Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad i Aelodau mewn perthynas â'r cynnig i ailddatblygu Cartref Gofal Dan y Mynydd, Porth, er mwyn darparu tai â gofal ychwanegol yn rhan o raglen datblygu tai â gofal ychwanegol y Cyngor sydd eisoes wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet. Yn yr adroddiad eithriedig, ceisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran gymeradwyaeth gan y Cabinet ar gyfer y gyllideb a'r cyllid cyfalaf sydd ei angen i ddarparu'r cynllun ac adleoli Canolfan Oriau Dydd Arbenigol i Ganolfan Oriau Dydd Brynnar Jones dros dro.
Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple ar y mater hefyd.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo'r pecyn cyllido fel sy'n cael ei amlinellu yn Adran 5 o'r adroddiad er mwyn ail-ddatblygu safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan y Mynydd ar gyfer darparu cynllun tai â gofal ychwanegol.
2. Cynnwys Cynllun Tai â Gofal Ychwanegol o fewn y Rhaglen Gyfalaf Dan y Mynydd rhan o Raglen Gyfalaf 3 Blynedd (Rhaglen Foderneiddio (Oedolion)).
3. Adleoli'r Ganolfan Oriau Dydd Arbenigol i Bobl ag Awtistiaeth yng Nghartref Gofal Dan y Mynydd, Porth, i gyfleuster Canolfan Oriau Dydd Brynnar Jones, Gelli, a bod Gweithwyr Cymdeithasol a staff y Ganolfan Oriau Dydd yn parhau i ymgysylltu ag unigolion sy'n defnyddio'r Gwasanaeth Oriau Dydd a'u teuluoedd/cynhalwyr er mwyn asesu'u hanghenion a'u cefnogi nhw yn ystod y cynllun adleoli arfaethedig, ac ar ôl hynny, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 5.7 o'r adroddiad.
4. Derbyn adroddiadau diweddaru pellach ar gynnydd cyflwyno Cynllun Tai Gofal Ychwanegol y Cyngor a'r cynllun datblygu, ac ar gostau'r cynlluniau unigol a'r gofynion ariannu i'w hystyried a'u cymeradwyo.
Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/03/2021 - Cabinet
Effective from: 01/04/2021
Dogfennau Cysylltiedig: