Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Sarah Handy - Council Business Unit, Democratic Services  07385401942

Eitemau
Rhif eitem

16.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg Mr Osian Rowlands i'w gyfarfod cyntaf o'r Gr?p Llywio.

 

 

 

17.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Hooper a Ms Andrea Richards.

 

18.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorydd Rhys Lewis y datganiad o fuddiant personol canlynol yn ymwneud â'r agenda, ac arhosodd yn y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod ac yn ystod y bleidlais:

 

         “Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Abercynon, ysgol y cyfeiriwyd ati yn adroddiad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg”. 

 

19.

Cofnodion pdf icon PDF 315 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2021 yn rhai cywir.

 

 

20.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - Drafft pdf icon PDF 166 KB

Rhoi trosolwg i Aelodau'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Drafft y Cyngor yn dilyn yr ymgynghoriad statudol diweddar â'r cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant drosolwg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft) y Cyngor i Aelodau'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, gan roi cyfle i Aelodau gyflwyno sylwadau ac adborth mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft).

 

Cafodd yr Aelodau wybod am darged uchelgeisiol y Cyngor o gynyddu canran y dysgwyr blwyddyn un sy'n mynychu lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y targed yma'n cael ei gyflawni drwy weithredu dull cydweithredol a thrwy weithredu'r camau a gynigwyd yn ystod y deng mlynedd nesaf. Cafodd yr Aelodau wybod am ymgynghoriad â'r cyhoedd a gynhaliwyd ag ystod eang o randdeiliaid i geisio'u barn nhw ar gyflawni'r targed uchelgeisiol yma. Mae'r adborth wedi'i gynnwys yn rhan o Adroddiad Ymgynghori Statudol a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg arfaethedig a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddogion sydd wedi cyfrannu at waith llunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Drafft y Cyngor, gan nodi bod y cynllun yn uchelgeisiol ond yn gytbwys. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y themâu cyffredin sy'n codi yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn enwedig o ran gosod targedau.

 

Roedd yr Aelodau wedi trafod bod angen edrych ar y cynllun strategol 10 mlynedd yn rheolaidd i fesur y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran targedau mewn modd effeithiol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth mewn perthynas â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft) y Cyngor.

 

 

21.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater arall i'w drafod.