Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

2.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 63 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 17 ebrill 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018 yn gofnod cywir o'r cyfarfod.

 

 

4.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Adroddodd y bu cynnydd sylweddol yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TEN), a hynny'n bennaf oherwydd adeg y flwyddyn a'r cyfnod hir o dywydd braf.

 

Cafodd yr aelodau wybod hefyd fod un cais wedi ei wrthwynebu yn ystod y cyfnod yma, sef Cwmdare Stores, ac un adolygiad wedi ei gyflwyno gan y Swyddfa Gartref, lle penderfynodd yr Aelodau ddiddymu'r drwydded.

 

Adroddodd y swyddog am ganlyniad apêl a gafodd ei hystyried yn ystod y cyfnod, sef Domino's yn Nhrefforest, lle'r oedd yr apelydd wedi gwrthwynebu penderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu. Cafodd yr aelodau wybod fod yr apêl wedi'i chytuno allan o'r llys a bod y Drwydded wedi'i chaniatáu i'r apelydd ond gyda llai o oriau nag yn y cais gwreiddiol.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 o'r adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yn bleser dysgu bod 89% o'r adeiladau a oedd wedi'u harolygu yn cydymffurfio'n fras o'i gymharu â'r 80% yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod y bu cynnydd yn nifer y cwynion a dderbyniom yn ystod y cyfnod a bod y rhain yn tueddu i fod mewn perthynas â phroblemau s?n o ganlyniad i'r tywydd braf.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled ardaloedd Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Siaradodd y swyddog am fentrau cadarnhaol sy wedi'u rhoi ar waith fel Operation Malpas yng Nghwm Rhondda a'r 'Ap S?n' yn ardal Taf-elái a oedd wedi gweld canlyniadau cadarnhaol.

 

Dywedodd y Swyddog fod cyfarfodydd 'Pubwatch' yn cael eu mynychu'n rheolaidd ymhob ardal, ond gofynnodd a fyddai modd i Aelodau gynorthwyo i ymgysylltu â thrwyddedwyr yn ardaloedd Aberpennar ac Aberdâr gan fod presenoldeb wedi gostwng dros amser.

 

Soniodd y swyddog am y problemau a gododd mewn perthynas â'r achlysur 'Bounce Run' a oedd i'w gynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Eglurodd, oherwydd amryw faterion, doedd dim caniatâd i agor yr ardal drwyddedig ond cafodd yr Aelodau gadarnhad bod awdurdodau amrywiol wedi trafod ar ôl yr achlysur i sicrhau bod y materion hyn ddim yn codi yn y dyfodol.

 

Cafodd aelodau eu cyfeirio at adran 4.5 o'r adroddiad lle mae'r wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaeth Alcohol Gymunedol Pontypridd (CAP) yn cael ei darparu. Yn dilyn cwestiynau, eglurodd y swyddog y byddai'r mentrau cadarnhaol yn cael eu monitro gan arolygon a thrwy weithio gydag ysgolion gyda'r nod o sicrhau eu bod yn dod yn brosiectau tymor hir ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr Aelodau eu diweddaru yngl?n â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus newydd a ddaeth i rym ar 1 Medi. Gofynnodd Aelodau gwestiynau am bwerau'r Gorchymyn, gyda'r swyddog yn cadarnhau bod canol trefi Aberdâr a Phontypridd bellach wedi'u diffinio fel parthau gwahardd sylweddau meddwol  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn Benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

6.

Trwyddedau a Chofrestriadau a Gyhoeddwyd o dan Ddarpariaeth Pwerau Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 20.04.18 - 26.08.18

(i)  Trwyddedau Personol                                                                                                                                          

(ii) Trwyddedau Safle              

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gafodd eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod 20 Ebrill 2018 tan 26 Awst 2018.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.