Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, ddiweddariad ar y camau sydd wedi'u hamlinellu yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020, a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2018. Nodwyd y disgwyliad mai'r diweddariad blynyddol blaenorol ar gyfer 2019 i 2020 fyddai'r un olaf ar gyfer y cynllun yma. Serch hynny, oherwydd pandemig Covid-19, mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yma wedi'i ymestyn i gwmpasu'r cyfnod rhwng 2020 a 2021.

 

Clywodd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi newid rhai o'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan gynnwys Rheoliadau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygiad) (Coronafeirws) 2020. Amlygwyd y ddau newid allweddol yma mewn perthynas â'r rheoliadau i'r Aelodau:

·      Ymestyn hyd cylch gweithredu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg o'i dair blynedd gyfredol i ddeng mlynedd (2022 i 2032);  

·      Disodli'r ddyletswydd gyfredol sydd ar Awdurdodau Lleol i gynllunio darpariaeth eu haddysg gyfrwng Gymraeg yn seiliedig ar alw ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni targedau sydd wedi'u gosod gan LlC. Nod y targedau yma yw cynyddu canran y disgyblion sydd yn eu blwyddyn gyntaf o addysg gyfrwng Gymraeg dros gyfnod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yma.

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at y tabl yn Adran 5.2 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu cyfanswm canran y dysgwyr statudol oed ysgol sy'n cyrchu eu dysgu trwy Ysgolion Cynradd, Canol ac Uwchradd cyfrwng Cymraeg, a nododd mai CBSRhCT oedd â'r ganran uchaf o blith y pum ardal Awdurdod Lleol o dan Gonsortiwm Canolbarth y De am y tair blynedd academaidd flaenorol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gan y mwyafrif o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol RhCT leoedd dros ben ar hyn o bryd, 28.1% mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i siarad am y pwysau capasiti bach yn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, gan nodi bod y camau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r materion wedi'u hamlinellu yn Adran 5.7 yr adroddiad. Enghraifft o hyn oedd ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi £3.69 miliwn yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr er mwyn darparu 48 lle arall. Yn ogystal, mae CBSRhCT wedi buddsoddi $ miliwn arall i gynyddu ansawdd ac argaeledd darpariaeth Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar ar safleoedd ysgolion cynradd.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant i'r Cyfarwyddwr am yr Adroddiad Blynyddol, a heriwyd gan y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc ar  27 Ionawr 2021. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r nifer fawr o fuddsoddiadau a wnaed gan y Cyngor ac yn benodol, yr ymrwymiad a wnaed i ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg y n y blynyddoedd cynnar, sy'n galluogi plant i symud ymlaen i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod yr adroddiad yn dangos yn glir ymrwymiad yr Awdurdod Lleol i gefnogi'r camau a amlinellir o fewn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac i gyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o bobl yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gymraeg yr adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fel dogfen strategol i'r Awdurdod Lleol a'r gymuned fel ei gilydd. Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am y cyhoeddiad diweddar i ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol, yng ngoleuni effeithiau parhaus pandemig byd-eang COVID-19, a’r cyfyngiadau sydd ar waith o ran cynnal achlysuron cyhoeddus ac ymgynnull yn gymdeithasol. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn edrych ymlaen at groesawu'r achlysur mawreddog i RhCT yn 2024.

 

Ailadroddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y sylwadau blaenorol ac roedd yn falch o nodi'r cyllid sylweddol ar gyfer cynyddu capasiti ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn ychwanegol at y miliynau a fuddsoddwyd eisoes yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, siaradodd  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol H Fychan a Ms K Hadley (Llefarydd Cyhoeddus) ar yr eitem hon.

 

Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod y sylwadau a wnaed a’r pryderon a godwyd am effaith y feirws ar blant a theuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg. Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n trafod cefnogaeth er mwyn helpu disgyblion i ddal i fyny â'r hyn a gollwyd gyda Gweinidogion yng nghyfarfod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Roedd yn gobeithio, yn sgil pennu'r gyllideb, y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer ysgolion, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

O ran pwynt a godwyd am yr angen i'r Cyngor ymgysylltu ag unigolion ynghylch Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod ef a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wedi ymrwymo i gwrdd â rhieni i drafod cynlluniau yn y dyfodol er mwyn tawelu unrhyw bryderon.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Nodi cynnwys yr adroddiad; a

2.      Trafod a chytuno ar y diweddariad blynyddol a ddarperir yn yr adroddiad hwn.

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2021 - Cabinet

Effective from: 04/02/2021

Dogfennau Cysylltiedig: