Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Rheng Flaen raglen gyfalaf manwl ar gyfer Aelodau'r Cabinet o ran y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol ar gyfer 2020/21.
Rhoddodd fanylion i'r Aelodau yn erbyn dyraniadau cyfalaf penodol 2020/21 o £12.949 miliwn ar gyfer Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd a £12.076 miliwn ar gyfer Prosiectau Strategol. Ychwanegodd fod y dyraniadau yma'n cael eu gwneud er mwyn diogelu uniondeb hirdymor y rhwydwaith priffyrdd a chludiant a'i wella, er mwyn delio â gofynion teithio cynyddol. Rhoddwyd sylw penodol i hyrwyddo dulliau teithio mwy diogel a chynaliadwy a galluogi gweithgaredd economaidd.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at adran 4.1.4 o'i adroddiad sy'n rhoi manylion y rhaglen a'r dyraniad cyllid, gan gadarnhau bod nifer y grantiau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth Cymru.
Croesawodd yr Arweinydd y buddsoddiad a dywedodd wrth yr Aelodau fod y rhaglen yn rhaglen waith dreigl. Croesawodd yr Arweinydd y gwelliannau i Isadeiledd y Priffyrdd wedi'u seilio ar y data yn yr adroddiad. Siaradodd am y flwyddyn heb ei thebyg ac effaith Storm Dennis ar y Fwrdeistref Sirol a'r effaith ar y priffyrdd ac isadeiledd y Priffyrdd.
Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Caple a P Jarman ar yr eitem yma.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad.
2. Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a chytuno i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gyfadran, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu ohirio rhaglenni/cynlluniau ac adleoli cyllid i sicrhau’r ddarpariaeth orau.
Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/03/2021 - Cabinet
Effective from: 01/04/2021
Dogfennau Cysylltiedig: