Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd 12 Hydref 2020. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2020 yn rhai cywir.
|
|
(i) Trwyddedu Anifeiliaid (ii) Tyllu’r Croen a That?o (iii) Tân Gwyllt a Ffrwydron
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Aelodau yngl?n â thrwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 28 Medi 2020 i 17 Ionawr 2021.
PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Crynodeb Gorfodi (gan gynnwys data apeliadau/erlyniadau) ar gyfer y cyfnod: 19.10.20 – 25.01.21 Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yr adroddiad i'r Aelodau, yn amlinellu'r gweithgarwch gorfodi diweddaraf gan gynnwys y diweddaraf am erlyniadau ac apeliadau ar gyfer y cyfnod 19 Hydref 2020 i 25 Ionawr 2021.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|
|
Crynodeb o'r Trwyddedau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth awdurdod dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: 28.09.20 – 17.01.21 (i) Trwyddedau gyrru ar y cyd – Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat (ii) Trwyddedau Cerbyd Hacni (iii) Trwyddedau Cerbyd Hurio Preifat (iv) Trwyddedau Gweithredwyr Hurio Preifat Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yr adroddiad i'r Aelodau yn amlinellu'r Trwyddedau a/neu'r Cofrestriadau wedi'u cyhoeddi dan ddarpariaeth Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 28 Medi 2020 i 17 Ionawr 2021.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|