Agenda a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris.

 

2.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.

 

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 114 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2023.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mai 2023 yn rhai cywir.

 

 

4.

Rhaglen Waith Is-Bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg 2023-2024 pdf icon PDF 119 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi rhestr arfaethedig i Aelodau o faterion sydd angen eu hystyried gan Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2023–24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol restr arfaethedig o faterion i Aelodau y bydd angen i Is-Bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg eu trafod yn ystod Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor.

 

Tynnwyd sylw Aelodau at Atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn cynnwys manylion adroddiadau allweddol i'w trafod yn ystod Blwyddyn y Cyngor. Hefyd, rhoddwyd gwybod y byddai'r Is-bwyllgor yn derbyn diweddariadau, pan fo'n briodol, gan feysydd gwasanaeth amrywiol er mwyn monitro gwaith hybu'r Gymraeg ar draws gwasanaethau'r Cyngor.

 

Cynigiwyd bod Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg yn cwrdd yn ffurfiol ar ddau achlysur yn ystod Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor, gyda chyfarfodydd ychwanegol yn cael eu cynnal pan fo'n addas, a hynny yn ôl cais y Cadeirydd.

 

Roedd Aelodau'n fodlon ar y rhaglen waith, a chydnabuwyd bod ei chynnwys yn hyblyg a byddai modd ei newid i adlewyrchu anghenion busnes.

 

PENDERFYNODDIs-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg:

1.    Cymeradwyo Rhaglen Waith Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg ar gyfer Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor.

 

5.

Gwella Proses Recriwtio'r Cyngor o ran Denu Siaradwyr Cymraeg 2022-2027 pdf icon PDF 153 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned a Chyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol sy'n gofyn am gymeradwyaeth i ddechrau ar y gwaith o ddrafftio cynllun gwarantu cyfweliad cyraeddadwy a rhesymol ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch os ydyn nhw'n bodloni meini prawf hanfodol swyddi gwag.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg yr adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth gan Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg er mwyn i staff Adnoddau Dynol a staff Gwasanaethau Cymraeg ddechrau gwaith drafftio Cynllun Gwarantu Cyfweliad cyraeddadwy a rhesymol ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch os ydyn nhw'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd wag.

 

Nododd Rheolwr y Gwasanaeth fod cyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad wedi'i nodi'n gam gweithredu yn strategaeth statudol 5 mlynedd y Cyngor ar gyfer hybu'r Gymraeg a'i chynllun gweithredu ategol. Cytunodd yr Is-bwyllgor ar y rhain mewn cyfarfodydd a gafodd eu cynnal ar 25 Hydref 2022 a 9 Mai 2023.

 

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth wybod y byddai cyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn cryfhau sefyllfa'r Cyngor wrth fodloni'r gofynion statudol o ran y Gymraeg a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn lleihau'r perygl o weithredu cyfreithiol yn ei erbyn. Yn ogystal, byddai'r cynllun hefyd o fudd i'r Cyngor fel cyflogwr yn sgil dewis ehangach posibl o ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol.

 

Pwysleisiodd Rheolwr y Gwasanaeth y byddai'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad, pe byddai'n cael ei gymeradwyo, dim ond yn gwarantu cyfweliad ar gyfer y rheiny sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi mewn unrhyw becyn swydd; a fyddai ddim yn gwarantu cynnig swydd, gan y byddai gweithdrefnau dethol yn sicrhau bod yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd yn cael ei benodi.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am y cyflwyniad cynhwysfawr ac roedd o blaid yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Siaradodd y Cadeirydd am bwysigrwydd datblygu sgiliau Cymraeg staff nifer o adrannau er mwyn gwella'r gwasanaethau y mae'r Awdurdod Lleol yn eu cynnig.  Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau cadarnhaol am y cyfle i adolygu'r cynllun yn dilyn cyfnod o 12 mis.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd o blaid yr argymhellion a chanmolodd yr Awdurdod Lleol am gyflwyno menter o'r fath. Cymharodd y Dirprwy Arweinydd y fenter arfaethedig â'r cynllun cadarnhaol a gafodd ei gyflwyno gan RCT ar gyfer cyn-filwyr.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol am ragor o wybodaeth o ran beth fyddai 'cynllun gwarantu cyfweliad cyraeddadwy a rhesymol ar gyfer siaradwyr Cymraeg lefel 3 ac uwch' yn ei gynnwys; a gofynnodd a fyddai cyfle i'r Is-bwyllgor weld y polisi terfynol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr sicrwydd i'r Is-bwyllgor y byddai'r cynllun yn addas i'r diben ac yn ceisio cyflawni amcanion tymor hwy'r Cyngor mewn perthynas â'r Strategaeth 5 Mlynedd a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu. Nododd y Cyfarwyddwr y byddai'r Undebau Llafur yn rhan o'r broses, a chadarnhaodd y byddai modd i'r Is-bwyllgor weld drafft terfynol o'r polisi.

 

Cytunodd y Cadeirydd â sylwadau'r Dirprwy Arweinydd a chadarnhaodd y byddai'n fodlon ar drefnu cyfarfod ychwanegol o'r Is-bwyllgor cyn y cyfarfod sydd wedi'i drefnu ar gyfer mis Mai 2024, a hynny er mwyn i Aelodau drafod y polisi drafft.

 

PENDERFYNODDIs-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg:

1.    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg ddrafftio Cynllun Gwarantu Cyfweliad cyraeddadwy a rhesymol ar gyfer siaradwyr Cymraeg  ...  view the full Cofnodion text for item 5.