Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a diwygio Rheoliad 123.

 

Hefyd, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am y gwaith cyn-graffu a wnaed gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y gallai derbynebau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ymddangos yn is na'r disgwyl ac eglurodd fod llawer o safleoedd wedi cael caniatâd cyn i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ddod i rym. Amlygodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd Rhestr 123 y Cyngor, ac roedd yn falch o nodi'r ychwanegiadau, yn enwedig Gorsaf Drenau Trefforest a'r estyniad arfaethedig i'r rheilffordd rhwng Aberdâr a Hirwaun.

 

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod y Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned wedi derbyn cyflwyniad yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2020, er mwyn atgoffa'r Cynghorau Cymuned o'u rhwymedigaethau.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol;

2.      Cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diwygio ar gyfer ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.9 yr adroddiad;

3.      Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 diwygiedig wedi hynny os na ddaw sylwadau i'r gwrthwyneb.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet

Effective from: 24/11/2020

Dogfennau Cysylltiedig: