Lleoliad: Council Chamber, The Pavilions, Cambrian Park. Clydach Vale, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg.
Cafodd ymddiheuriadau eu derbyn gan y Cynghorydd J. Rosser, y Cynghorydd R. Bevan, C. Hanagan ac E.Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd S. Rees-Owen fuddiant personol yn Eitem 3 - Adolygiad o Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg, 'Rydw i wedi gweithio ar gytundeb llawrydd gyda 'It's My Shout'. Mae gwaith partneriaeth 'It's My Shout' wedi'i amlinellu ar dudalen 54 yr adroddiad.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Gr?p Llywio gymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2017.
|
|
ADOLYGIAD - STRATEGAETH HYBU'R GYMRAEG PDF 142 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes, gan roi cyfle i'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg drafod cynnydd y Cyngor mewn perthynas â Strategaeth Hybu'r Gymraeg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg ar Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a gafodd ei gymeradwyo ar 25 Ionawr, 2017.
Rhoddodd y swyddog gefndir y Strategaeth i'r Gr?p Llywio. Dywedodd fod y Cynllun wedi cael ei ddatblygu o dan Adran 145 o'r Hysbysiad Cydymffurfio a gafodd ei gyhoeddi o dan adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a'i ddatblygu yn ystod 2016 mewn partneriaeth â Sbectrwm, Menter Iaith, Gwasanaethau'r Cyngor ac Aelodau Etholedig. Ymgynghorwyd â'r cyhoedd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2016 er mwyn deall yr hyn a fyddai'n eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg a pha wasanaethau roedden nhw o'r farn yw'r rhai mwyaf pwysig o ran hybu'r iaith.
Atgoffwyd yr Aelodau mai ffocws y Cynllun Gweithredu oedd: · Cynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg 3% · Cynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd cymunedol a chyhoeddus, a · Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel rhan hanfodol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad cymoedd De Cymru.
Siaradodd y swyddog am y camau cadarnhaol a gafodd eu cymryd o fewn RhCT i gyflawni'r camau gweithredu, gan gyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad, lle roedd y cynnydd yn erbyn targedau ar gyfer pob maes gwasanaeth unigol yn fanwl. Roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod y gyfran o staff sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu o 2% yn y flwyddyn gyntaf.
Cafodd yr Aelodau eu hysbysu bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth hyrwyddo Cymraeg 2050 ym mis Gorffennaf 2017. Roedd hyn yn amlinellu targed o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o 78% erbyn 2050. Yn dilyn gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud eisoes gan y Cyngor ac er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, byddai angen i'r Cyngor gynyddu'r ganran o siaradwyr Cymraeg o 1.66% y flwyddyn hyd 2021. Mae amlinelliad o'r ffigyrau yn adran 5.13 o'r adroddiad. Cyfeiriodd y swyddog yr Aelodau at adran 2 yr adroddiad ac argymhellodd fod y Gr?p yn cytuno ar darged uwch ar gyfer tyfu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr, gan ychwanegu ei bod yn bleser gweld faint o waith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod y Cyngor yn cwrdd â'i darged a'i fod mewn sefyllfa dda i gynyddu'r nifer.
Mynegodd y Dirprwy Arweinydd bryderon ynghylch y targed, gan ddweud ei bod hi'n anoddach cyrraedd oedolion gydag ychydig neu ddim profiad o ddefnyddio'r iaith. Serch hynny, ychwanegodd y Dirprwy ei bod hi'n gwbl gefnogol i'r cynnydd arfaethedig. Tynnodd sylw at bwysigrwydd targedu plant ifainc a allai ddatblygu eu medrau dros gyfnod hir. Roedd yr Aelod yn falch o weld bod cymariaethau wedi cael eu gwneud gyda Chynghorau Merthyr Tudful a Chaerdydd ac roedd hi'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol ymestyn ymhellach i Gynghorau fel Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr i wella dealltwriaeth a dulliau o weithio'r cynghorau yma.
Croesawodd Ms E Siôn y cynnydd arfaethedig yn y targed, gan bwysleisio'r angen i roi rhagor o ystyriaeth ... view the full Cofnodion text for item 17. |
|
ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL - Y GYMRAEG PDF 142 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes gan roi cyfle i Aelodau o'r Gr?p Llywio adolygu'r Adroddiad Monitro Blynyddol cyn iddo gael ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Mehefin 2018. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Gymraeg, Adroddiad Cydymffurfio Safonau'r Iaith Gymraeg 2017 – 2018 i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a oedd yn cynnwys yr ail flwyddyn o weithredu'r safonau.
Cafodd Aelodau'r Gr?p llywio eu cyfeirio at Atodiad 1 o'r adroddiad, sy'n amlinellu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud gan y Cyngor i gydymffurfio â nifer fawr o safonau sydd wedi cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rhoddodd y swyddog wybod bod safonau 52, 58 a 64 wedi eu gohirio tan 31 Mawrth, 2018. Felly, bydden nhw'n cael eu cynnwys yn adroddiad cydymffurfiaeth y flwyddyn nesaf.
Esboniodd y swyddog ei fod yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i gyhoeddi adroddiad blynyddol ac i'w ddosbarthu i'r cyngor. Yn ogystal â chynnwys y safonau; roedd yr adroddiad wedi'i wneud yn fwy tryloyw trwy amlinellu: (1) nifer y cwynion a gafodd eu derbyn yn ystod y flwyddyn sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth y Cyngor â'r canlynol: (i) darparu gwasanaethau (ii) llunio polisïau (iii) safonau gweithredu yr oedd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â nhw (2) nifer y staff sy’n meddu ar sgiliau Cymraeg ar ddiwedd y flwyddyn dan sylw (3) nifer yr aelodau o staff a gymerodd ran yn y cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw (4) canran yr aelodau o staff a gymerodd ran mewn cyrsiau hyfforddiant Cymraeg a gafodd eu cynnig yn ystod y flwyddyn dan sylw (5) nifer y swyddi newydd a gwag a gafodd eu hysbysu yn ystod y flwyddyn lle - (i) roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol, (ii) roedd hi'n ofynnol dysgu sgiliau Cymraeg ar ôl dechrau yn y swydd, (iii) roedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol, neu (iv) doedd dim angen sgiliau Cymraeg yn ystod y flwyddyn dan sylw.
Nododd y swyddog fod camgymeraid ar dudalen 84 yn yr adroddiad, gan gadarnhau mai ‘2017-18 (Ebrill 2018)’ dylai llinell gyntaf y testun y tu allan i’r blwch ddarllen.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog a'i dîm am eu gwaith caled cyson yn yr hyn a fu'n her sylweddol, gan esbonio bod adnoddau wedi'u cynyddu i sicrhau y byddai safonau'n parhau i gael eu diwallu. Canmolodd y Cadeirydd y tryloywder o gynnwys y cwynion yn yr adroddiad, gan ddweud, gyda newid, eu bod yn anochel, ond roedd yn falch mai dim ond 12 a gafodd eu derbyn a chafodd y cyfan eu hateb yn ystod y cam anffurfiol.
Holodd y Cynghorydd J. James am y broses gwyno ac os yw'n ffurfiol neu dim ond yn fater o gofnodi datganiadau. Dywedwyd bod y cyfeirnod CSG yn golygu bod y cwynion yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y Comisiynydd. Mae hyn yn golygu eu bod yn cael eu trin yn ffurfiol gan y broses gyfreithiol.
Canmolodd y Dirprwy Arweinydd y cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Diolchodd hefyd i'r staff sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ddwyieithog ac mewn modd proffesiynol.
Gyda'r Gr?p yn ... view the full Cofnodion text for item 18. |
|
MATERION BRYS Trafod unrhyw faterion eraill sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig. Cofnodion: Cododd Ms E Siôn, Menter Iaith, bryderon ynghylch system adrodd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Eglurodd bod cynllun gweithredu adeiladol ar waith cyn i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r ffordd yr adroddwyd ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Serch hynny, gan fod rhai elfennau o'r cynllun wedi cael eu diddymu, mae'n fwy anodd i weithredu cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg.
PENDERFYNWYD: a) Y byddai cyfarfod yn cael ei drefnu rhwng y Cadeirydd, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, y Cyfarwyddwr Addysg a Ms E Siôn, Menter Iaith er mwyn trafod ffordd strategol ymlaen a; b) Bod y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymraeg, yn gwahodd y Cynghorydd Hopkins i gyfarfod nesaf y Gr?p Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a fyddai'n digwydd ar 21 Mehefin, 2018 i drafod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
|