Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Priffyrdd a Gwasanaethau Rheng Flaen drosolwg o'i adroddiad a rhannodd fanylion am yr adolygiad yn trafod rheoleiddio, ymwybyddiaeth a gorfodi deddfwriaeth llifogydd a d?r i'w gynnal gan y Cyngor yn dilyn Storm Dennis.
Manteisiodd y Cyfarwyddwr ar y cyfle i gynghori Aelodau ymhellach mewn perthynas â sefydlu Carfan Ymwybyddiaeth a Gorfodi Llifogydd arbennig a chyflwyno mwy o reoleiddio trwy ddeddfu Is-ddeddfau Draenio Tir o dan A66 Deddf Draenio Tir 1991.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod Strategaeth Genedlaethol Risg Llifogydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020 yn sbarduno'r gofyniad o dan Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 i'r Cyngor fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i adolygu'r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol. Amlygwyd felly y cyfle i osod strategaeth gynaliadwy i reoli risg llifogydd, meithrin gwytnwch a hwyluso gwaith addasu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Byddai mabwysiadu'r is-ddeddfau a chreu'r garfan orfodi a'r swyddog cymorth ac ymwybyddiaeth llifogydd hefyd yn helpu i amddiffyn yr asedau sydd gan y Cyngor, yn atal risgiau newydd rhag cael eu creu, yn adeiladu gwytnwch o fewn cymunedau ac yn y pen draw yn helpu cymunedau i addasu i'r sgil effaith penodol yma o newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal, bydd y datblygiadau yma'n darparu gwybodaeth werthfawr i fwydo'r Adolygiad i Strategaeth Risg Llifogydd Lleol i ddarparu strategaeth gadarn i reoli'r risg gynyddol o lifogydd yn sgil newid yn yr hinsawdd.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 a'r argymhellion a ddaeth yn ei sgil, gan gyfeirio at yr angen am swyddog gorfodi a chyfeirio'n benodol at gyrsiau d?r ar dir preifat a'r angen i godi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau a gwneud cymunedau'n fwy gwydn i atal llifogydd.
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar lifogydd blaenorol yn ei ward a chyfeiriodd at y gefnogaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Newydd, a ddarparodd lefel uchel o ddiogelwch i'w thrigolion a'r ddyletswydd a osodwyd ar landlordiaid i'w tenantiaid.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth y syniad o sefydlu carfan gorfodi a'r angen i'r Cyngor weithio gyda chymunedau i sicrhau bod cymunedau'n gweithio'n rhagweithiol yn hytrach nag yn ymatebol i unrhyw lifogydd.
Gyda chytundeb yr Arweinydd, anerchodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman y Pwyllgor ar yr adeg yma yn y cyfarfod. Ymatebodd yr Arweinydd iddi gan gynghori, gyda chytundeb yr Aelodau, y gellid darparu sesiwn wybodaeth i Aelodau mewn perthynas â'r is-ddeddfau cyn cyflwyno adroddiad i'r Cyngor ar ddiwedd y mis.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Creu carfan gorfodi a'r swydd fel y nodir yn Adran 4.3 ac Adran 7 yr adroddiad.
2. Creu swydd Swyddog Cymorth ac Ymwybyddiaeth Llifogydd fel y nodir yn Adran 4.4 yr adroddiad
3. Bod swyddogion yn cychwyn y broses ar gyfer mabwysiadu'r is-ddeddfau draenio ac yn cyfeirio'r mater at y Cyngor i'w drafod, gyda sesiwn wybodaeth yn cael ei darparu i'r holl Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor.
4. Nodi'r cynnig i adolygu goblygiadau ymarferol y gwaith gweithredu cyn pen 12 mis ar ôl sefydlu'r is-ddeddfau a'r garfan gorfodi newydd i ystyried a yw'r adnoddau'n cyfateb i'r llwyth gwaith.
5. Bod y goblygiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yn dod o adnoddau sy'n bodoli'n barod. Diweddaru'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022/23 gyda'r costau refeniw parhaus ychwanegol
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2021
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2021 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: