Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol ddiweddariad i'r Cabinet ynghylch ariannu'r cynigion i gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (YGG Aberdâr) i ateb y galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, yn y cyfarfod ar 20 Medi 2018, eglurodd y Cyfarwyddwr fod cyllid wedi'i dderbyn ar 4 Tachwedd 2020 er mwyn llunio a chyflwyno achos busnes ariannol o ran Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i Lywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o gynyddu capasiti Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr i ateb y galw am leoedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg.
Clywodd yr Aelodau mai £4.5 miliwn yw cyfanswm y gost bellach, yn hytrach na £3.3 miliwn, a hynny gan fod y prosiect bellach yn ymgorffori cyfleuster gofal plant newydd. Serch hynny roedd yr Aelodau'n falch o nodi bod cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu i 65% o 50% ers hynny, sy'n golygu bod cyfraniad gofynnol y Cyngor wedi gostwng i 35%.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn falch o nodi bod y cynllun busnes ariannol a gafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiannus a nododd y byddai'n ffordd gadarnhaol o sicrhau bod y Cyngor yn bwrw'i darged o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn RhCT.
Roedd yr Arweinydd yn falch o nodi'r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a chanran gyffredinol y cyllid cyfatebol ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi'r sefyllfa wedi'i diweddaru ar ganlyniad cyflwyno achos busnes ariannol i Lywodraeth Cymru;
2. Adolygu a chytuno ar gyfanswm newydd y costau a'r pecyn cyllido;
3. Cynnig bod yr adroddiad Benthyca Darbodus sydd ynghlwm yn Atodiad A yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar 25 Tachwedd 2020.
Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet
Effective from: 25/11/2020
Dogfennau Cysylltiedig: