Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Chair Welcome Cofnodion: Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i groesawu'r Rheolwr Diogelu Iechyd a Thrwyddedu dros dro i'r cyfarfod. |
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 2 Chwefror 2021. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 yn rhai cywir.
|
|
Adolygiad O Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.
Rhoddwyd gwybod bod nifer yr Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro (TENs) yn isel yn ystod y cyfnod yma. Gallai hyn gael ei briodoli i Reoliadau'r Coronafeirws sy'n cyfyngu ar weithgareddau trwyddedig. Fodd bynnag, ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud sy’n galluogi eiddo trwyddedig i ailagor mewn mannau agored yn unig. Rhagwelwyd y byddai cynnydd yn nifer y ceisiadau yn ystod y cyfnod nesaf, yn enwedig o ran clybiau, sydd ag amodau trwydded gwahanol o'u cymharu â thafarndai a bwytai. Nododd y Cyfarwyddwr hefyd fod nifer sylweddol o drosglwyddiadau a newidiadau o ran Goruchwyliwr Safle Penodedig, a hynny hefyd, mae'n debyg, o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n wynebu tafarndai a chlybiau oherwydd y pandemig.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod un cais i amrywio trwydded mangre wedi cael ei wrthwynebu ers adroddiad diwethaf y Pwyllgor. Adroddwyd hefyd y bu dau adolygiad ar gais Heddlu De Cymru yn ystod y cyfnod. Roedd yr adolygiad cyntaf yn ymwneud â thafarn Red Lion, Trefforest. Penderfynodd yr Isbwyllgor ddiddymu'r Drwydded. Roedd yr ail adolygiad yn ymwneud â Gwesty White Lion, Aberdâr a phenderfynodd yr Isbwyllgor ddiddymu'r Drwydded. Cafodd yr Aelodau wybod bod yr ymgeisydd ar gyfer Gwesty White Lion wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu i ddiddymu'r drwydded mangre a byddai'r Gwrandawiad yn cael ei gynnal am 10am ar 12 Mai 2021 yn Llysoedd Merthyr Tudful.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Cafodd yr Aelodau wybod bod y gyfradd cyflawni gyfredol yn parhau i fod yn 90.5% gan fod cyn lleied o arolygiadau wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod, o ganlyniad i'r ffaith bod gofyn i dafarndai, clybiau a bwytai gau yn sgil cyfarwyddiadau'r Llywodraeth ac wrth i swyddogion ganolbwyntio ar arolygiadau Covid-19.
Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddisgrifio'r sefyllfa yn ystod y cyfnod yma, gan egluro bod yr holl dafarndai, clybiau a bwytai trwyddedig wedi rhoi'r gorau i fasnachu o ganlyniad i'r cyfyngiadau gan Lywodraeth Cymru er mwyn mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Er i'r mangreoedd yma gael eu cau, cafodd Aelodau wybod bod swyddogion wedi parhau i gynnal ymweliadau, ynghyd â charfan gorfodi RhCT a Heddlu De Cymru, i sicrhau'u bod yn cydymffurfio â Covid.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor am y cyfyngiadau diweddaraf i gael eu llacio a'r ymholiadau y mae'r masnachwyr wedi'u cyflwyno yn ystod y cyfnod yma mewn perthynas ag ailagor clybiau yn yr awyr agored. Cafodd yr Aelodau wybod bod amodau gorfodol wedi'u gosod ar dystysgrifau mangre ar gyfer tafarn a bwyty yn wahanol i'w gilydd. Mae hyn yn rhwystro nifer o glybiau rhag agor yn yr awyr agored yn ystod yr wythnosau nesaf.
O ran ailagor tafarndai a bwytai yn ... view the full Cofnodion text for item 20. |
|
Trafod Cadarnhau'r Cynnig Isod Yn Benderfyniad: “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Trwyddedau a Chofrestriadau a Gyhoeddwyd o Dan Ddarpariaeth Pwerau Dirprwyedig ar Gyfer y Cyfnod: 18.01.21 - 18.04.21 (i) Trwyddedau Personol (ii) Trwyddedau Safle Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned fanylion i'r Pwyllgor am y trwyddedau a'r cofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod rhwng 18 Ionawr 2021 a 18 Ebrill 2021.
Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.
|