Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-2020 i'r Cabinet.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Cymru (NAS) wedi'i lansio ym mis Tachwedd 2014, gan ddod â phob awdurdod lleol yng Nghymru ynghyd er mwyn cydweithio'n unigryw i ddarparu gwasanaethau mabwysiadu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Cabinet y bu gostyngiad yn y galw o fewn yr Awdurdod Lleol yn ystod y flwyddyn ond dywedodd fod y galw am fabwysiadwyr wedi cynyddu yn ystod dechrau'r flwyddyn 2020-2021. O ganlyniad i hyn, esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod sicrhau cyflenwad addas o fabwysiadwyr yn destun ffocws wrth edrych i'r dyfodol, a hynny ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r swyddog am yr adroddiad, gan gydnabod y bu llai o alw am fabwysiadwyr yn ystod y flwyddyn. Serch hynny, nododd fod hynny'n debygol o fod o ganlyniad i gamau a gymerwyd er mwyn atal plat rhag cael eu derbyn i'r system ofal. Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd cynyddu nifer y mabwysiadwyr yn y dyfodol, a hysbysodd y Cabinet, er gwaethaf yr amgylchiadau gyda Covid-19, fod y broses fabwysiadu wedi parhau yn ôl yr arfer drwyddi draw.

 

Cyn gorffen, nododd yr Aelod o'r Cabinet y gwelliannau a wnaed i'r Gwaith Taith Bywyd yn ystod y flwyddyn, sy'n hanfodol ar gyfer y bobl ifainc.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

 

Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2021

Dyddiad y penderfyniad: 14/01/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/01/2021 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: