Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo (yn amodol ar gael eu galw i mewn)
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyfeiriodd Pennaeth Materion y Priffyrdd a Pheirianneg yr Aelodau at ei adroddiad sy'n rhoi manylion am y gwelliannau mawr i'r rhwydwaith briffyrdd presennol ar Goridor yr A4119, h.y. deuoli rhan 1.3 cilomedr o Ffordd Cwm Elái o Barc Busnes Llantrisant hyd at Gylchfannau Coed-elái. Cafodd yr Aelodau eu hysbysu am y sefyllfa hyd yn hyn a bod angen bwrw ymlaen â'r gofynion i ganiatáu gwelliannau pellach i'r briffordd. Soniodd Pennaeth Materion y Priffyrdd a Pheirianneg am y cais cynllunio angenrheidiol a bod angen trefnu Gorchmynion Prynu Gorfodol / Gorchmynion Ffyrdd Ymyl os ydyn nhw'n berthnasol. Soniodd hefyd am yr angen i ddirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr er mwyn symud ymlaen â'r cynllun.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad a'r gwelliant i'r seilwaith priffyrdd, gan ddweud bod y gwaith yn ymrwymiad allweddol ym maniffesto'r Blaid Lafur. Siaradodd yr Arweinydd am y cyfleoedd ariannu sydd ar gael i symud y prosiect ymlaen. Cyfeiriodd hefyd at yr angen i edrych ar welliannau pellach i atal tagfeydd traffig ar y seilwaith.
Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai am y diddordeb gan ddatblygwyr ers cyhoeddi'r gwaith ar y seilwaith priffyrdd. Ychwanegodd y gallai gwelliannau o'r fath fod yn gatalydd ar gyfer datblygiadau pellach.
Siaradodd y ddau Aelod lleol, y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol A Davies-Jones a D Grehan ar yr eitem, ac ymatebodd yr Arweinydd.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Priffyrdd a Gofal y Strydoedd i gyflwyno cais cynllunio (os oes angen) ar ran y Cyngor ar gyfer Gwaith Deuoli'r A4119 Ffordd Cwm Elái - Parc Busnes Llantrisant hyd at Gylchfannau Coed-elái.
2. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Priffyrdd a Gofal y Strydoedd i negodi, lle mae modd, i brynu unrhyw dir sy'n eiddo i drydydd parti sydd ei angen ar gyfer y cynllun deuoli arfaethedig. Os nad oes modd prynu tir o'r fath drwy negodi, dirprwyo'r pwerau sy'n cael eu hamlinellu ym mharagraff 2.3 o'r adroddiad sy'n ymwneud â gweithredu Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl.
3. Yn ddarostyngedig i dderbyn caniatâd cynllunio (neu gadarnhad ffurfiol nad oes angen caniatâd cynllunio) a chael digon o gyllid ar gyfer pob cam o'r broses, i roi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr y Priffyrdd a Gofal y Strydoedd i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i ddiogelu bob cam yn y broses o lunio, cadarnhau a gweithredu Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl (os ydyn nhw'n angenrheidiol) mewn perthynas â'r tir sy'n cael ei amlinellu ar y cynllyn yn Atodiad A o'r adroddiad gan gynnwys ond heb gael ei gyfyngu i'r camau gweithdrefnol yma:
· Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl gan Weinidogion Cymru (neu, os yw hynny'n cael ei ganiatáu, gan y Cyngor yn unol ag Adran 14A o Ddeddf Caffael Tir 1981), gan gynnwys paratoi a chyflwyno achos y Cyngor ar gyfer unrhyw Sylwadau Ysgrifenedig, Gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus a all fod ei angen.
· Cyhoeddi a chyflwyno hysbysiadau o gadarnhad o'r Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl ac ar ôl hynny, gweithredu a chyflwyno unrhyw Ddatganiadau Breinio Cyffredinol a/neu Hysbysiadau i Drafod Telerau a Hysbysiadau Mynediad.
· Cael y buddiannau angenrheidiol yn y tir.
· Atgyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud ag iawndal prynu gorfodol i'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau).
Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/06/2018 - Cabinet
Dyddiad y mae'n dechrau os nad yw'n cael ei alw i mewn?: 28/06/2018
Dyddiad olaf i alw i mewn: 27/06/2018
Dogfennau Cysylltiedig: