Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol yr adroddiad i'r Cabinet.  Dywedodd fod yn rhaid i'r gyllideb refeniw ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023 gael ei llunio yn unol â'r “Gyllideb a'r Fframwaith Polisi” (sy'n gynwysedig yng Nghyfansoddiad y Cyngor).   O dan y trefniadau yma, mater i “Brif Swyddogion priodol” y Cyngor yw adrodd i'r Cabinet, ac wedyn dylai'r Cabinet argymell cyllideb i'r Cyngor. 

 

O ystyried y pwysau ariannol parhaus sydd ar y Cyngor, mae'r Cyfarwyddwr yn dal i fod o'r farn y dylai'r Cyngor gadw lleiafswm o £10 miliwn ym Malans y Gronfa Gyffredinol.   Yn rhan o'i strategaeth barhaus, mae'r Cyngor wedi parhau i nodi a chyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol sy'n golygu ein bod ni wedi gallu cynyddu lefel y cyllid pontio sydd ar gael. Y sefyllfa ddiweddaraf yw bod y gronfa yma bellach wedi cynyddu i £4.607 miliwn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Archwilio Cymru yn parhau i bwysleisio bod rhaid i ni barhau i fod yn ddisgybledig ar yr adeg dyngedfennol yma, os ydyn ni eisiau cynnal ein hamcan tymor hir o ran gwella gwasanaethau allweddol yn barhaus, ond mae hyn yn dod yn fwyfwy anodd ei gyflawni yn sgil pwysau ariannol aruthrol o'r fath.

 

Hysbyswyd yr Aelodau mai'r cynnydd cyffredinol yng nghyllid y Grant Cynnal Refeniw (RSG) ac Ardrethi Annomestig (NDR) ar gyfer 2022/23 ledled Cymru gyfan, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, yw 9.4% (+£437M). Mae'r setliad ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn gynnydd o 8.4%. 

 

Er gwaethaf y setliad mwy cadarnhaol gan LlC ar gyfer 2022/23, dywedodd y Cyfarwyddwr fod hyn yn dilyn cyfnod parhaus o ostyngiadau gwirioneddol i'n lefelau cyllido, yn ogystal â gwaith adfer yn dilyn difrod storm a'r pandemig. Mae angen i ni benderfynu ar gyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf yn sgil y sefyllfa yma.

 

Nododd fod cymorth Llywodraeth Cymru i ariannu costau sy’n deillio o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig wedi parhau drwy gydol blwyddyn ariannol 2021/22, a hynny drwy’r Gronfa Galedi. Mae LlC wedi datgan nad ydw'n bwriadu parhau i ddarparu cymorth ychwanegol o’r fath yn y dyfodol ac y bydd yn rhaid i Gynghorau reoli’r goblygiadau yma drwy’r adnoddau ychwanegol a ddarperir yn y setliad. Bydd y Cyngor yn monitro'r goblygiadau ariannol yn agos wrth edrych tua'r dyfodol, gan ddefnyddio unrhyw hyblygrwydd a roddir o fewn ei gronfeydd wrth gefn i drosglwyddo unrhyw gostau ychwanegol parhaol i'r gyllideb sylfaenol yn y tymor canolig.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod costau Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor (CTRS) yn effeithio ar yr incwm net a gynhyrchir drwy unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor.  Bydd cynnydd 1% yn Nhreth y Cyngor yn cynhyrchu incwm ychwanegol i'r Cyngor sydd werth £1.195 miliwn (ar lefel sylfaen drethu 2022/23), ond bydd hefyd yn costio £0.253 miliwn ar gyfer gofynion ychwanegol o ran Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor. Mae'n dilyn, felly, bydd cynnydd o 1% yn cynhyrchu incwm net ychwanegol sydd werth £0.942 miliwn, neu, mewn geiriau eraill, bydd 21% o unrhyw gynnydd yn Nhreth y Cyngor yn cael ei golli er mwyn cefnogi'r costau cynyddol sy'n gysylltiedig â 'Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor' Llywodraeth Cymru. Dywedodd felly y cynigir bod lefel Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf bellach yn cael ei hailfodelu a'i gosod ar gynnydd o 1.00%. Byddai hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau'r Cabinet o ran lefelau Treth y Cyngor ac yng ngoleuni'r setliad mwy ffafriol, byddai wedi'i gydbwyso yn erbyn y pwysau parhaus a nodwyd gan bob un o'n gwasanaethau.

 

Mewn perthynas â'r Gyllideb Ysgolion dywedodd y bwriedir ei chynyddu i dalu, yn llawn, yr holl gostau chwyddiant cyflogau a chostau eraill, gan gynnwys costau Yswiriant Gwladol uwch sy'n gysylltiedig â'r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Yn gyffredinol, bydd y cynnig yn cynyddu'r Gyllideb Ysgolion o £163.8 miliwn i £175.0 miliwn, cynnydd o £11.2 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 6.8%. O'r herwydd, mae ysgolion yn cael eu hariannu'n llawn ar gyfer 2022/23.

 

Yn rhan o strategaeth gyllidebol y flwyddyn gyfredol, cafodd arbedion effeithlonrwydd o £4.6 miliwn eu nodi a'u cyflawni, er y nodwyd y byddai angen ystyried cynaliadwyedd parhaus cyflawni arbedion effeithlonrwydd ar y lefel yma.

Er bod nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn parhau i fod yn anos heb effeithio ar wasanaethau a darpariaeth rheng flaen, rydym wedi nodi £4.9 miliwn y mae modd ei dynnu o'n gofyniad cyllideb sylfaenol ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod y Cabinet bob amser wedi canolbwyntio ar ddiogelu ein gwasanaethau rheng flaen ac wedi achub ar bob cyfle i flaenoriaethu neu ailddyrannu adnoddau i feysydd sy'n cael blaenoriaeth. Mae'r cynigion ar gyfer 2022/23 wedi'u nodi ym mhwynt 9.3 o'r adroddiad i'r Cabinet eu hystyried.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch o glywed am y setliad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru ond dywedodd ei fod yn bryderus na fyddai cronfa caledi.  Aeth ymlaen i ddweud bod hyn yn risg fawr i'r Awdurdod gan fod costau'n dal i gael eu hysgwyddo oherwydd y pandemig, a hynny oherwydd bod staff yn dal i orfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ynysu oherwydd COVID. 

 

Siaradodd yn gadarnhaol am y cynnydd o £11.2 miliwn ar gyfer addysg a dywedodd mai hwn oedd y cynnydd mwyaf ers dechrau'i gyfnod yn Arweinydd yr Awdurdod, a bod hyn yn gydnabyddiaeth o'r heriau y mae ein hysgolion yn eu hwynebu.

 

Roedd hefyd yn falch bod cynnydd ariannol wedi bod ar gyfer meysydd Grantiau Cefnogi Busnes, Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd, gan mai dyma'r meysydd y bu'n rhaid i'r Awdurdod dorri'n ôl arnyn nhw dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn falch bod modd ail-fuddsoddi yn y meysydd yma.  

 

Aeth ymlaen i ddweud y bydd y cynnydd o 1% yn Nhreth y Cyngor yn cael ei ddefnyddio i wrthbwyso pwysau megis y gostyngiad o £2 miliwn mewn Cyllid Cyfalaf. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi ceisio cadw hyn mor isel â phosibl i gefnogi trigolion trwy’r pandemig, ond nododd fod pwysau eraill wedi amharu ar hyn hefyd. 

 

Wedyn, cyfeiriodd yr Arweinydd at gynnydd o £75,000 yn y cyllid ar gyfer Pobl Ifainc sydd wedi Arwahanu, a fydd yn cyfrannu at drydydd cerbyd hwb - sy'n golygu y byddai un ym mhob ardal yn RhCT. Byddai hyn yn cyfrannu at ehangu’r rhaglen YEPS i barhau i weithio gyda phobl ifainc; gwaith sydd wedi cael effaith hynod o gadarnhaol hyd yma. 

 

Gan gydnabod y cynnydd arfaethedig o 2.5% mewn ffioedd a thaliadau, er bod chwyddiant dros 5% ar hyn o bryd a'i fod yn parhau i godi, dywedodd yr Arweinydd ei fod yn credu ei bod yn deg ar drigolion a theuluoedd yn y Fwrdeistref bod yr Awdurdod yn amsugno rhai o'r costau, yn hytrach na'u trosglwyddo i deuluoedd a oedd yn dal i gael trafferth gyda chostau byw cynyddol. 

 

Wrth gloi ei sylwadau roedd yn falch o fod mewn sefyllfa gadarnhaol yn dilyn y setliad, ond dywedodd na ddylid tanamcangyfrif y pwysau aruthrol y mae'r gwasanaethau yn dal i'w hwynebu. Er y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn rhagor o arian, maen nhw'n dal i wynebu pwysau ar raddfa enfawr a dyna pam y mae'n cynnig mynd ymhellach na chynnig y cyflog byw gwirioneddol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod eu safleoedd yn fwy cynaliadwy.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau'r Arweinydd mewn perthynas â'r setliad cadarnhaol, ac mae'n falch bod y Cyngor mewn sefyllfa i barhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau yma.  Roedd hefyd yn bryderus y byddai dileu'r grant caledi yn effeithio ar gyllid y Cyngor yn ogystal â chostau byw cynyddol.  Cafodd yr Aelodau sicrwydd y bydd y gwasanaethau'n rhewi cynifer o Ffioedd a Thaliadau â phosibl, gan gydnabod bod nifer o bobl yn wynebu cyfnod anodd iawn.  

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n galonogol gweld bod nifer gadarnhaol o breswylwyr wedi ymgysylltu â'r Cyngor er gwaethaf y cyfyngiadau COVID, a'i bod hi'n braf gweld bod cefnogaeth gref i’n blaenoriaethau.  Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi'n amlwg i bawb bod y Cyngor yn wynebu heriau aruthrol, ac roedd yn bryderus iawn am y cynnydd mewn costau byw heb unrhyw gyfarwyddyd gan Lywodraeth y DU ar sut mae modd mynd i'r afael â hyn. 

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi bod y gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adeiladu cyllideb refeniw,

y broses ymgynghori ar y gyllideb, ac adrodd i'r Cyngor, wedi'u nodi yn y

“Gyllideb a Fframwaith Polisi” o fewn Cyfansoddiad y Cyngor.

 

2. Nodi ac ystyried canlyniadau proses cam 1 o ymgynghori

ar y gyllideb.

 

3. Adolygu ac ystyried drafft o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23, y manylir arni yn y Papur Trafod sydd ynghlwm 'Atodiad A'.

 

4. Lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 1% ar gyfer 2022/23 y byddai’n dymuno ei gynnwys yn y strategaeth i ffurfio’r sail ar gyfer cynnal

ail gam yr ymgynghoriad.

 

5. Yr amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2022/23, sydd wedi'i nodi yn

Atodiad A2.

 

6. Derbyn adborth o ail gam yr ymgynghoriad cyllideb er mwyn trafod a phenderfynu ar y strategaeth gyllidebol derfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor.

 

7. Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi'r strategaeth ariannol tymor canolig

gyda'r nod o sicrhau effeithlonrwydd parhaus wrth ddarparu gwasanaethau, gwaith

trawsnewid sy wedi'i dargedu a newidiadau eraill sy'n cynnal cywirdeb ariannol y

Cyngor, tra'n dal i anelu at ddiogelu swyddi a

gwasanaethau hanfodol yn y modd gorau posibl.

Dyddiad cyhoeddi: 27/01/2022

Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2022

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/01/2022 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: