Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu raglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 i'r Aelodau, a oedd yn rhestru'r materion y mae angen i'r Cabinet eu hystyried.
Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Atodiad 1 yr adroddiad a dywedwyd wrthyn nhw bod y rhaglen yn ddogfen fyw fel bydd modd ychwanegu neu ddileu adroddiadau yn ystod y flwyddyn. Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau, mewn ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y cytunwyd yn y CCB diwethaf y byddai manylion pellach yn cael eu darparu yn Rhaglen Waith y Cabinet yn y dyfodol. Bwriad hyn yw caniatáu digon o gyfle i ymgynghori a rhag-graffu ac, o'r herwydd, mae cyfansoddiad y Cyngor wedi'i ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau hynny.
Hysbysodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau y byddai cynnwys y Rhaglen Waith yn cefnogi trafodaethau rhwng Cadeiryddion Craffu ac Aelodau'r Cabinet mewn sesiynau ymgysylltu yn y dyfodol ac, o ganlyniad, yn helpu i lunio Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu yn y dyfodol.
Nododd y Dirprwy Arweinydd gynnwys y rhaglen waith ddrafft a nododd fod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn mynnu bod yn rhaid i wybodaeth am benderfyniadau gweithredol sydd ar ddod fod ar gael i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, er mwyn sicrhau bod y Pwyllgorau yn meddu ar yr holl wybodaeth berthnasol i ymgymryd â nhw a chynllunio eu gwaith yn well. Cydnabu'r Dirprwy Arweinydd y byddai datblygu Rhaglen Waith gywir a chadarn ar gyfer y Cabinet yn cryfhau trefniadau Llywodraethu cadarn yr Awdurdod Lleol ymhellach.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22 (gan addasu'n briodol ar ôl yr angen) a chael yr wybodaeth ddiweddaraf bob 3 mis.
Dyddiad cyhoeddi: 17/06/2021
Dyddiad y penderfyniad: 17/06/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/06/2021 - Cabinet
Effective from: 23/06/2021
Dogfennau Cysylltiedig: