Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

5.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant.

 

6.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 25 Hydref, 2022.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022.

 

7.

Strategaeth Hybu'r Gymraeg a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 143 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n nodi sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a fu'n trafod Strategaeth Hybu'r Gymraeg a'r Cynllun Gweithredu yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd yr Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol sylwadau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gydag Is-bwyllgor yr Iaith Gymraeg ar ôl ystyried Strategaeth Hybu'r Gymraeg yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. Tynnwyd sylw'r aelodau at Adran 5 yr adroddiad eglurhaol, a oedd yn crynhoi prif sylwadau'r Pwyllgor.

 

Yna rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau Cymraeg gopi diwygiedig i'r Is-bwyllgor o Gynllun Gweithredu Strategaeth Hybu'r Gymraeg i helpu rhoi Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022–2027 ar waith. Cafodd y Strategaeth ei chymeradwyo gan y Pwyllgor ar 25 Hydref 2022.

 

Estynnodd y Cadeirydd ddiolch a chanmoliaeth i'r swyddogion am yr adroddiad a'r gwaith sydd wedi'i wneud i lunio'r Strategaeth Hybu a Chynllun Gweithredu cadarn. Siaradodd y Cadeirydd am y targedau uchelgeisiol mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chynyddu nifer y dysgwyr tua 10% dros y deng mlynedd nesaf, a'r cyfleoedd yn y dyfodol a fydd yn deillio o Eisteddfod 2024. Siaradodd y Cadeirydd yn gadarnhaol hefyd am y cysylltiadau â'r cymunedau a phwysleisiodd bwysigrwydd cymunedau i gyrraedd y targedau uchelgeisiol.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yn gadarnhaol hefyd am y Strategaeth Hybu a'r Cynllun Gweithredu ac roedd yn teimlo ei bod yn amlwg bod y Gymraeg yn llifo trwy bob rhan o'r Awdurdod Lleol a'i wasanaethau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn arbennig o falch o nodi bod Aelodau Etholedig a staff yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith yn fewnol, a hynny'n rhan o'u swyddi, a nododd fod nifer fawr yn manteisio ar y ddarpariaeth. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r ddarpariaeth yma nid yn unig yn cynyddu'r defnydd o'r iaith mewn lleoliadau gwaith, ond hefyd yn y cartref gyda theuluoedd a ffrindiau.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant gynnwys yr adroddiad. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod y byddai'n anodd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gymuned ond yn falch o nodi'r camau sydd yn eu lle i roi cyfle i bartneriaid gyfrannu at lwyddiant y strategaeth gyffredinol. Gan gyfeirio at adran 5.6 yr adroddiad, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn teimlo y byddai'n bwysig i'r Cyngor fonitro rhan 2 o'r Cynllun Gweithredu.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol am fanteision dysgu'r Gymraeg a'i fod yn teimlo bod yr adroddiad yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni ei nodau. Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet gydnabod bod modd i ddysgu iaith newydd yn ddiweddarach mewn bywyd deimlo'n frawychus a holodd a oedd ffigurau ar gael o ran y niferoedd o'r ddemograffeg yma sy'n manteisio ar y cyfle.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg i'r Pwyllgor fod Cymraeg i Oedolion yn gweithio'n galed i dargedu'r ddemograffeg, yn enwedig ar adeg pan fo Eisteddfod RhCT ar y gweill. Awgrymodd Rheolwr y Gwasanaeth y dylid cynnwys ystadegau fel hyn yn y Cynllun Gweithredu pan fydd ar gael, a thargedu'r gymuned yn unol â hynny.

 

Dilynodd trafodaethau ynghylch dysgu Cymraeg y tu allan i leoliadau addysg a rhoddodd y Fenter Iaith wybod i'r Aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Adroddiad Monitro Blynyddol – y Gymraeg pdf icon PDF 234 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Is-bwyllgor drafod yr Adroddiad Monitro Blynyddol o ran y Gymraeg ar gyfer 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg gopi o Adroddiad Blynyddol Drafft Safonau'r Gymraeg 2022–2023 i'r Is-bwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gwasanaeth am yr adroddiad cynhwysfawr a dywedodd ei fod yn hyderus bod yr Awdurdod Lleol yn cydymffurfio â'r 171 o safonau statudol a gafodd eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac yn ymdrechu i wella.

 

Roedd y Cadeirydd yn falch o nodi'r amrywiaeth o fentrau a gyflawnwyd gan wasanaethau'r Cyngor ac i nodi bod y Cyngor wedi cymryd rhan mewn nifer o achlysuron cenedlaethol. Siaradodd y Cadeirydd am y llu o gyfleoedd dysgu ledled RhCT, gan gyfeirio at weithwyr sy'n wynebu'r cyhoedd mewn canolfannau hamdden fel enghraifft o arfer da.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant o blaid yr adroddiad. Nododd bod adborth gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ystod cyfarfod blynyddol y Cyngor gyda'i Swyddog Gosod Safonau a Chydymffurfiaeth a gafodd ei gynnal yn Chwarter 3, 2022–2023 yn parhau i fod yn gadarnhaol iawn o ran y cynnydd sydd wedi'i weld yn Rhondda Cynon Taf.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ar y cyfle i ddiolch i Diwtor Cymraeg y Cyngor am estyn cynnig gwersi i staff arlwyo.

 

Manteisiodd y Fenter Iaith ar y cyfle i siarad am Brosiect Chwaraeon RhCT, a dywedodd ei fod wedi bod yn braf ac yn gadarnhaol. Canmolodd y Fenter Iaith agwedd y garfan, y gwirfoddolwyr ifainc a'r staff; a dywedodd ei fod yn fodel yr hoffai'r Fenter ei ddatblygu ymhellach.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu cyfraniadau. PENDERFYNODD Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion y Gymraeg wneud y canlynol:

1.              Nodi cynnwys yr adroddiad drafft;

2.              Cymeradwyo'r adroddiad drafft fel bod modd i fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a chymeradwyo'r gwaith o sicrhau bod yr adroddiad terfynol ar gael ym mhob un o swyddfeydd yr Awdurdod sydd ar agor i'r cyhoedd erbyn 30 Mehefin 2023 fan bellaf;

3.              Cymeradwyo'r trefniadau ar gyfer rhoi gwybod i'r cyhoedd bod yr adroddiad blynyddol terfynol wedi cael ei gyhoeddi.

 

 

9.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, manteisiodd y Fenter Iaith ar y cyfle i siarad am achlysur Parti Ponty a fyddai'n cael ei gynnal ar benwythnos 12 Mai 2022.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y byddai Parti Pwll Ponty yn cael ei gynnal ar y dydd Gwener lansio'r achlysur, ac y byddai dros 370 o blant ysgol yn dod i Lido Pontypridd am ddim i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a cherddoriaeth fyw. Byddai'r dydd Sadwrn yn dechrau gyda'r Parkrun ac yn parhau gyda pherfformiadau byw, stondinau bwyd a diod, a llu o weithgareddau addas i bob oed.

 

Estynnodd y Fenter Iaith ei diolch i'r Awdurdod Lleol am ei gefnogaeth gan ddatgan ei bod yn edrych ymlaen at ddatblygu'r achlysur rhagor yn dilyn llwyddiant disgwyliedig Eisteddfod 2024.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Fenter Iaith am rannu manylion am benwythnos a oedd yn argoeli'n dda ac a fyddai'n ymgorffori hwyl ac ystod amrywiol o weithgareddau mewn amgylchedd dysgu Cymreig.