Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Materion Cyllid a Digidol at ei adroddiad sy'n nodi'r sefyllfa o ran cyfle'r Cabinet i gynnig bod y Cyngor yn buddsoddi ymhellach yn ei feysydd o flaenoriaeth, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, "Gwneud Gwahaniaeth" 2020-2024. 

 

Soniodd y Cyfarwyddwr am bwysigrwydd buddsoddi mewn meysydd sy'n cefnogi blaenoriaeth allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, sydd wedi'i gydnabod eisoes gan y Cyngor, a'r adnoddau ychwanegol o £123 miliwn, ar ben dyraniadau arferol y Rhaglen Gyfalaf sydd wedi'i fuddsoddi ers Hydref 2015.  Esboniodd fod adroddiad arfaethedig y Cyngor yn cynnig parhau i fuddsoddi £6.5 miliwn arall mewn blaenoriaethau allweddol drwy ddefnyddio adnoddau presennol sydd eisoes wedi'u neilltuo ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith.

 

Siaradodd yr Arweinydd am y buddsoddiad pwysig yn y seilwaith a'r priffyrdd a siaradodd am y rhaglen ariannu a oedd wedi parhau ochr yn ochr â'r buddsoddiad yr oedd ei angen ar gyfer atgyweiriadau yn dilyn Storm Dennis. Soniodd yr Arweinydd am yr anghyfleustra a brofir weithiau wrth wneud atgyweiriadau a gwaith yn sgil buddsoddiad o'r fath ond soniodd hefyd am y buddion tymor hir.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y £6.5 miliwn ychwanegol a soniodd am y buddsoddiadau a oedd eisoes i'w gweld ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

1.    Cynnig y trefniadau buddsoddi ac ariannu ychwanegol fel y'u nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad cafodd ei gyflwyno i'r Cyngor yn ei gyfarfod ar 29 Medi 2021

 

Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021

Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: