Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhannodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y newyddion diweddaraf yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â threfniadau diogelu corfforaethol y Cyngor yn ystod y 12 mis diwethaf. Cyfeiriwyd at Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru a gafodd ei lunio yn 2019. Roedd yr Adolygiad yma wedi canfod bod y Cyngor wedi bodloni'r rhan fwyaf o argymhellion a chynigion er mwyn gwella, neu wedi'u bodloni'n rhannol. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyfadran bod rhagor o gynigion er mwyn gwella wedi'u cyflwyno er mwyn cryfhau rhai o drefniadau Diogelu Corfforaethol y Cyngor. Aeth ymlaen i roi manylion y chwe chynnig.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran bod y Cyngor yn parhau i wneud cynnydd mewn perthynas â chyflawni'i Ddyletswyddau Diogelu Corfforaethol, fel sydd i'w weld yn yr wybodaeth sydd wedi'i darparu yn ei adroddiad a natur barhaus y camau gweithredu sy'n cael eu cyflawni.
Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'i Dyletswyddau Diogelu Corfforaethol. Siaradodd hefyd am y gwaith partneriaeth sy'n cael ei gyflawni gyda Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, sef y bartneriaeth amlasiantaeth statudol sy'n gyfrifol am faterion diogelu ym mhob rhan o'r rhanbarth.
Gyda chytundeb yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman ar y mater hefyd. Wrth ymateb i'r materion a gafodd eu codi gan y Cynghorydd Jarman, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at waith sy'n cael ei gyflawni mewn perthynas â strategaeth atal hunanladdiad (drafft).
PENDERFYNWYD:
1. Adolygu'r cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r camau gwella i gefnogi gofynion Diogelu Corfforaethol a cheisio unrhyw wybodaeth bellach am unrhyw feysydd lle mae hynny'n annigonol.
Dyddiad cyhoeddi: 20/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/03/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/03/2021 - Cabinet
Effective from: 01/04/2021
Dogfennau Cysylltiedig: