Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu grynodeb i'r Cabinet o Gronfa Lefelu Llywodraeth y DU a'r cyfleoedd a'r amserlenni prosiect posibl ar gyfer datblygu, arfarnu a chyflwyno ceisiadau.
Clywodd yr Aelodau am y dull 3 cham tuag at asesu a gwneud penderfyniadau a chyfeiriwyd yr Aelodau at adran 5 o'r adroddiad a oedd yn amlinellu'r prosiectau arfaethedig.
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Chynllunio sylwadau am y swm sylweddol o arian sydd ynghlwm â'r pedwar cynllun, a chydnabod y cynlluniau ledled y Fwrdeistref Sirol. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am yr amserlenni tynn mewn perthynas â'r gronfa a'r angen i wariant gael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol. Gwnaeth sylwadau hefyd am yr arfer gwaith da o ddangos llwybrau ar gyfer cynlluniau datblygu yn y dyfodol a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am y gwaith dan sylw.
Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am y cyfleoedd i'r Fwrdeistref Sirol pe bai'n llwyddo i sicrhau'r cyllid a sut roedd yr Awdurdod yn haeddu cael ei gydnabod am y cyllid oherwydd y lefel uchel o amddifadedd yn y Fwrdeistref Sirol, effaith y llifogydd a'r effaith mewn perthynas â Covid-19.
PENDERFYNWYD:
1. Cytuno i ddatblygu pecyn cais prosiect i'w gyflwyno fel y nodir yn adran 5 yr adroddiad.
(DS. Oherwydd yr amserlenni mewn perthynas â'r cyllid, dywedwyd y byddai'r penderfyniad yn cael ei ddwyn ymlaen fel un sydd wedi'i eithrio rhag gweithdrefnau galw i mewn, yn amodol ar gytundeb y Llywydd.)
Dyddiad cyhoeddi: 17/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/06/2021 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: