Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol yr Aelodau at yr adroddiad ar y cyd ger eu bron gan nodi bod darpariaethau wedi'u cynnwys, drwy'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), i greu cyfrwng ar gyfer galluogi prif gynghorau i gyfathrebu ar lefel rhanbarthol yn gyson, a hynny gan ddefnyddio Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol (CJCs). Clywodd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw cydweithredu yn fater newydd i lywodraeth leol, gyda phrif gynghorau’n cydweithredu’n effeithiol mewn ystod o feysydd ers peth amser. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y rôl sylweddol yr oedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi'i chwarae wrth sefydlu cydweithrediadau ar draws Cwm Taf Morgannwg a rhanbarth ehangach De Cymru.

 

Clywodd yr Aelodau mai nod y Cyd-bwyllgorau yma oedd sicrhau bod trefniadau rhanbarthol cyson, cydnerth ac atebol ar waith er mwyn cyflawni tair swyddogaeth bwysig: (i) cynllunio defnydd tir strategol (ii) cynllunio trafnidiaeth strategol a (iii) datblygu economaidd. Ychwanegwyd bod Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol trwy reoliadau, yn darparu rhagor o gydlyniant a llai o gymhlethdod yn yr ymagwedd at drefniadau llywodraethu rhanbarthol wrth arfer y tair swyddogaeth a gynigiwyd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg byr i'r Aelodau o swyddogaethau allweddol Cyd-bwyllgor Corfforaethol gan gynnwys aelodaeth, sefydlu, hawliau pleidleisio, Aelodau cyfetholedig, materion staffio ac adnoddau, a chraffu. Clywodd yr Aelodau y byddai cyllid cychwynnol yn cael ei ddarparu ac y byddai angen cynnal cyfarfod agoriadol y Cyd-bwyllgor Corfforaethol erbyn Medi 2021.

 

Cyn cloi, dywedodd y Cyfarwyddwr fod y Rheoliadau Drafft sy'n llunio Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn destun Ymgynghoriad ar hyn o bryd, a dywedodd fod Aelodau'r Pwyllgor wedi trafod y rheoliadau drafft yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 9 Rhagfyr 2020, ac y byddai adborth o'r cyfarfod hwnnw'n rhan o'r ymateb cyffredinol i'r ymgynghoriad.

 

Ar yr adeg hon y cyfarfod galwodd yr Arweinydd ar Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Adams, fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a aeth ymlaen i roi trosolwg i'r Cabinet o sylwadau'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â'r rheoliadau drafft.

 

Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Pwyllgor Craffu am ei adborth ac adleisio rhai o'r pryderon a godwyd. Nododd y Dirprwy Arweinydd y byddai angen disgresiwn sylweddol o fewn Awdurdodau Lleol rhanbarthol wrth drafod trefniadau llywodraethu ac ymarferoldeb yn rhan o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cyfeiriodd yr Aelod eto at bryderon mewn perthynas ag aelodau cyfetholedig a'r goblygiadau y byddai hyn yn eu cael ar ddemocratiaeth; yr amserlenni uchelgeisiol a nodwyd gyda dyddiad cychwyn Medi 2021 a'r diffyg trefniadau craffu a amlinellwyd yn y rheoliadau drafft. Ychwanegodd fod hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw atebolrwydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn hapus mewn egwyddor â'r cysyniad o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol a siaradodd am rai pryderon posibl gyda mandadu swyddogaethau a arferir gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol. Er mwyn i CJCs fod yn llwyddiannus, dywedodd fod angen iddyn nhw gael eu llywio gan Lywodraeth Leol.

 

Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai fod angen i Aelodau Etholedig lywio'r agenda mewn perthynas â Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a chododd bryderon hefyd mewn perthynas â'r aelodau etholedig ac anetholedig arfaethedig. Roedd yr Aelod Cabinet yn deall y buddion y byddai'r aelodau cyfetholedig yma'n eu cynnig o ran arbenigedd ond roedd yn teimlo y byddai hyn yn cael ei wasanaethu'n well ar is-bwyllgor y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, yn hytrach na lleihau atebolrwydd democrataidd ar y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ei hun.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol sylwadau cadarnhaol ar rannu arferion gorau a'r cyfle pellach i leihau dyblygu gan ychwanegu bod Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn darparu cwmpas pellach o ran arbedion ariannol i Awdurdodau. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y gefnogaeth ariannol i'w darparu mewn perthynas â chostau cychwynnol, a fyddai'n dileu'r baich i Awdurdodau Lleol.

 

Holodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg sut y byddai'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn cysylltu â threfniadau gweithio ar y cyd sefydledig eraill gan gyfeirio at y Gwasanaeth Addysg ar y Cyd a'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai trefniadau o'r fath yn parhau fel y maen nhw, er bod modd i'r rhain gael eu cynnwys yn nhrefniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn y dyfodol.  Dywedodd yr Arweinydd mai barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mewn perthynas â hyn oedd bod y maes addysg lleol eisoes yn cyflawni trwy ei drefniadau ei hun, ac felly na ddylid ei gyffwrdd ac y dylai'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol fwrw ymlaen â meysydd llai yn gyntaf.

 

Gorffennodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chynhwysiant y trafodaethau drwy dalu teyrnged i safon uchel y gwaith syn deillio o'r trefniadau cydweithredol presennol, a nododd bwysigrwydd Awdurdodau Lleol o ran llunio'r anghenion ar gyfer cyflawni er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD:

 

     I.        I nodi dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru (LlC), ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad, sy'n ymwneud â rheoliadau drafft a fyddai'n sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru, ac yna'n arfer y swyddogaethau canlynol ledled y rhanbarth; (1) lles economaidd, (2) cynllunio datblygiad strategol, a (3) datblygu polisïau trafnidiaeth;

 

    II.        Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, i gwblhau'r ymateb ysgrifenedig terfynol i ymgynghoriad LlC yn seiliedig ar adborth yr Aelodau yn y cyfarfod a'r adborth a gafwyd o Gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020 - a chyflwyno'r ymateb hwnnw i LlC cyn i'r ymgynghoriad gau.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 18/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/12/2020 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: