Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymell Ymlaen i'r Cyngor
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhannodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen y strategaeth gyllideb ddrafft er mwyn i'r Cabinet ei drafod a'i chyflwyno i'r Cyngor er mwyn ei chymeradwyo.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am fynd i'r afael â'r gyllideb mewn modd cynaliadwy, yn enwedig o ran defnyddio cyllid trosiannol. Roedd y Dirprwy Arweinydd wedi cydnabod y pwysau parhaus o ran gofal cymdeithasol ac aeth ati i gynnig bod y Cabinet yn diwygio'r strategaeth arfaethedig er mwyn bwrw ymlaen â'r cynnydd o 3.90% yn Nhreth y Cyngor. Roedd y Dirprwy Arweinydd o'r farn y bydd y cynnydd bach yma'n rhoi Cyngor RhCT ymhlith yr Awdurdodau Lleol â'r cyfraddau Treth isaf yng Nghymru.
Nododd y Dirprwy Arweinydd fod arbedion wedi dod o feysydd caffael, technoleg, swyddfa gefn ac arbedion effeithlonrwydd; a bod y Cyngor wedi osgoi dileu swyddi'n orfodol. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod llai o gyfleoedd nag erioed i sicrhau arbedion mewn meysydd sydd ddim yn rhai rheng flaen.
Yn sgil sylwadau'r Dirprwy Arweinydd, cynigodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol y dylai'r Cabinet gymeradwyo'r cynigion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad gan gynnig argymhelliad ychwanegol, sef diwygio'r cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 i 3.90%, a phenderfynu bod y lefel yma'n cael ei chynnwys yn rhan o Strategaeth Gyllideb y Cabinet ar 8 Mawrth 2023.
PENDERFYNODDy Cabinet:
1. Adolygu a diwygio'r Strategaeth Gyllideb y mae'r Cabinet yn dymuno'i hargymell i'r Cyngor ar 8 Mawrth 2023;
2. Diwygio'r cynnydd arfaethedig o ran Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 i 3.90%, er mwyn lliniaru'r pwysau sydd ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodi bod y lefel yma'n rhan o Strategaeth Gyllideb y Cabinet a fydd yn cael ei chyflwyno i'r Cyngor ar 8 Mawrth 2023; ac
3. Argymell i'r Cyngor ei fod yn awdurdodi'r Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran - Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen i ddiwygio'r gyllideb ganlyniadol er mwyn cynnwys y Setliad Terfynol fel sydd wedi'i nodi yn Adran 4 o'r adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 28/02/2023
Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2023
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/02/2023 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: