Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor.    

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg ddiolch i'r swyddogion o'r garfan Addysg a'r garfan ymgynghori am gynnal yr ymgynghoriad; a'r rheiny oedd wedi ymgysylltu â'r broses ymgynghori.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y sefyllfa ariannol heriol a chynnydd o ran chwyddiant, a oedd wedi ysgogi'r Cyngor i gynnal yr adolygiad a'r ymgynghoriad dilynol.  Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i bwysleisio pa mor heriol yw hi i ddarparu'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd gan ystyried y cynnydd o ran costau a'r gostyngiad yn nifer y defnyddwyr gwasanaeth. 

 

Wrth ymateb i'r ymatebion i'r ymgynghoriad, esboniodd yr Aelod o'r Cabinet fod Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT ymhlith y nifer fach o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaeth prydau yn y gymuned gan nodi bod yr ymatebion yn dangos ei bod hi'n bwysig cynnal y gwasanaeth.  Er hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn mai Opsiwn 3 fyddai'r ffordd orau o sicrhau gwasanaeth cynaliadwy. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y 50c yn cymharu'n ffafriol â darparwyr eraill, yn enwedig o ran darparwyr preifat.

 

Wrth ymateb i'r pryderon a godwyd gan aelodau o'r cyhoedd o ran opsiwn ar gyfer pryd o fwyd poeth neu bryd o fwyd wedi’i rewi, roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi pwysleisio na fyddai'r rheiny sy'n derbyn pryd o fwyd poeth yn gweld unrhyw newid i'r gwasanaeth, ond bydd modd i'r rheiny sy'n derbyn pryd o fwyd wedi'i rewi ddewis pryd maen nhw'n cael y pryd o fwyd. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod Aelodau'n cydnabod pwysigrwydd cynnal gwiriadau lles, sy'n cynrychioli cam cadarnhaol tuag at fynd i'r afael ag unigrwydd.

 

Daeth yr Aelod o'r Cabinet i ben drwy ofyn bod swyddogion yn cynnal adolygiad o'r defnyddwyr gwasanaeth, os yw Aelodau'n penderfynu dewis Opsiwn 3, er mwyn sicrhau bod gyda nhw'r offer sydd ei angen i gynhesu'r prydau yma, pe byddan nhw'n dewis pryd o fwyd wedi'i rewi.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid Opsiwn 3 gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal gwiriadau lles gan ganmol staff am eu gwaith. Nododd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Pwyllgorau Craffu, sydd hefyd yn nodi mai Opsiwn 3 yw'r opsiwn a ffefrir wrth symud ymlaen.

 

Nododd yr Arweinydd nad yw'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn wasanaeth statudol, ond esboniodd bod y weinyddiaeth wedi ceisio diogelu'r gwasanaeth yn ystod cyfnodau cynni. Esboniodd yr Arweinydd fod y bwlch yn y gyllideb llawer yn fwy na blynyddoedd blaenorol, felly mae angen adolygu holl feysydd y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd fod un opsiwn yn cynnwys cael gwared ar y gwasanaeth ond roedd yr Arweinydd o'r farn ei bod hi'n bwysig cadw'r gwasanaeth yn fewnol lle bo modd. Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet o ran cynnal asesiad gwendid i sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr offer cywir ac offer sy'n gweithio, pe byddai'r Cabinet yn pennu ffordd ymlaen; gan gydnabod bod y cynnydd o 50c yn ymddangos fel cynnydd mawr ond nododd fod Awdurdodau Lleol cyfagos ar hyn o bryd yn codi tâl o £6 ar gyfer y gwasanaeth, mae'n debygol y bydd hyn yn cynyddu yn rhan o'r gyllideb.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y sylwadau sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad o ran ansawdd y prydau sy'n cael eu caffael, a gofynnodd i'r Cyfarwyddwr am eglurhad pellach. Pwysleisiwyd y bydd prydau o ansawdd uwch yn cael eu cynnig i ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnig cyfuniad o bryd o fwyd a phwdin. Esboniwyd y byddai swyddogion yn blasu'r prydau ymlaen llaw i sicrhau bod y prydau gorau yn cael eu dewis a'u cynnig i ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.      Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn Adroddiad yr Ymgynghoriad, sy'n cynnwys yr adborth a dderbyniwyd yn rhan o'r arolwg ar-lein, negeseuon e-bost, galwadau ffôn, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2022 a'r cwestiynau cyffredin sydd wedi'u hanfon at ddefnyddwyr gwasanaeth drwy'r post;

2.      Cytuno ar opsiwn a ffefrir wrth symud ymlaen mewn perthynas â'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned:

Opsiwn 3: Ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol cyfredol, a darparu Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned sy'n cludo pryd o fwyd twym/wedi'i rewi i gartrefi defnyddwyr y gwasanaeth. Byddai'r opsiwn yma'n cynyddu'r costau i ddefnyddwyr y gwasanaeth a lleihau'r cymhorthdal fesul pryd; a

3.      Rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, er mwyn cynnal a chwblhau’r camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn rhoi'r opsiwn a ffefrir ar waith.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2023

Dyddiad y penderfyniad: 23/01/2023

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/01/2023 - Cabinet

Effective from: 27/01/2023

Dogfennau Cysylltiedig: