Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad, a roddodd wybod i'r Aelodau am ganlyniad cyhoeddiad yr Hysbysiad Statudol yngl?n â'r cynnig i ad-drefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i bawb a gyflwynodd ymateb i'r ymgynghoriad. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'r cynnig gerbron yr Aelodau yn helpu'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswydd statudol o dan ddeddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabu ei fod yn faes a oedd wedi gweld cynnydd sylweddol o ran galw a chymhlethdod.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet na fyddai'r cynigion yn cyfateb i ostyngiad yn y gwasanaeth ond, yn hytrach, byddai tua £424,000 ychwanegol o fuddsoddiad yn y gwasanaeth. Serch hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cydnabod y byddai'r newidiadau yn effeithio ar nifer fach o ddisgyblion pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo.

 

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ei gefnogaeth i’r cynigion a chroesawodd sefydlu’r ddau ddosbarth cymorth dysgu fesul cam Cynradd Cymraeg yn yr Ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol; a theimlai y byddai hyn yn cynnig rhagor o ddewis i rieni a gwarcheidwaid.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r Adroddiad Gwrthwynebiad yn Atodiad 1, sy'n cynnwys manylion y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, a'r sylwadau a roddwyd mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau.

 

2.    Gweithredu'r cynigion fel y maen nhw wedi'u cyhoeddi yn yr Hysbysiadau Statudol, sef:

 

Cynnig 1: Symud y dosbarth cynnal dysgu Arsylwi ac Asesu yn Ysgol Gynradd Penrhiwceibr i Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon. Daw hyn i rym o 1 Medi 2024.

 

Cynnig 2: Trosglwyddo’r dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 3-6 ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASA) yn Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i greu darpariaeth pob oed yn y Cyfnod Cynradd yn Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn, i ddod i rym o fis Medi 2024.

 

Cynnig 3: Sefydlu un dosbarth cynnal dysgu (Asesu ac Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol statudol sy'n dangos anghenion sylweddol Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon i ddod i rym o fis Ebrill 2024.

 

Cynnig 4: Sefydlu dau ddosbarth cynnal dysgu cyfrwng Cymraeg Cyfnod Cynradd yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn Rhydfelen (YGG Awel Taf) ar gyfer disgyblion ag ADY sylweddol, i ddod i rym o fis Medi 2024.

 

Cynnig 5: Sefydlu un dosbarth cynnal dysgu ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-11 ag ASA yn yr ysgol 3-16 oed newydd ar safle Ysgol Gynradd/Uwchradd y Ddraenen Wen (Ysgol Afon Wen), i ddod i rym o fis Medi 2024.

 

3.     Cyhoeddi'r Hysbysiadau Penderfyniad perthnasol mewn perthynas ag unrhyw gynigion a ddatblygir fel sy'n ofynnol gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2023 - Cabinet

Effective from: 22/12/2023

Dogfennau Cysylltiedig: