Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Cwm Clydach, CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

23.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol S. Powderhill.

 

24.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chôd Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

 

25.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A'R DDEDDF TROSEDD AC ANHREFN

I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.

 

 

26.

COFNODION pdf icon PDF 59 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu (yn gweithredu yn unol â'i swyddogaeth o dan ddeddf Trwyddedu 2003) a gynhaliwyd 23.01.2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion 23.01.2018 fel adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.

 

 

27.

ADOLYGIAD O DDEDDF TRWYDDEDU 2003 AC O DDEDDF GAMBLO 2005 pdf icon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ei adroddiad chwarterol i'r Pwyllgor ar faterion perthnasol o ran Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, ynghyd â materion ategol sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (TEN). Roedd hyn yn adlewyrchiad o amser y flwyddyn yn dilyn cyfnod prysur y Nadolig. Roedd nifer o achlysuron wedi cael eu cynnal ar gyfer Pencampwriaethau Rygbi'r Chwe Gwlad a doedd hyn ddim yn cael ei ystyried yn anarferol.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr adroddiad ar ganlyniad apêl a gafodd ei ystyried o fewn y cyfnod, sef y 'White Lion'. Ers penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu, roedd yr apelydd wedi dangos ei fod yn cadw at yr amodau a roddwyd arno ac felly, ni chafodd yr apêl ei herio gan yr Awdurdod Lleol yn y llys. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod un apêl barhaus o fewn y cyfnod o ran Domino's, Trefforest. Cafodd ei gadarnhau y byddai canlyniad yr apêl yn cael ei adrodd yn ystod cyfarfod priodol nesaf y Pwyllgor Trwyddedu (yn unol â'i swyddogaeth o dan Ddeddf Trwyddedu 2003).

 

Dysgodd yr aelodau hefyd bod un adolygiad wedi ei gyflwyno gan y Swyddfa Gartref yn ystod y cyfnod yma, lle penderfynodd yr Aelodau ddiddymu ei thrwydded.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.3 o'r adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Roedd Aelodau'n falch o glywed bod y gyfradd perfformiad presennol wedi gwella o 80% o eiddo yn cydymffurfio'n fras i 86% ers cyhoeddi'r adroddiad.

 

Cyflwynodd y Swyddog drosolwg o'r gwaith a gafodd ei gyflawni gan y carfanau Trwyddedu ar y cyd â charfanau Trwyddedu'r Heddlu ledled Cwm Cynon, Cwm Rhondda a Thaf-elái yn ystod y cyfnod. Dywedodd wrth y Pwyllgor y byddai Adran Diogelwch yn y Gymuned Rhondda Cynon Taf, yn dilyn llwyddiant Partneriaeth Alcohol yn y Gymuned y Porth, yn lansio Partneriaeth Alcohol yn y Gymuned Pontypridd yng Nghanolfan Gelf y Miwni ar 16 Mai, 2018.

 

Yna cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.8 yr adroddiad lle mae adennill ffioedd blynyddol yn cael ei amlinellu. Sicrhaodd yr Aelodau er bod ffigyrau'n uchel, roedd hyn i'w ddisgwyl oherwydd yr amser o'r flwyddyn.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Pwyllgor, a'r ymatebion gan y swyddogion perthnasol, PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

28.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

29.

TRWYDDEDAU A CHOFRESTRIADAU A GYHOEDDWYD O DAN DDARPARIAETH PWERAU DIRPRWYEDIG AR GYFER Y CYFNOD 08.01.18 - 01.04.18

(i)  Trwyddedau Personol                                                                                                                                            

(ii) Trwyddedau Safle       

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion i'r Pwyllgor am y trwyddedau a'r cofrestriadau a gafodd eu cyhoeddi yn ystod cyfnod 8  Ionawr, 2018 tan 1  Ebrill, 2018.

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.