Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Sarah Handy - Council Business Unit, Democratic Services 07385401942
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso Cofnodion: Croesawodd Rheolwr y Gwasanaethau Cymraeg Mr Osian Rowlands i'w gyfarfod cyntaf o'r Gr?p Llywio.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Hooper a Ms Andrea Richards.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd y Cynghorydd Rhys Lewis y datganiad o fuddiant personol canlynol yn ymwneud â'r agenda, ac arhosodd yn y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei thrafod ac yn ystod y bleidlais:
• “Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Abercynon, ysgol y cyfeiriwyd ati yn adroddiad Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg”.
|
|
Derbyn cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2021.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2021 yn rhai cywir.
|
|
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - Drafft PDF 166 KB Rhoi trosolwg i Aelodau'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) Drafft y Cyngor yn dilyn yr ymgynghoriad statudol diweddar â'r cyhoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant drosolwg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft) y Cyngor i Aelodau'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn dilyn ymgynghoriad â'r cyhoedd, gan roi cyfle i Aelodau gyflwyno sylwadau ac adborth mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft).
Cafodd yr Aelodau wybod am darged uchelgeisiol y Cyngor o gynyddu canran y dysgwyr blwyddyn un sy'n mynychu lleoliad addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y targed yma'n cael ei gyflawni drwy weithredu dull cydweithredol a thrwy weithredu'r camau a gynigwyd yn ystod y deng mlynedd nesaf. Cafodd yr Aelodau wybod am ymgynghoriad â'r cyhoedd a gynhaliwyd ag ystod eang o randdeiliaid i geisio'u barn nhw ar gyflawni'r targed uchelgeisiol yma. Mae'r adborth wedi'i gynnwys yn rhan o Adroddiad Ymgynghori Statudol a'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg arfaethedig a fydd yn cael ei drafod gan y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2021.
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddogion sydd wedi cyfrannu at waith llunio Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Drafft y Cyngor, gan nodi bod y cynllun yn uchelgeisiol ond yn gytbwys. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y themâu cyffredin sy'n codi yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yn enwedig o ran gosod targedau.
Roedd yr Aelodau wedi trafod bod angen edrych ar y cynllun strategol 10 mlynedd yn rheolaidd i fesur y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran targedau mewn modd effeithiol.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth mewn perthynas â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (drafft) y Cyngor.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Doedd dim mater arall i'w drafod.
|