Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhannodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu drosolwg o'r adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran cyflawni prosiectau a mentrau adfywio mawr yng Nghanol Tref Pontypridd.
Rhannodd y Cyfarwyddwr yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau mewn perthynas â chynlluniau cyfredol, gan gynnwys gwaith ar hen safleoedd y Neuadd Bingo a Marks & Spencer. Cynghorodd yr Aelodau y bydd adroddiadau pellach ar gyfer y ddau gynllun yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd. Nododd y Cyfarwyddwr y newyddion da diweddar mewn perthynas â'r cais llwyddiannus i Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer adnewyddu Canolfan Gelf y Miwni ac yn cynghori'r Aelodau y bydd y gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar y datblygiad hwn.
Yna, hysbysodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau am waith ar y cynllun creu lleoedd newydd ac mae'n rhagweld y bydd cynllun drafft yn cael ei adrodd i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd i Aelodau ei drafod cyn proses ymgysylltu â'r cyhoedd sylweddol.
Siaradodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yn gadarnhaol am ganlyniadau y Fframwaith Adfywio ar gyfer canol tref Pontypridd 2017 - 2022, gan gyfeirio at gyflawni nifer o brosiectau llwyddiannus. Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet yr awdurdod lleol am ei ymrwymiad i gyflawni'r Fframwaith ac mae'n croesawu datblygiad y cynllun creu lleoedd newydd, i adfywio a buddsoddi ymhellach i Ganol Trefi er budd trigolion y Fwrdeistref Sirol.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Cyfarwyddwr a'r Aelod o'r Cabinet am lwyddiant cynlluniau adfywio Pontypridd a chais llwyddiannus i Gronfa Codi'r Gwastad ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni.
Myfyriodd yr Arweinydd ymhellach ar effaith gadarnhaol buddsoddiad ar gyfer adfywio canol tref Pontypridd gan gyfeirio at sawl cynllun Fframwaith.
(Noder: Roedd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol A Davies-Jones yn bresennol i drafod yr eitem yma fel AS lleol Pontypridd)
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r cynnydd a wnaed o ran y datblygiad a chyflwyno prosiectau a chyfleoedd buddsoddi yng nghanol tref Pontypridd ers mis Medi 2017
2. Nodi'r cynnydd a wnaed yn natblygiad Cynllun Creu Lleoedd Canol Tref Pontypridd sy'n adeiladu ar Fframwaith Adfywio 2017 - 2022. Mae'r cynllun creu lleoedd drafft wedi'i ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ac mae'n darparu gweledigaeth feiddgar ar gyfer Pontypridd sy'n seiliedig ar uchelgais gyffredin ar gyfer y dref a'i rôl yn rhanbarth y Brifddinas.
3. Trafod adroddiad pellach yn y flwyddyn newydd i ofyn am gymeradwyaeth i'r cynllun creu lleoedd i gynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu â'r cyhoedd, ochr yn ochr â diweddariadau pellach ar gynnydd ailddatblygiad Canolfan Gelf y Miwni, hen safle Neuadd Bingo a hen siop M&S ac adeiladau cysylltiedig.
Dyddiad cyhoeddi: 15/11/2021
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2021 - Cabinet
Effective from: 19/11/2021
Dogfennau Cysylltiedig: