Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Prif Weithredwr fanylion ei adroddiad eithriedig i'r Cabinet, sy'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gweithredu cynigion pellach i ddiwygiadau i strwythur swydd Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor. Clywodd yr Aelodau y byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau). Soniodd y Prif Weithredwr am 3 gwelliant bach i'r adroddiad a adlewyrchir yn y penderfyniad isod.
PENDERFYNWYD:
1. Bod y strwythurau cyfarwyddiaeth diwygiedig a ddangosir yn Atodiadau 2(i), 2(ii) a 2(iii) yn cael eu gweithredu o 1 Awst 2021 a'r strwythur yn 2(iv) yn cael ei weithredu o 1 Hydref 2021. Cytunwyd i gymeradwyo newid strwythurol pellach fel y dangosir yn Atodiad 3 (i), a fydd mewn grym o 1 Mai 2022 (yn ddarostyngedig i'r broses ymgynghori staff angenrheidiol).
2. Nodi y byddai gweithredu'r strwythurau diwygiedig yn rhoi gostyngiad amcangyfrifedig o £250,000 mewn costau rheoli blynyddol ar lefel Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig (sy'n cynnwys argostau).
3. Nodi, yn rhan o'r rhaglen arbedion effeithlonrwydd barhaus, ac wedyn yn ddarostyngedig i unrhyw gymeradwyaeth ofynnol gan Bwyllgor Penodi'r Cyngor, y byddai'n arwain at ddileu'r swyddi canlynol o strwythur y Cyngor, yn unol â'r dyddiadau diwygio strwythurol uchod ym mhenderfyniad 1:
i) Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);
ii) Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau'r Gymuned (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
iii) Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2)
iv) Pennaeth Materion Hamdden, Parciau a Chefn Gwlad (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
v) Pennaeth Gofal i Gwsmeriaid * (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1)
* Sylwch fod y swydd hon yn destun cais VER y cytunwyd arno ar 30 Ebrill 2020. Nid yw'r swydd yma yn gysylltiedig â'r gostyngiad amcangyfrifedig mewn costau rheoli fel y manylir uchod ond nawr mae angen ei thynnu'n ffurfiol o strwythur y Cyngor.
4. Nodi bod y Cabinet, yn sgîl y penderfyniad yn 1. uchod, wedi awdurdodi:
a) diwygio swydd Cyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 2) i Gyfarwyddwr - Eiddo'r Cyngor (Cyfarwyddwr Lefel 1);
b) diwygio swydd Pennaeth Cyfrifeg Corfforaethol a Rheolaeth (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyfrifeg Gorfforaethol a Rheolaeth (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
c) diwygio swydd Pennaeth Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Addysg ac Adrodd ar Faterion Ariannol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
d) diwygio swydd Pennaeth Cyllid y Gymuned a Gwasanaethau i Blant (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid y Gymuned a Gwasanaethau i Blant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
e) diwygio swydd Pennaeth Datblygu'r Gyfundrefn (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Datblygu'r Gyfundrefn (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
f) diwygio swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i swydd Pennaeth Cysylltiadau â Gweithwyr (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
g) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Pensiynau, Caffael a Thrafodion (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);
h) diwygio swydd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Refeniw a Budd-daliadau (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
i) diwygio swydd Pennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth y Gwasanaethau Llety (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
j) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Lefel 2) i Gyfarwyddwr – Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant (Cyfarwyddwr – Lefel 1)
k) diwygio swydd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i swydd Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 1);
l) diwygio swydd Pennaeth Materion Trawsnewid ac Addysg (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 2) i Bennaeth Materion Trawsnewid, Derbyn a Llywodraethu (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1);
m) diwygio swydd Pennaeth Cyflawniad Uwchradd (0.5) (gradd soulbury) i swydd Pennaeth Cyflawniad a Lles Uwchradd (gradd soulbury);
n) diwygio swydd Pennaeth Cymorth Cynghori Ysgolion (gradd soulbury) i Bennaeth Cyflawniad Cynradd (gradd soulbury);
o) diwygio swydd Pennaeth Materion Buddsoddi Strategol (Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1) i Gyfarwyddwr Gwasanaeth - Trafnidiaeth, Gorfodi a Materion Buddsoddi Strategol (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Lefel 2);
p) argymell i'r Cyngor ddiwygio swydd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran) i swydd Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant (gradd Cyfarwyddwr Cyfadran);
q) creu swydd Pennaeth Materion Technoleg (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
r) creu swydd Pennaeth Materion Trawsnewid Digidol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
s) creu swydd Pennaeth Gweithrediadau TGCh (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
t) creu swydd Pennaeth Data, Rheoli Gwybodaeth a Systemau (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
u) creu swydd Pennaeth Anableddau Dysgu ac Iechyd Meddwl (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
v) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau'r Gymuned a'r Gymraeg (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
w) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau'r Celfyddydau, Diwylliant a'r Llyfrgelloedd (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
x) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau Hamdden, Chwaraeon a Pharciau (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
y) creu swydd Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd a Gwasanaethau Rheoliadol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
z) creu swydd Pennaeth Gwasanaethau Diogelwch yn y Gymuned a Gwasanaethau Tai (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
aa) creu swydd Pennaeth Materion Cynllunio (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 1);
bb) creu swydd Pennaeth Materion Datblygu a Buddsoddi Sylweddol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
cc) creu swydd Pennaeth Materion Strategaeth a Buddsoddiadau Tai (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
dd) creu swydd Pennaeth Rheoli Asedau Seilwaith (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
ee) creu swydd Pennaeth Materion Rheoli Risg Llifogydd a Phrosiectau Strategol (Pennaeth Gwasanaeth - Lefel 2);
ff) diwygio swydd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Lefel 1) i swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng Flaen (Cyfarwyddwr Lefel 1)
5 O ganlyniad i'r cynigion a amlinellir ym mhwynt 1 uchod, trosglwyddo rhai swyddogaethau a amlinellir yn yr adroddiad o'r Gwasanaethau Rheng Flaen i Wasanaeth Eiddo'r Cyngor;
6 O ganlyniad i'r penderfyniad a wnaed ym mhwynt 1 uchod, i drosglwyddo rhai swyddogaethau a amlinellir yn yr adroddiad o'r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned i Wasanaethau'r Rheng Flaen;
7 Awdurdodi'r Prif Weithredwr, ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, i gychwyn y broses ymgynghori â staff yn unol â Pholisi Rheoli Newid cytunedig y Cyngor ac, yn amodol ar bwynt 8 isod, i roi'r cynigion ar waith;
8 Yn amodol ar gwblhau'r broses ymgynghori y soniwyd amdani uchod (penderfyniad 7), yna lle bo angen, cyfeirio'r telerau a'r amodau a chydnabyddiaeth o'r swyddi sydd wedi'u cynnwys yn strwythur arfaethedig diwygiedig y gyfarwyddiaeth, sydd wedi'i nodi yn Atodiad 2(i) i 2(iv) yr adroddiad at y Pwyllgor Penodi a/neu'r Cyngor llawn fel y bo'n briodol;
9 Nodi y bydd gofyn am newidiadau ôl-ddilynol i Gyfansoddiad y Cyngor o ran dileu a chreu swyddi Prif Swyddogion;
10 Nodi diwygiad i Atodiad 2 (iv) mewn perthynas â dwy swydd Pennaeth Gwasanaeth a ddylai ddod o dan y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Rheng Flaen ac nid y Gyfarwyddiaeth Ffyniant a Datblygu sef y Pennaeth Rheoli Materion Risg Llifogydd a Phrosiectau Strategol (yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Trafnidiaeth, Gorfodi a Buddsoddiadau Strategol) a Phennaeth Rheoli Seilwaith (yn adrodd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Priffyrdd a Pheirianneg); a
11 Nodi gwelliant i Atodiad 2 (iii) (Cyfarwyddiaeth Eiddo'r Cyngor) sef bod swydd Pennaeth Gwasanaethau Eiddo Gweithredol yn cael ei ailenwi'n Bennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon
(D.S: Fel y cyfeiriwyd ato yng nghofnod Rhif 14, gadawodd y Prif Swyddogion a oedd yn bresennol y cyfarfod pan drafodwyd y mater ac yn ystod y cyfnod pleidleisio, ac eithrio'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol a arhosodd yn y cyfarfod i gyflwyno'r adroddiad i'r Aelodau.)
Dyddiad cyhoeddi: 24/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 24/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/06/2021 - Cabinet
Effective from: 30/06/2021
Dogfennau Cysylltiedig: