Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol y Cydwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol 2019-2020 i'r Cabinet.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod RhCT yn rhan o Gydwasanaeth Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC), y mwyaf o blith y pum cydweithrediad rhanbarthol, sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru (NAS).
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wrth y Cabinet fod yr adroddiad wedi bod yn destun craffu gan Fwrdd Rhianta Corfforaethol y Cyngor a'r Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc.
Yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019-20, dysgodd yr Aelodau fod y galw am fabwysiadwyr wedi lleihau rhywfaint yn RhCT, ond roedd hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â'r gwaith â ffocws a wnaed i leihau nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn fwy cyffredinol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran mai blaenoriaeth allweddol y cydweithrediad oedd cynyddu'r cyflenwad o fabwysiadwyr a phwysleisiodd bwysigrwydd gwaith recriwtio. Yn ystod y cyfnod, bu cynnydd o 35% yn nifer y mabwysiadwyr, sy'n galonogol, ond dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod angen gwaith pellach i gynyddu'r niferoedd. At ei gilydd, roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran o'r farn bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ddarlun cadarnhaol a buddion y dull cydweithredol.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad calonogol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y gwelliant a wnaed i'r gwaith 'Taith Bywyd', a oedd wedi cynyddu o 44% i 60%, ond nododd fod cryn dipyn i'w wneud eto i gyrraedd y targed o 84%.
Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i siarad am y gwaith sylweddol a wnaed i gynyddu nifer y mabwysiadwyr yn y Rhanbarth, a oedd wedi arwain at gynnydd o 35%. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r cynnydd, ond nododd fod angen gwneud gwaith pellach i gynyddu'r niferoedd, yn enwedig yn dilyn pwysau'r pandemig Covid-19.
Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i staff am ddal ati i recriwtio rhagor o fabwysiadwyr flwyddyn ar ôl blwyddyn. Siaradodd yr Arweinydd am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal yn ystod y pandemig a chydnabu, wrth i'r plant ddechrau dychwelyd i'r ysgol, y gallai'r atgyfeiriadau gynyddu eto. Dywedodd yr Arweinydd fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rhoi cefnogaeth ychwanegol i Awdurdodau Lleol i ddarparu ar gyfer unrhyw bwysau ychwanegol wrth ddychwelyd i'r drefn arferol.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
Dyddiad cyhoeddi: 25/02/2021
Dyddiad y penderfyniad: 25/02/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/02/2021 - Cabinet
Effective from: 04/03/2021
Dogfennau Cysylltiedig: