Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant adroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2024.

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ar y cyfle i ddiolch i’r rhai a ymatebodd i’r broses ymgynghori, yn enwedig y bobl ifainc. Eglurodd yr Aelod o'r Cabinet bod yr holl gyflwyniadau wedi'u hadolygu'n fanwl gan y Pwyllgor. Aeth ati i gydnabod bod yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn cyfleu angerdd amlwg gan gymuned Rhigos dros ddyfodol ei phobl ifainc. Daeth yr Aelod o'r Cabinet â’i gyflwyniad cychwynnol i ben drwy ddatgan bod y Cabinet yn rhannu’r un angerdd am sicrhau'r canlyniadau addysgol, y rhagolygon a’r cyfleusterau gorau.

Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad wedi dangos y byddai’n heriol cyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru o’r adeilad presennol a gofynnodd i’r Cyfarwyddwr roi rhagor o fanylion am hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Ysgol Gynradd Hirwaun yn un o Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n golygu bod yr amgylchedd dysgu wedi'i ddatblygu'n addas i fodloni gofynion digidol a thechnoleg o ran Dysgu yn yr 21ain Ganrif. Ychwanegwyd bod gan yr ysgol hefyd nodweddion dylunio penodol, gan gynnwys ardaloedd awyr agored ar gyfer dysgu strwythuredig; a'i fod yn cynnwys gofod mawr y mae modd i staff yr ysgol wneud defnydd amrywiol ohono.

Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet am gadarnhad mewn perthynas â statws gwledig yr ysgol. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet fod Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 yn cynnwys rhestr o ysgolion gwledig, gan nodi bod Dosbarthiad Gwledig Trefol y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i ddefnyddio i ddynodi ysgolion gwledig. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr nad oedd unrhyw ysgolion yn RhCT ar y rhestr o ysgolion gwledig gan nad oes unrhyw ysgolion sy'n bodloni'r meini prawf penodol. Eglurodd y Cyfarwyddwr, er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dynodi Hirwaun a Rhigos yn ei dosbarthiad gwledig, nad oedd yr un o'r ddau le'n bodloni'r meini prawf penodedig i'w cynnwys yn y rhestr a grybwyllwyd uchod.

Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod yr ymatebion gan nodi bod Rhigos yn ysgol dda gyda chanlyniadau cadarnhaol ond siaradodd am y mater sylfaenol, sef y gostyngiad yn nifer y disgyblion, a holodd pa mor drylwyr yw’r data. Gan gyfeirio at ymateb i'r ymgynghoriad, holodd yr Arweinydd a fu gostyngiad yn niferoedd disgyblion yr ysgol ers dechrau'r ymgynghoriad, ac a ellid priodoli hynny i ansicrwydd o ran yr ysgol a'r cynnig sydd gerbron yr Aelodau. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod 57 o ddisgyblion yn yr ysgol ar ddechrau'r ymgynghoriad a bod nifer y disgyblion statudol wedi gostwng o 51 i 49 ers hynny. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod y newid oherwydd bod disgyblion wedi symud i'r ysgol Gymraeg ym Mhenderyn. O ran sut y rhagamcanir niferoedd, dywedodd y Cyfarwyddwr eu bod nhw wedi'u cyfrifo yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a'u bod yn seiliedig ar ddata genedigaethau byw ar gyfer yr ardal. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod rhagamcanion amcangyfrifedig yn nodi mai dim ond 37 o ddisgyblion o oedran ysgol statudol fyddai yn Ysgol Gynradd y Rhigos yn 2027-28, er y cydnabuwyd mai amcangyfrif oedd hwn a bod teuluoedd yn symud i mewn ac allan o'r ardal leol.

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Craffu am ei gyfraniad gwerthfawr. Nododd y Dirprwy Arweinydd y pryderon a godwyd o'r ymgynghoriad a dywedodd ei bod hi'n cydymdeimlo â'r rhain, gan gydnabod bod modd i newid beri gofid. Soniodd y Dirprwy Arweinydd am newid tebyg yn ei ward hi, gan gydnabod y pryderon a godwyd gan rieni a chynhalwyr, ond soniodd am waith caled swyddogion a’r corff llywodraethu i sicrhau bod y ddarpariaeth orau ar gael i’r bobl ifainc.

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod y Pwyllgor Craffu wedi holi am ddefnydd yr adeilad yn y dyfodol, a gofynnodd a oedd y sylwadau wedi cael sylw, pe byddai'r cynigion yn cael eu cefnogi. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai angen cynnal ymgynghoriad ar wahân ar gyfer yr ystyriaethau yma, ond y gallai'r Cyngor weithio gyda'r gymuned i nodi unrhyw opsiynau dichonadwy a chynaliadwy ar gyfer grwpiau cymunedol, yn ogystal â chyfleoedd posibl i wneud cais am arian. Hyd yma, dydy'r gymuned ddim wedi cyflwyno unrhyw sylwadau am ddefnyddio'r adeilad yn y dyfodol.

Wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a thrafodaethau'r Pwyllgor Craffu, nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden fod yr effaith ôl-troed carbon posibl a'r defnydd o gludiant o'r cartref i'r ysgol gan rieni wedi'i godi yn fater pryder. Holodd yr Aelod Cabinet a oedd yr ôl troed carbon wedi’i ystyried, yn enwedig o ran y ffaith bod Hirwaun yn Ysgol yr 21ain Ganrif. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod gan ddyluniad a deunyddiau'r adeilad modern yn Ysgol Gynradd Hirwaun sgôr A o ran EPC, a'i fod wedi'i adeiladu i fod yn fwy ynni-effeithlon, a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar gostau rhedeg cyffredinol yr ysgol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod gan Ysgol Gynradd Hirwaun hefyd gyfleusterau gwefru cerbydau trydan ar y safle, a fyddai'n cyfrannu at gyflawni ymrwymiadau hinsawdd y Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr nad oedd Ysgol Gynradd y Rhigos, oherwydd ei hoedran, wedi'i hadeiladu i fod yn ynni-effeithlon.

Holodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau pa gymorth fyddai’n cael ei ddarparu ar gyfer y cyfnod pontio pe bai’r cynigion yn mynd rhagddynt. Aeth y Cyfarwyddwr ati i gydnabod bod y cynigion yn hynod emosiynol o safbwynt plant a phobl ifainc, y staff a'r gymuned. Sicrhaodd y Cyfarwyddwr y Cabinet y byddai sicrhau cyfnod pontio di-dor yn flaenoriaeth pe byddai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, a dywedodd fod gan swyddogion lawer o brofiad o gyflawni hyn yn effeithiol. Eglurodd y byddai dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn cael ei fabwysiadu ar gyfer y disgyblion mwyaf agored i niwed er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Byddai cyfle i bob disgybl gymryd rhan mewn gweithgareddau ac achlysuron pontio, fel prosiectau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, prosiectau chwaraeon a phrosiectau cerddorol. Nod hyn fydd cynnig rhagor o gyfleoedd i ryngweithio, a meithrin cydberthnasau a phartneriaethau. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai lleihau'r risg o bryder i blant sy'n symud ysgol yn fater hollbwysig.

Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i’r Aelodau canlynol, sydd ddim yn Aelodau o'r Pwyllgor, annerch y Cabinet:

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers

·       Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i’r aelod canlynol o'r cyhoedd annerch y Cabinet:

·Ms M Evans – Cadeirydd y Llywodraethwyr

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg i'r Aelodau nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor ac i Gadeirydd y Llywodraethwyr am eu cyflwyniadau yn y cyfarfod. Ar ôl ystyried y sylwadau yn y cyfarfod ac ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod y cynigion a oedd gerbron yr Aelodau er budd gorau'r disgyblion. Gan gyfeirio at y gostyngiad a ragwelir yn niferoedd Ysgol Gynradd y Rhigos, nododd yr Aelod o'r Cabinet ei bryderon am hyfywedd yr ysgol yn y dyfodol, gan gyfeirio at oedran yr adeilad. Roedd yr Aelodau o'r Cabinet o'r farn bod ymateb Estyn i'r ymgynghoriad yn galonogol ac yn cydnabod rhesymeg yr Awdurdod Lleol y tu ôl i'r cynigion; ac roedd hefyd yn falch o'r cyfleusterau modern a'r cyfleoedd y bydd modd i ddisgyblion gael budd ohonyn nhw yn Ysgol Gynradd Hirwaun. O ganlyniad i hyn, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a chyfraniadau, roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu yn cytuno mai bwrw ymlaen â’r cynigion fyddai’r ffordd orau ymlaen.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Nodi’r wybodaeth yn yr Adroddiad Ymgynghori, sef Atodiad A i'r Adroddiad yma i'r Cabinet, sy’n cynnwys crynodeb o’r ohebiaeth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Mae hyn yn cynnwys yr ymateb llawn gan Estyn, adborth a dderbyniwyd o’r arolwg ar-lein, a nodiadau o’r cyfarfodydd a gynhaliwyd;

3.    Nodi adborth y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant o'i gyfarfod ar 14 Rhagfyr 2023, a gafodd ei ddarparu gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu; a

4.    Symud y cynigion ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori trwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol a fydd yn sbarduno dechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu.

 

Noder: Cyn y cyfarfod, dosbarthwyd llythyr i Aelodau'r Cabinet oddi wrth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ar ran y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant a gyfarfu ar 14 Rhagfyr 2023 i rag-graffu ar yr adroddiad yma i'r Cabinet.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2023

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2023 - Cabinet

Mae'r penderfyniad hwn wedi cael ei alw i mewn:

Dogfennau Cysylltiedig: