pwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar y telerau ac amodau safonol arferol.
|
|
Crynodeb Gorfodi (gan gynnwys data apeliadau/erlyniadau) ar gyfer y cyfnod: 26.01.21 - 11.03.21 Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith gorfodi diweddaraf, gan gynnwys y diweddaraf am apeliadau ac erlyniadau ar gyfer y cyfnod 26 Ionawr 2021 tan 11 Mawrth 2021.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r diweddariad.
|
|
Crynodeb o'r Trwyddedau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth awdurdod dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 18.01.21 - 07.03.21 (i) Trwyddedau gyrru ar y cyd – Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat (ii) Trwyddedau Cerbyd Hacni (iii) Trwyddedau Cerbyd Hurio Preifat (iv) Trwyddedau Gweithredwyr Hurio Preifat Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Aelodau'n amlinellu'r Trwyddedau a/neu Gofrestriadau a gafodd eu rhoi o dan ddarpariaeth Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 18 Ionawr 2021 i 7 Mawrth 2021.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|