Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Cwm Clydach, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

15.

Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

16.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Cymeradwyocofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 4 Rhagfyr, 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr, 2018 yn rhai cywir.

 

 

17.

Adolygiad o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac o Ddeddf Gamblo 2005 pdf icon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Diogelwch y Cyhoedd ei adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor. Roedd yn adroddiad chwarterol ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Dywedwyd bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TEN) yn ystod y chwarter. Roedd hyn yn bennaf oherwydd digwyddiadau a gynhaliwyd ar gyfer y Nadolig a Nos Galan.

 

Dysgodd yr Aelodau fod nifer o geisiadau wedi'u herio ers yr adroddiad cryno diwethaf a bod modd i'r swyddog ddarparu diweddariad mewn perthynas â'r cais am amrywio'r Drwydded Safle ar gyfer Club Ice, Pontypridd. Cadarnhawyd bod yr Is-bwyllgor wedi gwrthod y cais ar gyfer nos Iau, ond wedi rhoi'r Drwydded  ar gyfer  nos Wener a nos Sadwrn. Rhoddwyd yr amrywiad hefyd ar nos Sul i'r eiddo agor i'r cyhoedd rhwng 11:00 a 01:30, gan gyflenwi alcohol rhwng 11:00 a 01:00, yn amodol ar nifer o amodau ychwanegol.

 

Cafodd Aelodau wybod na chafodd unrhyw adolygiadau nac apeliadau eu cyflwyno ers yr adroddiad diwethaf.

 

Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o safleoedd a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd yr aelodau'n falch o glywed bod 89% o'r adeiladau a arolygwyd yn cydymffurfio'n gyffredinol er bod oedi wedi bod cyn cynnal arolygiadau oherwydd cyfnod y Nadolig.

 

Cyflwynodd y swyddog drosolwg i'r Pwyllgor o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y Garfan Drwyddedu ledled RhCT yn ystod y cyfnod. Cafodd y Pwyllgor wybod y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y cwynion a dderbyniwyd ar gyfer ardal Cwm Rhondda yn ystod y cyfnod, yn ogystal â gostyngiad mewn digwyddiadau y cafodd yr heddlu wybod amdanyn nhw. Siaradodd y swyddog yn gadarnhaol am 'Ymgyrch Marsileo', a ffurfiwyd yn ardal Cwm Rhondda i sicrhau bod yr Amcan Trwyddedu 'Amddiffyn Plant rhag Niwed' yn cael ei hyrwyddo. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod pob eiddo trwyddedig, ar wahân i un eiddo sy'n peri pryder, wedi bod yn barod i gydymffurfio yn ystod yr arolygiadau. Dywedodd y swyddog hefyd na chafodd unrhyw bryderon eu codi yn dilyn nifer o archwiliadau i eiddo trwyddedig gan Safonau Masnach er mwyn gwirio lleoliadau peiriannau hapchwarae.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd yn y cyfarfod diwethaf ynghylch y gwerthiannau dan oed honedig yng Nghwm Cynon, roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod gweithdy wedi'i gynnal, a bod 16 o bobl wedi cymryd rhan. Roedd hwn yn weithdy gwirfoddol ac roedd yr adborth yn gadarnhaol, felly mae modd cynnig y digwyddiad eto.

 

Aeth y swyddog ymlaen i siarad am yr ymweliad safle diweddar a gynhaliwyd yn ardal 'Y Tymbl', Pontypridd, lle'r aeth Aelodau o'r Pwyllgor Trwyddedu gyda swyddogion i ymweld â'r ystafell reoli TCC, y safle tacsis a rheolwyr yr eiddo trwyddedig yn y cyffiniau. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o'u cais i ymweld ag ardal Aberdâr, a nodwyd y byddai'r swyddogion yn ystyried trefnu hyn ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr aelodau y newyddion diweddaraf am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus a oedd wedi'i roi ar waith ar  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn Benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

19.

Trwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth pwerau dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 19.11.18 - 17.02.19:

(i)  Trwyddedau Personol

(ii)  Trwyddedau Safle  

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Diogelwch y Cyhoedd fanylion i'r Pwyllgor am drwyddedau a chofrestriadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod o 19Tachwedd, 2018 tan 17 Chwefror, 2019.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.