Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu adroddiad oedd yn diweddaru'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu dull y Cyngor mewn perthynas â chartrefi gwag, a nodwyd yn y Strategaeth Cartrefi Gwag ar gyfer y cyfnod 2018-2021.

 

Cafodd yr Aelodau gwybod bod cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â gweithredu'r strategaeth, er gwaethaf pandemig covid, a chlywodd yr Aelodau drosolwg o'r gwaith sydd wedi'i gyflawni.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod dull y Cyngor mewn perthynas ag adfer eiddo gwag yn cael effaith gadarnhaol ar nifer yr eiddo gwag ledled y fwrdeistref. Mae 1,144 o ymyraethau wedi'u cyflawni yn ystod y 2 flynedd diwethaf, sy'n uwch na'r targed dros dro o 400 y flwyddyn. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 501 eiddo wedi'u hadfer yn rhan o'r strategaeth.

 

Daeth y Cyfarwyddwr i ben drwy roi gwybod bod Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT yn dod i ben, byddai ymestyn cyfnod y strategaeth gyfredol yn caniatáu peth amser i ddatblygu strategaeth newydd er mwyn ei gweithredu ym mis Ebrill 2022.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yn gadarnhaol am y deilliannau a nodwyd yn rhan o'r strategaeth a'r nifer fawr o eiddo gwag sydd wedi'u hadfer.

 

Roedd yr Arweinydd wedi diolch i'r Swyddogion sydd ynghlwm â'r gwaith o weithredu'r strategaeth am eu gwaith caled, gan siarad am bwysigrwydd y cyllid grant sydd wedi'i sicrhau er mwyn helpu gyda'r broses o ddatblygu prosiectau a mentrau sy'n rhan o'r strategaeth.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad, a'r cynnydd sydd wedi'i wneud wrth adfer eiddo gwag yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag RhCT.

2.    Cytuno bod Strategaeth Cartrefi Gwag gyfredol RhCT yn cael ei hymestyn i fis Mawrth 2022, gan ddatblygu strategaeth newydd er mwyn ei gweithredu ym mis Ebrill 2022.

 

(D.S. Ar ddiwedd yr eitem yma, gadawodd yr Arweinydd y cyfarfod.)

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2021 - Cabinet

Effective from: 22/10/2021

Dogfennau Cysylltiedig: