Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: I'w Benderfynu
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar Brosiect Tirwedd Fyw, gan geisio cymeradwyaeth i ddatblygu'r Prosiect ymhellach er mwyn mynd i'r afael ag argyfyngau newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Cafodd yr Aelodau gwybod bod y Prosiect wedi nodi rhaglenni gwaith allweddol mewn 29 lleoliad posibl, a fyddai o fudd sylweddol i'r Cyngor wrth hyrwyddo ardaloedd bioamrywiaeth Rhondda Cynon Taf. Gofynnodd y Cyfarwyddwr bod y Cabinet yn trafod bwrw ymlaen â chyflwyno ceisiadau cyllid allanol sy'n ymwneud â'r cynllun Peilot a chyflawni cam Peilot y prosiect, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol wedi diolch i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd am eu trafodaethau yngl?n â'r prosiect yma yn ystod y misoedd diwethaf, gan ddweud bod yr Awdurdod yn gyfoethog o ran y cyfleoedd bioamrywiaeth sydd ganddo, fel sydd wedi'i nodi yn y 29 safle allweddol sydd yn yr adroddiad. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y datblygiadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r prosiect, gan gyfeirio at y digwyddiadau tywydd garw a welwyd ledled y Fwrdeistref Sirol a sut y byddai rhai o'r cynigion yn helpu gyda threfniadau rheoli d?r ledled y dirwedd.
Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr agenda newid yn yr hinsawdd sy'n cael ei flaenoriaethu gan y Cyngor a chyfeiriodd at bwysigrwydd ymgysylltu â'r sector gwirfoddol i fwrw ymlaen â'r agenda hwn.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Yn dilyn trafodaeth yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Phrosiect Tirwedd Fyw a'r gwaith sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad er mwyn gwella cefn gwlad a chynefinoedd naturiol Rhondda Cynon Taf, penderfynodd y Cabinet gymeradwyo'r rhestr a'r 29 safle a nodwyd gan y Prosiect Tirwedd Fyw a'r trefniadau cyllid cysylltiedig.
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/10/2021 - Cabinet
Effective from: 22/10/2021
Dogfennau Cysylltiedig: