Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad ar lafar mewn perthynas â Diogelwch Menywod mewn Mannau Cyhoeddus yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard yn Llundain ar 3 Mawrth 2021.
Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr bod cadw trigolion RhCT yn ddiogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor a'i bartneriaid. Aeth ymlaen i amlinellu rhai camau gweithredu sydd eisoes ar waith i sicrhau bod trigolion RhCT yn ddiogel.
Cafodd yr Aelodau wybod bod camerâu teledu cylch cyfyng digidol gwerth £400,000 wedi'u cael eu gosod yn rhan o fuddsoddiad yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cafodd manylion eu rhannu ynghylch y Cynllun Pub Watch, Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus a'r Strategaeth Gynhwysfawr sydd ar waith yn RhCT er mwyn mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod y Cyngor, yr Heddlu a'r Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn cyflawni adolygiad i sicrhau bod trefniadau ar y cyd cryfach ar waith i gadw menywod a merched yn ddiogel yn ein cymunedau ac yn benodol gyda'r nos wrth i'r economi gyda'r nos ailagor, yn dilyn cais gan y Cabinet.
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at waith cadarnhaol sydd eisoes yn cael ei wneud gan y Cyngor a'i bartneriaid allweddol mewn perthynas â sicrhau diogelwch holl drigolion RhCT a'r angen i weithio gydag adeiladau a busnesau allweddol i sicrhau bod staff wedi'u hyfforddi ac yn gallu cydnabod os yw menyw yn teimlo'n anniogel.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at bwysigrwydd marsialiaid tacsis a phwysigrwydd tacsis cofrestredig a siaradodd hefyd am y buddsoddiad pwysig ym maes Teledu Cylch Cyfyng fyddai'n tawelu meddwl trigolion. Croesawodd yr Arweinydd yr adolygiad ac unrhyw gyfleoedd a allai ddeillio o'r adolygiad.
Nodwch: Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem yma.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r diweddariad ar lafar a ddarparwyd
2. Derbyn adroddiad pellach yn y dyfodol ynghylch yr adolygiad sy'n cael ei gyflawni gyda phartneriaid mewn perthynas â diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/03/2021 - Cabinet
Effective from: 01/04/2021