Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion y Gymraeg. Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb i law oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol C. Leyshon ac M. Norris.

 

2.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 144 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod diwethaf a gafodd ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.

 

 

4.

Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2022 i 2027 pdf icon PDF 161 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi copi diwygiedig o Strategaeth Hybu'r Gymraeg i Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion y Gymraeg fel sy'n ofynnol o dan Safon 145 o'r Hysbysiad Cydymffurfio a gafodd ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr y Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymraeg gopi diwygiedig o Strategaeth Hybu'r Gymraeg i Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion y Gymraeg fel sy'n ofynnol o dan Safon 145 o'r Hysbysiad Cydymffurfio a gafodd ei gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Yna cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Ms N. Davies, ymgynghorydd arbenigol o’r gr?p cynllunio iaith Nico Cyf, a gafodd ei gomisiynu i helpu i lunio’r strategaeth bum mlynedd uchelgeisiol. Yn rhan o’r strategaeth, ymgynghorwyd â thrigolion ym mis Hydref 2021. Mae modd darllen canlyniadau'r ymgynghoriad yn Atodiad 2 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr ymgynghorydd fod adolygiad y strategaeth gyntaf yn darparu pedwar prif faes i’w hystyried wrth ddrafftio’r strategaeth newydd, sef:

1.    Ymateb i ddata’r Cyfrifiad ynghylch y Gymraeg yn yr ardal (mae disgwyl i’r data fod ar gael ym mis Rhagfyr 2022 a byddai’n sail i gynllun gweithredu)

2.    Yr amgylchiadau, sy'n newid yn barhaus

3.    Pwysigrwydd partneriaethau

4.    Pwysigrwydd mesur llwyddiant ac effaith y strategaeth ar drigolion

 

Esboniodd yr ymgynghorydd gyd-destun y strategaeth newydd i'r Aelodau, a oedd yn cynnwys ystyried yr amgylchedd gwleidyddol ac effeithiau'r pandemig. Yna, cafodd yr Aelodau wybod am y tair thema genedlaethol allweddol yn y strategaeth newydd, sef:

1.    Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg

2.    Cynyddu defnydd y Gymraeg

3.    Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun

 

Cafodd ei egluro bod yna gyfleoedd yn y strategaeth i gryfhau a hybu'r Gymraeg trwy achlysuron megis yr Eisteddfod, y celfyddydau, chwaraeon a thrwy gynnal arolygon gyda thrigolion.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r ddau swyddog am y cyflwyniad llawn gwybodaeth, gan nodi bod y gwaith dan sylw yn cwmpasu'r Cyngor cyfan. Talodd deyrnged i Garfan Ymgynghori'r Cyngor am sicrhau bod aelodau'r cyhoedd, busnesau, sefydliadau partner a'r trydydd sector yn cymryd rhan.

 

Roedd y Cadeirydd yn falch o nodi bod llawer o arferion da wedi deillio o'r strategaeth gyntaf. Dywedodd y byddai'r strategaeth newydd yn caniatáu i'r awdurdod lleol ddatblygu ac addasu i'r amgylchiadau presennol i sicrhau bod RhCT yn lle sy'n annog pobl i ddysgu Cymraeg a datblygu'r iaith, boed hynny gartref neu drwy ddulliau addysgol neu adloniadol.

 

Roedd y Cadeirydd o'r farn bod yr awdurdod lleol yn uchelgeisiol o ran ei dargedau i'r Gymraeg, gan gyfeirio at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n gobeithio cynyddu nifer y dysgwyr blwyddyn un 10% dros y deng mlynedd nesaf. Soniodd y Cadeirydd hefyd am raglen gyfalaf sylweddol y Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf a'r buddsoddiad mewn nifer o adeiladau newydd ar gyfer ysgolion Cymraeg i apelio at fwy o rieni a dysgwyr.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ganmol yr ysgol newydd o’r radd flaenaf sy’n cael ei hadeiladu yn Rhydyfelin ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Ategodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Cadeirydd yngl?n â'r targedau uchelgeisiol a osodwyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru ond roedd yn obeithiol y byddai'r meysydd sydd wedi'u nodi yn y strategaeth yn helpu'r Cyngor i gyflawni rhywfaint tuag ati.

 

Gan gyfeirio at yr anfanteision economaidd-gymdeithasol a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.