Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 28/01/2021 - Cabinet (eitem 56)

56 Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2020/21 pdf icon PDF 112 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2021/2022 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2021/2022 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at y papur trafod a baratowyd gan Uwch Arweinwyr y Cyngor mewn ymateb i setliad llywodraeth leol 2021/22, a oedd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr mai cyfanswm cyfredol Balansau Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar hyn o bryd yw £8.709 miliwn a dywedodd ei fod yn parhau i fod o'r farn y dylai'r Cyngor ddal o leiaf £10 miliwn fel Balansau'r Gronfa Gyffredinol. Nododd y Cyfarwyddwr fod y cronfeydd wrth gefn wedi'u defnyddio i helpu preswylwyr a busnesau ar ôl Storm Dennis, sef y pwrpas priodol, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf; ac roedd yn fodlon bod cynlluniau wedi'u rhoi ar waith i ailgyflenwi Cronfeydd Wrth Gefn y Gronfa Gyffredinol i'r lefel isafswm dros gyfnod ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig (£0.5 miliwn y flwyddyn am y 3 blynedd nesaf). Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am Gronfa Ariannu Pontio'r Cyngor, sy'n £4.330 miliwn ar hyn o bryd, ac sydd, ers blynyddoedd lawer, wedi'i ddefnyddio'n synhwyrol fel rhan o'r strategaeth gyllideb gytbwys.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr y Cabinet at Adran 3 yr adroddiad a rhoi gwybod i'r Aelodau am bwyntiau allweddol Setliad Llywodraeth Leol 2021/22 Dros Dro, a gyhoeddwyd ar 22 Rhagfyr 2020.

 

O ran gosod lefel Treth y Cyngor, soniodd y Cyfarwyddwr am dargedu cyllid digonol tuag at ddarparu gwasanaethau allweddol ac, ar yr un pryd, sicrhau bod swm Treth y Cyngor a godir y flwyddyn nesaf yn rhesymol ac y gellir ei chyfiawnhau i breswylwyr. Nododd yr Aelodau mai'r cynnig gwreiddiol a gafodd ei fodelu oedd cynyddu Treth y Cyngor yn 2020/21 o 2.85%, ond cynigiwyd y dylid cynyddu Treth y Cyngor o 2.65% yn lle hynny. Byddai hyn yn cynyddu'r bwlch cyllidebol sy'n weddill o £182,000.

 

O ran y Gyllideb Ysgolion, cynigiodd y Cyfarwyddwr gynnydd o £2.2 miliwn o £161.6 miliwn i £163.8 miliwn er mwyn cwmpasu yr holl bwysau chwyddiant a nifer y disgyblion yn llawn, gan gynnwys costau uwch Ardrethi Annomestig. 

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr fanylion y cynigion a canlynol y manylir arnynt yn Adran 9 yr adroddiad, a fyddai'n ceisio amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a blaenoriaethu neu ailddyrannu adnoddau i feysydd blaenoriaeth:

·         Cynllun rhyddhad lleol - Ardrethi Annomestig  

·         Costau parcio

·         Newid yn yr Hinsawdd a Lleihau Carbon

·         Graddedigion    

·         Cefnogi lles.

·         Ffïoedd a chostau

·         Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd - Adnoddau Ychwanegol

·         Cymorth Atal Llifogydd

·         Carfan Torri Gordyfiant

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i roi gwybod i'r Cabinet am adborth o Gam 1 y broses ymgynghori, a oedd yn ceisio barn y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad, y Fforwm Cyllideb Ysgolion, preswylwyr a rhanddeiliaid. I gloi, dywedodd wrth y Cabinet, yn dilyn cymeradwyo'r cynigion ger eu bron, byddai Cam 2 yr ymgynghoriad yn cychwyn ar unwaith. Byddai'r Strategaeth Gyllideb ddrafft yn cael ei chyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 56