Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Cyflawni a Gwella, adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu'r diwygiadau arfaethedig i lefelau ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer 2021/21 (ar waith o Ebrill 2021 neu cyn gynted â phosibl wedyn), yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y ffioedd a'r taliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo y mae modd eu cynnwys yn y Strategaeth Gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod adolygiad y Cabinet o'r ffioedd a'r taliadau yn rhan o drefniadau cynllunio ariannol Tymor Canolig y Cyngor, a bod cynnig i roi cynnydd safonol o 1.7% ar waith o 1 Ebrill 2021, ac eithrio yn y meysydd gwahanol:

·         Hamdden am Oes - Dim cynnydd

·         Taliadau Meysydd Parcio - Dim cynnydd;

·         Ffïoedd chwarae yr haf a'r gaeaf (Clybiau Chwaraeon) - Dim cynnydd;

·         Pryd-ar-glud/Prydau Canolfannau Oriau Ddydd - 10c y pryd ac yna rhewi'r pris tan 2023

·         Prydau Ysgol - Dim Cynnydd (a'r pris wedi'i rewi tan Ebrill 2023)

·         Ffioedd Profedigaeth - Dim Cynnydd

·         Y Lido/Parc Treftadaeth Cwm Rhondda - Dim cynnydd

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y lefelau cyllid a dderbyniwyd trwy'r Setliad Llywodraeth Leol wedi cael eu trafod; goblygiadau penderfyniadau a gymeradwywyd eisoes; Meysydd blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol; adborth a dderbyniwyd yn rhan o'r broses ymgynghori; a rhagamcanu lefel chwyddiant ar gyfer y dyfodol. Esboniwyd y byddai effaith y cynigion uchod yn lleihau'r incwm o £185k mewn blwyddyn lawn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y  diweddariad. Dywedodd yr Arweinydd fod y sefyllfa wrth edrych i'r dyfodol, o ran ffioedd a thaliadau, yn gadarnhaol ac yn falch o nodi bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd wedi dangos cefnogaeth eang i'r cynigion.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i siarad am y peilot, a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2019, i gymhwyso ffi amlosgi is ar gyfer trefnwyr angladdau sy'n cynnig amlosgiad uniongyrchol yn Rhondda Cynon Taf. Esboniwyd bod y Cyngor wedi edrych yn sympathetig ar feysydd fel hyn, a oedd, yn anffodus, wedi codi o ganlyniad i bandemig Covid-19.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn falch o nodi'r gostyngiad parhaus arfaethedig o 25% i holl ffioedd profedigaeth y Cyngor a dynnir gan deuluoedd cyn-filwyr rhyfel ymadawedig a swyddogion y lluoedd arfog sy'n preswylio yn Rhondda Cynon Taf.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth am bwysigrwydd plant yn cyrchu'r cyfleusterau hamdden ar adeg pan mae'n ddiogel gwneud hynny a chwestiynodd effaith ariannol rhewi taliadau caeau 3G, yn unol â thaliadau caeau chwarae. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth pe bai'r Cabinet yn bwriadu rhewi taliadau caeau 3G, byddai'r gost flynyddol yn cyfateb i £2000.

 

Roedd Aelodau'r Cabinet yn gefnogol i'r gwelliant ac yn cydnabod bod y gost yn fach iawn o'i chymharu â phwysigrwydd i blant gael mynediad at gyfleusterau hamdden. Felly, PENDERFYNWYD:

1.    Cymeradwyo'r lefelau diwygiedig arfaethedig ar gyfer holl ffioedd a thaliadau'r Cyngor fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 5 o'r adroddiad ac sydd wedi'u nodi yn Atodiad 1, yn amodol ar y diwygiad yma;

·         Rhewi'r taliadau caeau 3G ar gyfer 2021/2022 (ar gost o £2k);

2.    Yn amodol ar gytuno ar gynigion ffioedd a thaliadau, cynnwys yr effaith gyllidebol net £ 187k (wedi'i diweddaru) ar gyfer 2021/22) yn y cynigion strategaeth gyllidebol i'w hystyried gan y Cabinet a'r Cyngor fel y bo'n briodol (paragraff 5.4); a

3.    Nodi'r penderfyniadau ffioedd a thaliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo a'u cynnwys yn Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2021/22 (paragraff 5.5 / Tabl 2).

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 25/02/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/02/2021 - Cabinet

Effective from: 04/03/2021

Dogfennau Cysylltiedig: