Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Materion Ffyniant a Datblygu'r newyddion diweddaraf i'r Cabinet am yr ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd ar Strategaeth Canol Tref Aberdâr fel y cytunwyd gan y Cabinet ar 28 Mehefin 2023, gan dynnu sylw at y newidiadau i'r ddogfen o ganlyniad i'r ymatebion a ddaeth i law. Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet er mwyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu fod y broses a ddilynwyd yn enghraifft gadarnhaol o waith cyn-ymgysylltu a diolchodd i'r swyddogion am eu hymrwymiad. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynigion ac roedd yn falch o nodi bod y rhan fwyaf o ymatebwyr o blaid y cynlluniau ar gyfer canol tref Aberdâr.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd yn cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac yn falch o nodi y byddai’r ddogfen yn cael ei hatgyfnerthu yn dilyn y broses ymgynghori drylwyr.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Trafod canfyddiadau'r ymarfer ymgynghori ffurfiol a gynhaliwyd mewn perthynas â Strategaeth ddrafft Canol Tref Aberdâr a dogfennau ategol;

2.    Adolygu a chymeradwyo'r ystod o ddiwygiadau a wnaed i'r Strategaeth ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad ffurfiol;

3.    Cymeradwyo Strategaeth derfynol Canol Tref Aberdâr a chefnogi datblygiad prosiectau o dan y 'themâu buddsoddi' sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2023 - Cabinet

Effective from: 22/12/2023

Dogfennau Cysylltiedig: